Athroniaeth a Moeseg mewn Chwaraeon

Caiff y Grŵp Ymchwil Athroniaeth a Moeseg mewn Chwaraeon ei gynnal gan Ysgol Chwaraeon a Gwyddorau Iechyd Prifysgol Metropolitan Caerdydd, ac mae'n cynnwys athronwyr o Brifysgol Metropolitan Caerdydd ynghyd â rhwydwaith o gydweithwyr allanol. Arweinir y grŵp gan yr Uwch Ddarlithydd Dr. Alun Hardman (gweler Aelodau'r Grŵp).

Rydym yn ymroi i rai o faterion mwyaf hanfodol a blinderus chwaraeon, gyda chwestiynau fel:

- Beth yw'r berthynas rhwng chwaraeon a phersonoliaethau ac ymddygiadau caethiwus?
- Ydy pobl byd chwaraeon yn fodelau rôl? 
- Beth yw cydraddoldeb mewn chwaraeon, a sut mae ei gyflawni?
- A yw'n iawn i athletwyr newid teyrngarwch o un wlad i un arall? 
- A oes cydraddoldeb rhwng y rhywiau mewn chwaraeon (cystadleuol)?
- A gaiff menywod sydd â hyperandrogeniaeth gymryd rhan mewn chwaraeon elit? 
- A ddylid gwahardd sylweddau sy'n gwella perfformiad mewn chwaraeon? 
- A ddylid gwahardd bocsio?
 
Ewch i Meysydd Ymchwil / Arloesi i gael rhagor o wybodaeth.

Fel rhan o'r grŵp hwn, rydym yn cyflawni'r canlynol:

- Llunio ymchwil ar y cyd ac yn unigol ac allbynnau ysgolheigaidd i'w cyhoeddi,
- Cyflawni ymchwil a phrosiectau ymgynghori a ariennir ac na ariennir gyda sefydliadau allanol
- Goruchwylio myfyrwyr ymchwil ôl-raddedig,
- Cyflwyno ceisiadau i gyrff ariannu ymchwil mewnol ac allanol,
- Trefnu digwyddiadau mewnol ac allanol (megis seminarau, gweithdai a chynadleddau)
- Hwyluso gweithgareddau darllen, ysgrifennu a datblygiad proffesiynol. 
- Croesawu ysgolheigion gwadd y mae eu prosiectau a'u diddordebau'n cyd-fynd â rhai y grŵp.

Rydym yn annog pawb sydd â diddordeb i gysylltu â ni, i gymryd rhan yn ein digwyddiadau, ac i ystyried ymuno â'n rhwydwaith ymchwil. Cliciwch ar y dolenni yn yr adran Aelodau'r Grŵp i gael manylion cyswllt.   
 

Meysydd Ymchwil / Arloesi

Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol mewn Chwaraeon

Rydym yn archwilio'r ffyrdd y dylai chwaraeon sicrhau bod unigolion yn cael eu gwerthfawrogi a'u trin yn deg ac yn ddiduedd. Rydym yn edrych ar sut mae cyfiawnder cymdeithasol drwy chwaraeon yn cynnwys asesu polisïau a mesurau sydd wedi'u cynllunio i sicrhau dosraniad tecach o gyfleoedd bywyd mewn cymdeithas. Mae ein diddordebau penodol yn canolbwyntio ar gydraddoldeb a chyfiawnder cymdeithasol mewn perthynas â a) rhywedd, rhywiaeth a rhywioldeb, b) hiliaeth a homoffobia c) anabledd a chynhwysiant.

 

Chwaraeon a Chaethiwed

Rydym yn archwilio'r berthynas rhwng chwaraeon a phersonoliaethau caethiwus a ffurfio ymddygiadau, yn benodol mewn perthynas ag effaith yfed alcohol a gamblo ar ddiwylliannau chwaraeon. Rydym yn asesu'n feirniadol y strwythurau cymdeithasol a gwleidyddol sy'n cyfryngu'r modd y mae pobl yn dilyn chwaraeon drwy ddiwydiannau sy'n niweidiol i iechyd a llesiant.

 

Hunaniaeth Genedlaethol, Gwladgarwch a Chynrychiolaeth Chwaraeon

Rydym yn archwilio gwerth a swyddogaeth chwaraeon rhyngwladol, ac yn asesu'n feirniadol y rôl y mae cynrychiolaeth genedlaethol (gan unigolion a thimau) yn ei chwarae mewn gwleidyddiaeth ddomestig, cenedlaethol a byd-eang. Rydym yn monitro trosglwyddoldeb cenedlaetholdeb chwaraeon, ac yn asesu ei effaith ar ddilysrwydd chwaraeon rhwng cenedl-wladwriaethau.

Llywodraethu Moeseg ac Uniondeb Chwaraeon 

Rydym yn cynnal ymchwil ac yn gwerthuso sut mae aelodau o gyrff llywodraethu sefydliadau (e.e. IOC, FIFA, WADA, NGB) yn sefydlu polisïau ac yna'n eu monitro ar waith. Nod y gwaith hwn yw llywio pa fecanweithiau sy'n ofynnol er mwyn cydbwyso grymoedd yr aelodau (sy'n atebol), a'u prif ddyletswydd o ran gwella ffyniant a hyfywdra'r sefydliad chwaraeon.
     

Datblygiad Moesol a Chymeriad mewn Chwaraeon

Rydym yn asesu pa wirionedd sydd yn yr honiad bod chwaraeon yn 'meithrin cymeriad'. A oes gan chwaraeon y gallu i ddatblygu rhinweddau moesol nodedig, rhinweddau moesol, a'r gallu i resymu'n foesol? Mae ein hymchwil yn canolbwyntio ar ystyr cysyniadol termau megis moesoldeb, rhinwedd, a moeseg, ynghyd â beth mae'n ei olygu'n ymarferol i fabolgampwr moesol sy'n deall beth sy'n gywir a drwg, ac sy'n dewis gwneud y peth cywir o'u gwirfodd. Rydym yn asesu beth mae'n ei olygu i fod yn fabolgampwr, a sut i ymgysylltu ym myd chwaraeon yn ôl ymddygiad sy'n fwriadol, rhagfynegadwy ac yn gyson dda.


Dyfarnu Chwaraeon

Mae dyfarnu a rôl swyddogion chwaraeon wedi dod yn fater o bwys. Rydym yn dod â ffocws athronyddol sy'n amlygu bod cyfiawnder a haeddiant cystadlaethau chwaraeon yn dibynnu'n rhannol ar wirioneddau dyfarnu da (perfformiadau) sy'n codi o gymysgedd briodol o gynhwysion epistemig (dyfarniadau) a metaffisegol (gweithredoedd).


Aelodau'r Grŵp

Uwch Ddarlithydd Moeseg ac Athroniaeth Chwaraeon

 

Athro Moeseg Chwaraeon
Uwch Ddarlithydd Cymdeithaseg ac Athroniaeth
Prif Ddarlithydd: Arweinydd Datblygu Colegau Agored
Darlithydd Moeseg Chwaraeon

 


Cydweithwyr

Dr Andrew Bloodworth,  Uwch Ddarlithydd, Ysgol Chwaraeon a Gwyddorau Ymarfer Corff Prifysgol Abertawe
Dr Paul Davis - Uwch Ddarlithydd Cymdeithaseg Chwaraeon, Gwyddorau Chwaraeon ac Ymarfer Corff, Prifysgol Sunderland
Dr Tim Elcombe - Athro Cydymaith, Adran Cinesioleg ac Addysg Gorfforol; Cymrawd, Ysgol Materion Rhyngwladol Balsillie, Prifysgol Wilfrid-Laurier, Canada
Yr Athro Mike McNamee, Cyfarwyddwr, Sefydliad Ymchwil Moeseg a Chyfraith, Prifysgol Abertawe

Enghreifftiau o Gyllid

 

Corff Cyllido: Coleg Cymraeg Cenedlaethol
Prosiect Ymchwil/Dyddiadau: Hysbysebu gamblo a phobl ifanc (2018)
Dyfarniad Grant: £2,500.

Corff Cyllido: Alcohol Concern Cymru.
Prosiect Ymchwil/Dyddiadau: Amlygrwydd a chymhellion defnydd o gyffuriau gwella perfformiad a delwedd ac yfed alcohol mewn rygbi amatur (2017-2018).
Grant a Ddyfarnwyd: £10,000. 

Corff Cyllido: Y Gymdeithas Astudio Caethiwed
Prosiect Ymchwil/Dyddiadau: ‘When Luck Runs Out’ ail Gynhadledd Gamblo Eithafol Cymru (2016).
Grant a Ddyfarnwyd: £6000.

Corff Cyllido: Coleg Cymraeg Cenedlaethol
Prosiect Ymchwil/Dyddiadau: Profiadau cyn bêl-droediwr proffesiynol alcoholig (2012)Grant a Ddyfarnwyd: £2,500.

Corff Cyllido: Y Cyngor Ymchwil Economaidd a Chymdeithasol (ESRC) Rhaglen Hyfforddi Doethuriaeth Cymru
Ysgoloriaeth PhD Cydweithredol
Prosiect Ymchwil/Dyddiadau: Rôl chwaraeon yn amlygiad a thriniaethau ymddygiadau caethiwus (2018-21)
Dyfarniadau Ysgoloriaeth: £30,000 (oddeutu)
Derbynnydd yr Ysgoloriaeth: Sian Edwards.

Corff Cyllido: Llywodraeth Cymru - Rhaglen Mewnwelediad Strategol
Prosiect Ymchwil/Dyddiadau: Ymchwil Pêl-droed Llawr Gwlad (09/09  – 04/10)
Partner Ymchwil: Ymddiriedolaeth Cymdeithas Bêl-droed Cymru (www.welshfootballtrust.org.uk)
Dyfarniad: £5k

Corff Cyllido: Rhaglen Interniaeth Santander
Prosiect Ymchwil/Dyddiadau: Hanes Bywyd Hyfforddwyr Pêl-droed Tsieina mewn Oes o Ddiwygiad. (2019)
Partner Ymchwil: Ymddiriedolaeth Cymdeithas Bêl-droed Cymru. (www.welshfootballtrust.org.uk)
Dyfarniad Interniaeth: £6k
Derbynnydd Interniaeth: Xiaoyun Tang