Mae gan y Grŵp Ymchwil Bwyd, Maeth ac Iechyd ddau brif faes ymchwil; Maeth Iechyd y Cyhoedd, a Bwydydd Bioactif ac Ergogenig. Canlyniad yr ymchwil ac effaith y ddwy thema yw gwella dewisiadau deietegol a gwella ansawdd a gwerth maeth y bwydydd, er mwyn darparu manteision mesuradwy i iechyd wrth atal, trin a rheoli anhwylderau metabolaidd megis gordewdra, diabetes, a chlefyd cardiofasgwlar.
Meysydd Ymchwil / Arloesi
Maetheg Iechyd y Cyhoedd a'r Geg
Mae ein hymchwil yn gwerthuso dewisiadau bwyd sy'n gysylltiedig â dewisiadau synhwyraidd ac addasiad yn ymwneud yn benodol â bwydydd sy'n Uchel mewn Braster, Halen a Siwgr neu fwydydd sydd wedi'u prosesu'n helaeth. Mae'r ymchwil yn archwilio sawl maes allweddol, gan gynnwys fformiwleiddiad cynhyrchion, maint dognau a marchnata bwydydd sy'n Uchel mewn Braster, Halen a Siwgr, a'r effeithiau y mae ffactorau megis oedran, rhywedd a lefelau gweithgarwch corfforol yn eu cael ar ddewis bwyd. Ein ffocws drwy'r Ganolfan Diwydiant Bwyd yw cynorthwyo gwneuthurwyr bwyd i ail-fformiwleiddio cynhyrchion er mwyn annog newidiadau cadarnhaol mewn ymddygiadau i wella iechyd. Yn ogystal, rydym yn darparu cyngor ymarferol i ddefnyddwyr a'r tîm Iechyd y Cyhoedd i sicrhau bod 'newidiadau iachus yn newidiadau hawdd'.

Gyda'n gweledigaeth ar gyfer y dyfodol, ein nod yw sicrhau bod newidiadau iachus hefyd yn newidiadau cynaliadwy o ran y faich ar yr amgylchedd, gan sicrhau cyflenwad bwyd maethlon, diogel a chynaliadwy ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol.
Prosiectau:
• Gwerthuso dewisiadau bwyd sy'n ymwneud â dewisiadau synhwyraidd ac addasiad sy'n benodol gysylltiedig â bwydydd sy'n Uchel mewn Braster, Halen a Siwgr neu fwydydd sydd wedi'u prosesu'n helaeth.
Bwydydd Bioactif ac Ergogenig
Tîm amlddisgyblaethol yw'r grŵp ymchwil Bwydydd Bioactif ac Ergogenig sy'n rhan o ymchwil parhaus i echdynnu, nodweddion cemegol, cyfoethogi a diogelu cyfansoddion bioactif (deunyddiau maethol-fferyllol) sydd wedi'u cynnwys mewn systemau bwyd o blanhigion, anifeiliaid (cynhyrchion llaeth) a bwydydd wedi'u meithrin. Mae deall gweithrediad biolegol y cyfansoddion hyn yn rhan hanfodol o'r ymchwil, ac felly mae'r grŵp yn archwilio bioactifrwydd y cyfansoddion hyn in vitro gan ddefnyddio technegau meithrin celloedd. Mae gennym hefyd y capasiti i gynnal treialon â phobl gyda chynhyrchion sy'n dod o fwydydd, a phennu paramedrau metabolaidd megis ymwrthiant inswlin, glwcos a cholestrol.
Drwy gydweithio gyda'r diwydiant, rydym hefyd yn archwilio cyfleoedd i fasnacheiddio ein canfyddiadau ymchwil, gyda'r nod o gael eiddo deallusol a datblygu bwydydd gweithredol newydd y gellir eu defnyddio i wella iechyd, llesiant a pherfformiad mewn chwaraeon.

Mae prosiectau'n cynnwys
• Effaith echdyniadau planhigion bioactif yn y broses o wella clwyfau gan ddefnyddio model celloedd meinwe dynol.
• Ymchwilio i ddeunyddiau maethol-fferyllol gwrth-ddiabetig mewn gwahanol echdyniadau planhigion e.e. te, hadau a ffrwythau penodol
• Pennu beth yw potensial gwrthocsidol a gwrthlidiol gwahanol echdyniadau o blanhigion.
Aelodau'r Grŵp
|  |  |
Prif Ddarlithydd (Arweinydd Grŵp) | Dr Ruth Fairchild,
Uwch Ddarlithydd | Uwch Ddarlithydd Geneteg Dynol/Clinigol |
|
|
|
Darlithydd Cynhyrchu Bwyd a Thechnoleg Cynhyrchu Bwyd | Uwch Ddarlithydd Cynhyrchu Bwyd a Thechnoleg Cynhyrchu Bwyd | Uwch Ddarlithydd |
 | .JPG) |
|
Uwch Ddarlithydd | Anita Setarehnejad,
Uwch Ddarlithydd Technoleg a Gwyddorau Bwyd | Uwch Ddarlithydd Arfer Rhyngbroffesiynol |
 | | |
Athro y Gwyddorau Bwyd a Maeth | Uwch Ddarlithydd y Gwyddorau Biofeddygol | |
Cydweithwyr
Dr Elizabeth Redmond, Ysgol Chwaraeon a Gwyddorau Iechyd Caerdydd
Dr Ellen Evans, Ysgol Chwaraeon a Gwyddorau Iechyd Caerdydd
Maria Morgan, Ysgol Deintyddiaeth Prifysgol Caerdydd
Yr Athro Margaret Hunter, Ysgol Deintyddiaeth Prifysgol Caerdydd
Yr Athro Jeremy Rees, Ysgol Deintyddiaeth Prifysgol Caerdydd
Yr Athro Alistair Sloan, Ysgol Deintyddiaeth Prifysgol Caerdydd
Dr Andrea Collins, Ysgol Daearyddiaeth a Chynllunio Prifysgol Caerdydd