Rheoli a Datblygu Chwaraeon
Mae aelodau’r grŵp ymchwil Rheoli a Datblygu Chwaraeon yn cynnwys cyfuniad o academyddion ac ymarferwyr gydag ystod o brofiad yn ymwneud â'r byd academaidd a diwydiant. Mae eu diddordebau ymchwil yn eang oherwydd natur ddeinamig a chyflym y maes a chenhadaeth y grŵp yw cynhyrchu ymchwil o ansawdd uchel mewn nifer o feysydd. Mae'r rhain yn cynnwys (ond heb fod yn gyfyngedig i) y canlynol: cyfranogiad mewn chwaraeon a gweithgaredd corfforol, rheoli chwaraeon a gweithgaredd corfforol, llywodraethu chwaraeon, yn ogystal â menter ac arloesi mewn chwaraeon ac iechyd.
Meysydd Ymchwil / Arloesi
Chwaraeon ar gyfer Datblygu
Mae sawl agwedd wahanol i’r maes ymchwil hwn. Mae gwaith empirig yn parhau i gael ei wneud mewn llu o wahanol feysydd ac mae gwaith diweddar wedi ymchwilio i effeithiolrwydd mentrau chwaraeon a gweithgaredd corfforol (ee nofio am ddim), yn ogystal â sut y gellir defnyddio chwaraeon fel mecanwaith i dyfu cymunedau neu'n wir, i weithio gyda grwpiau anodd eu cyrraedd.
Llywodraethu Chwaraeon
Mae'r ffrwd llywodraethu chwaraeon wedi cynhyrchu ymchwil helaeth yn ymwneud ag ennill mantais gystadleuol a meithrin gallu o fewn cenhedloedd chwaraeon sy'n datblygu a'u cyrff llywodraethu cenedlaethol. Mae gwaith hefyd yn parhau i gael ei wneud ar y cyd-destun byd-eang, yn ogystal â'r cyd-destun lleol ac mae ymchwil yn edrych ar sut mae sefydliadau chwaraeon yn cynllunio ac yn cyflawni strategaeth, ochr yn ochr â sut mae polisi chwaraeon yn cael ei gyflwyno gan y rhanddeiliaid perthnasol.
Digwyddiadau Chwaraeon
Mae digwyddiadau chwaraeon yn ffrwd annatod i'r grŵp ymchwil. Mae prosiectau wedi edrych ar rôl gwirfoddolwyr wrth gynllunio a darparu digwyddiadau chwaraeon o bob maint. Mae gwaith empirig wedi cael ei wneud ac yn parhau i gael ei wneud gan edrych ar ddigwyddiadau chwaraeon enfawr, gyda ffocws penodol ar y modd maent yn cael eu llywodraethu a chynllunio etifeddiaeth.
Arloesi ac Entrepreneuriaeth
Mae'r maes hwn yn ymchwilio i natur newidiol chwaraeon a gweithgaredd corfforol mewn perthynas â'r gwahanol sectorau. Er enghraifft, mae’r ffaith fod llai o bobl yn cymryd rhan mewn chwaraeon tîm traddodiadol bellach yn golygu bod pobl yn defnyddio chwaraeon a gweithgaredd corfforol mewn gwahanol ffyrdd. Mae gweithgaredd corfforol bellach yn dod yn fwy amgen ac mae twf gweithgareddau arbenigol fel trawsffit (crossfit) yn golygu bod cystadleuaeth am fusnes rhwng y sectorau. Gallai gwaith yn y dyfodol edrych hefyd ar y rôl y mae technoleg yn ei chwarae wrth ddefnyddio chwaraeon a gweithgaredd corfforol.
Aelodau'r Grŵp
|
| | |
Dr Alex McInch,
Uwch Ddarlithydd mewn Rheoli a Datblygu Chwaraeon (Arweinydd Grŵp) | Yr Athro Leigh Robinson,
Dirprwy Is-Ganghellor ac Athro mewn Rheoli Chwaraeon |
Dr Olesya Nedvetskaya, Darlithydd mewn Busnes Chwaraeon | Darlithydd mewn Rheoli a Datblygu Chwaraeon |
|
| | |
James Thie,
Darlithydd mewn Rheoli a Datblygu Chwaraeon |
Suzy Drane,
Darlithydd mewn Rheoli a Datblygu Chwaraeon | | |
Cydweithwyr
Yr Athro Scott Fleming (Bishop Grosseteste University)
Yr Athro Andrew Parker (Consultant academic, UK)
European Association of Sport Management
International Olympic Committee
Dr Geoff Nichols (Sheffield Hallam University)
Enghreifftiau o Gyllid
Chwaraeon Cymru
Chwaraeon Lloegr