Ymchwil ac Arloesi>Diwylliant, Polisi ac Ymarfer Proffesiynol>Addysg Iechyd Corfforol ar gyfer Dysgu Gydol Oes

Addysg Iechyd Corfforol ar gyfer Dysgu Gydol Oes

​Mae Grŵp Ymchwil Addysg Iechyd Corfforol ar gyfer Dysgu Gydol Oes (PHELL) yn gymuned fywiog, gynhwysol o ymchwilwyr ac ymarferwyr rhyngddisgyblaethol sydd wedi ymrwymo i archwilio’n gritigol a hybu dysgu gydol oes sy'n hyrwyddo ffurfiau teg o les cymdeithasol, diwylliannol, iechyd ac amgylcheddol cynaliadwy ar draws ystod o leoliadau gweithgaredd addysg iechyd corfforol. Wrth anelu at hyn, mae PHELL yn gweithio tuag at yr amcanion canlynol:

1. Cynhyrchu a lledaenu ymchwil ryngddisgyblaethol o ansawdd uchel mewn cyhoeddiadau a adolygir gan gymheiriaid, cynadleddau rhyngwladol a rhwydweithiau ymchwil dethol.

2. Cydweithio'n weithredol â chymunedau, sefydliadau addysg ac ymarferwyr wrth ddylunio, gweithredu a gwerthuso ymchwil o ansawdd uchel sy'n seiliedig ar ymarfer sy'n cynhyrchu mathau o iechyd a lles corfforol teg ar lefel leol, genedlaethol a byd-eang.

3. Llywio’n gritigol ddatblygiad polisi sy'n cyfrannu'n weithredol at ddatblygiad cynaliadwy mathau teg o addysg iechyd corfforol gydol oes.

 

Meysydd Ymchwil / Arloesi

Hyrwyddo Llythrennedd Corfforol yn y gymuned

Nod ein gwaith o fewn y thema hon yw gweithio gydag athrawon, Cyrff Llywodraethu Cenedlaethol (CLlC) a'r gymuned wrth ddatblygu, gweithredu a gwerthuso arferion sy'n cyd-fynd ag egwyddorion llythrennedd corfforol. Yng nghyd-destun ysgolion mae gwaith diweddar wedi canolbwyntio ar alluogi athrawon i weithredu'r cysyniad o lythrennedd corfforol yn eu hymarfer. Mewn lleoliad cymunedol ehangach, mae ein gwaith cyfredol fel 'Ymgynghorwyr Llythrennedd Corfforol Chwaraeon Cymru' wedi mabwysiadu dull 'Ymchwiliad Gwerthfawrogol' wrth ddatblygu gwybodaeth, dealltwriaeth a chyflwyno egwyddorion llythrennedd corfforol gyda CLlC ac awdurdodau lleol ar lefel leol a chenedlaethol. Ffocws canolog y gwaith hwn yw defnyddio ffurfiau cynaliadwy o ddysgu proffesiynol i gefnogi ysgolion, CLlC a phartneriaid cymunedol i wneud synnwyr o egwyddorion Llythrennedd Corfforol yng nghyd-destun eu harferion eu hunain. Wrth wneud hynny, mae'r gwaith hwn yn cyfrannu at y nod ehangach o wella profiad teg unigolion o ymgysylltiad gydol oes â gweithgaredd corfforol.

                         

 

Cyflwyno Polisi a Chwricwla o fewn Cymunedau Addysg Iechyd Corfforol

Mae ein gwaith o dan y thema hon yn canolbwyntio ar y ddealltwriaeth gritigol o sut mae unigolion yn profi adeiladu, trosi a chyflwyno polisi a chwricwla o fewn cyd-destunau Addysg Iechyd Corfforol amrywiol. Mae'r gwaith hwn yn adeiladu ar ddamcaniaethau cymdeithasol hanesyddol a chyfoes ac ystod o ddulliau ymchwil gan gynnwys defnyddio dyluniad ymchwil astudiaethau achos, dadansoddi dogfennau a defnyddio dulliau ansoddol fel grwpiau ffocws, arsylwi heb gyfranogwyr a ffurfiau ar ddulliau gweledol. Mae gwaith sydd ar y gweill yn cynnwys cefnogi Addysgwyr Iechyd Corfforol yng Nghymru i drosi a chyflwyno'r cwricwlwm newydd ar gyfer Cymru ar draws ystod o gyd-destunau Addysg Gynradd ac Uwchradd. Yng nghyd-destun Addysg Uwch, mae gwaith o fewn y thema hon hefyd yn canolbwyntio ar ddeall sut mae academyddion a myfyrwyr yn trosi ac yn gweithredu newidiadau i bolisi chwaraeon a gweithgaredd corfforol o fewn dyluniad rhaglenni a gweithgareddau ystafell ddosbarth. Trwy waith cysyniadol ac empirig parhaus mae'r thema ymchwil hon yn cyfrannu at y nod ehangach o sicrhau bod cymunedau Addysg Iechyd Corfforol yn cael eu cefnogi wrth gyflwyno polisi a chwricwla er budd pob unigolyn.

         

Aelodau'r Grŵp

Staff Academaidd

Dr David Aldous, Uwch Ddarlithydd Addysgeg (Arweinydd Grŵp)
Dr Anna Bryant,  Cyfarwyddwr Addysg Athrawon a Dysgu Proffesiynol, Ysgol Addysg a Pholisi Cymdeithasol
Dr David Brown, Darllenydd mewn Cymdeithaseg Chwaraeon a Diwylliant Corfforol
Sarah Wagstaff, Tiwtor Cyswllt
Mike Castle, ​Darlithydd mewn Addysg Gorfforol
Lucy Witt, Uwch Ddarlithydd
Heidi Wilson, Uwch Ddarlithydd
Dr Kevin Morgan, Prif Ddarlithydd Hyfforddi Chwaraeon
Gemma Mitchell, Ddarlithydd
Daniel Milton, Uwch Ddarlithydd Gwyddor Hyfforddi
Dr George Jennings, Darlithydd mewn Cymdeithaseg Chwaraeon / Diwylliant Corfforol
Dr Anwen Jones, Uwch Ddarlithydd mewn Ffisioleg ac Iechyd
Dr Neil Hennessey, Uwch Ddarlithydd mewn Gwyddor Hyfforddi-Cymraeg
Ian Gardner, Uwch Darlithydd mewn Addysg Gorfforol a Chwaraeon
Suzy Drane, Uwch Ddarlithydd mewn Datblygu Chwaraeon
Dr Lea Dohme, Ddarlithydd mewn Seicoleg Chwaraeon ac Ymarfer Corff
Fiona Heath-Diffey, Uwch Ddarlithydd, TGAU Uwchradd ​Addysg Gorfforol
Yr Athro Steve Cooper, Athro Biostatistics Cymhwysol
Jose Castro, Darlithydd mewn Addysg Gorfforol a Chwaraeon Ieuenctid
Sally Bethell, Uwch Ddarlithydd, TGAU Uwchradd
Jane Bellamy, Uwch Ddarlithydd mewn Dawns
Rebecca Straker, Arddangosydd-Dechnegydd Biomechaneg

Myfyrwyr

MPhil/PhD MSc​  TGAU Myfyriwr Doethuriaeth Broffesiynol
​Amy Rees​Christian Farrell​Lewis EynonElizabeth Lewis​
​Mara Mata​Victoria Evans​Lucy Holmes
​Rhys Lloyd
​Dione Leigh Rose
 

 

Cydweithwyr

Mewnol

Yr Athro Gareth Loudon, Ysgol Celf a Dylunio Caerdydd
Bethan Gordon, Ysgol Celf a Dylunio Caerdydd
Jennie Clement, Ysgol Addysg a Pholisi Cymdeithasol Caerdydd
Nick Young, Ysgol Addysg a Pholisi Cymdeithasol Caerdydd

Allanol

Daniel Newberry, Tonyrefail Community School
Emma Hill, Active Health and Well-Being
Dr Lizi Smith, Middlesex University
Gethin Foulkes, Chester University
Dr Fiona Chambers, University of Cork, Iweddon
Yr Athro Dawn Penney, Edith Cowan University, Perth, Awstralia
Associate Professor Richard Keegan, Canberra University, Canberra, Awstralia
Dr Paul McMillan, Edinburgh University
Dr Nicola Carse, Edinburgh University
Clare Roberts, Physagogy Ltd
Richard Keegan, University of Canberra

 

Enghreifftiau o Gyllid (Allanol)

2016-2017 Dr Kevin Morgan, Dr Anna Bryant & Dr Lowri Edwards. Sport Wales Physical Literacy Programme for Schools (PLPS) project, £200,000.

2017-parhaus Dr Kevin Morgan, Dr Anna Bryant, Dr Lowri Edwards, Dr David Aldous & Suzy Drane. Embedding Physical Literacy in National Governing Bodies, Chwaraeon Cymru, £79,900.

2018-parhaus Dr David Aldous, Dr Anna Bryant and Dr Lowri Edwards. Welsh Government Professional Learning and Research Development, Llywodraeth Cymru, (2019 - £11,593, 2020 - £17,004)