Ymchwil ac Arloesi>Iechyd Cardiofasgwlaidd a Heneiddio>Metabolaeth a Llid Cardiofasgwlaidd

Metabolaeth a Llid Cardiofasgwlaidd

​Mae ymchwil y Grŵp Metabolaeth Cardioasgwlaidd a Llid yn canolbwyntio ar ffactorau sy'n dylanwadu ar swyddogaeth arferol pibellau gwaed iach. Blaenoriaeth y grŵp yw archwilio effeithiau gordewdra a’r cyd-forbidrwydd cysylltiedig ar weithrediad y system gardiofasgwlaidd. Ceir thema drawsbynciol hefyd o ymchwilio i sail foleciwlaidd atherosglerosis, clefyd sy'n cynnwys grŵp amrywiol o gelloedd gan gynnwys macroffagau a chelloedd endothelaidd, ac sy'n chwarae rhan fawr ym mhathogenesis afiechydon fel Strôc a Diabetes Math 2. Defnyddia'r grŵp ystod o fodelau in vitro a charfannau clinigol i ddadansoddi biofarcwyr newydd yn y cylchrediad ac ar lefel gellog ac is-gellog.

 

Meysydd Ymchwil / Arloesi

Metabolion ocsid nitrig

Mae ocsid nitrig (NO) yn radical nwyol rhydd sy'n ymwneud â sawl mecanwaith homeostatig yn y corff. Mae gan ein grŵp ddiddordeb yn rôl fuddiol NO o safbwynt swyddogaeth endothelaidd ac o safbwynt cynnal tôn fasgwlaidd.

Nitric oxide          
Ydy ychwanegiadau nitrad trwy’r geg  yn gwella Bioargaeledd NO?
Tabl (y dde): Safonau sodiwm nitrad wedi’u mesur trwy gyfrwng cemeg-ymoleuedd seiliedig ar oson.

Rydym yn defnyddio technegau chemiluminescence sy'n seiliedig ar osôn i wneud mesuriadau sensitifrwydd uchel o fetabolion NO fel nitrad, nitraid a nitrosothiolau mewn gwaed a phlasma. Drwy broffilio'r metabolion hyn mewn cleifion â gwahanol gamau o glefyd cardiofasgwlaidd, gallwn brofi a yw ychwanegiad nitrad drwy'r geg yn gwella'r gronfa sy'n cylchredeg metabolion NO, gyda’r bwriad o wella swyddogaeth gardiofasgwlaidd y claf.

 

Fesiglau allgellog

Mae Fesiglau allgellog (EVs) yn fesiglau isficron sy'n cael eu rhyddhau o amrywiol fathau o gelloedd fel cyfathrebwyr rhyng-gellol. Mae EVs yn cynnwys cargo bioactif o lipidau, proteinau ac asidau niwcleig sy'n helpu i gyfryngu eu swyddogaeth a gellir eu defnyddio hefyd i nodi EVs o fio-hylifau cymhleth.

Llun (chwith): Microsgopeg sganio electron o gelloedd endotheliaidd ysgogol yn colli fesiclau allgellog (EVs).
Llun (canol): Gwahaniad gleiniau magnetig EVs o fio-hylifau cymhleth.
Llun (y dde): Microsgopeg trawsyrru electron o EV sy’n tarddu o fraster (adipocyt).

Mae ein grŵp yn ymddiddori yn rôl EVs yng nghyswllt iechyd cardiofasgwlaidd a chlefydau. Rydym yn dadansoddi marcwyr a gludir gan EVs sy'n cylchredeg mewn plasma a'r rheini o feithriniadau celloedd adipocyte ac endothelaidd cynradd i brofi a ellir defnyddio EVs fel biofarcwyr clefydau ar gyfer clefyd cardiofasgwlaidd a gordewdra. Rydym hefyd yn dadansoddi effeithiau swyddogaethol yr EVs hyn ar gelloedd endothelaidd, poblogaethau leukocyte a phibellau ynysig. Yn ogystal â chymeriad biolegol EVs, mae gennym ddiddordeb hefyd mewn cynorthwyo i safoni dulliau ynysu a chanfod ar gyfer ymchwil EV.


Rôl llid mewn clefyd cardiofasgwlaidd

Mae atherosglerosis yn chwarae rhan fawr o safbwynt pathogenesis afiechydon fel Diabetes Math 2 a'i gymhlethdodau (afiechydon cardiofasgwlaidd a chlefydau niwrolidus fel strôc). Mae pathogenesis atherosglerosis yn ymwneud â grŵp amrywiol o gelloedd gan gynnwys macroffagau a chelloedd endothelaidd. Ein diddordebau cyfredol yw sut y gall amrywiol lipidau a fflafanoidau glycosidig ddylanwadu ar yr ymateb llidiol trwy reoleiddio polareiddio macroffâg rhwng y ffenoteip M1 llidiol a'r ffenoteip M2 gwrthlidiol. Rydym hefyd yn ymchwilio i'r rhyngweithio rhwng celloedd endothelaidd a macroffagau mewn homeostasis angiogenig. Rydym yn mesur yr ymatebion a'r rhyngweithiadau hyn drwy fonitro secretiad cyfryngwyr llidiol fel cytocinau a mynegiant ffactorau trawsgrifio rheoliadol fel ffactor niwclear-κB (NF-κB) a'r derbynyddion amlocsidydd actifedig amlocsidiol (PPARs), yn enwedig PPARγ. Yn ddiweddar, rydym wedi dechrau archwilio modiwleiddio rhyddhau EV gan lipidau dirlawn a annirlawn a fflafanoidau glycosidig, ac effaith yr EVs canlyniadol ar gelloedd endothelaidd a macroffagau.

inflammation cardiovascular disease
Llun (chwith): Macroffagau sy’n tarddu o fonocyt: Gwahaniaethu celloedd THP-1 trwy ddefnyddio asetad myristad fforbol [phorbol myristate acetate (PMA)].
Llun (y dde): Strwythur cemegol fflafonoid deu-glycosidaidd.

Rôl leukocytes o safbwynt aflonyddu llif yn y microcirciwiad a difrod endothelaidd

Mae aflonyddwch yn llif celloedd gwaed a rhyngweithio niweidiol rhwng celloedd gwaed a wal y pibellau gwaed yn bwysig yn aetioleg a phathoffisioleg ystod o afiechydon gan gynnwys clefyd cardiofasgwlaidd a diabetes. Mae ein hymchwil yn canolbwyntio'n bennaf ar sut y gall newidiadau yn swyddogaeth biocemeg a cytosgerbydol celloedd ddylanwadu ar briodweddau bioffisegol y celloedd a llif y gwaed. Gallwn fesur anffurfiad celloedd gwaed drwy fesur y llif drwy fodelau artiffisial y microgylchrediad gan ddefnyddio mandyllau maint capilari. Rydym hefyd wedi datblygu model i ddadansoddi'r newid yn llif leukocyte yn dilyn newidiadau i'r actin cytosgerbydol mewn afiechydon fel diabetes. Ar hyn o bryd rydym yn defnyddio'r modelau yma i archwilio rôl gweithgaredd corfforol ac ymyrraeth ffarmacolegol wrth normaleiddio biocemeg a bioffiseg leukocyte.

leukocytes endothelial damage
Lluniau (chwith a chanol): Micrograffau sganio electron o erythrosyt dynol (chwith) a lewcocytau dynol (canol) yn llifo trwy fandwll o faint capilari.
Llun (y dde): Microsgopeg fflwroleuedd o bolymeriad f-actin mewn lewcocytau dynol. Yr F-actin â staen ‘FITC-phalloidin’ (gwyrdd) a staen niwclear propidiwm iodid (coch).  

     

Risg gardiofasgwlaidd sy'n gysylltiedig ag amlygiad i lygredd aer gronynnol a nanoronynnau peirianyddol

Mae dod i gysylltiad â llygredd aer gronynnol a nanoronynnau peirianyddol newydd yn cyflwyno risgiau sylweddol i iechyd. Llygredd aer yw’r risg amgylcheddol mwyaf i iechyd y byd, gyda’r WHO yn amcangyfrif fod 7 miliwn o bobl yn marw bob blwyddyn o ganlyniad i amlygiad. Mae'r defnydd o nanoronynnau peirianyddol newydd yn cynyddu, er bod y risgiau posibl i iechyd a'r amgylchedd yn aneglur. Mae ein hymchwil yn ystyried y mecanweithiau sy’n arwain at gynyddu’r risg gardiofasgwlaidd wrth ddod i gysylltiad â llygredd aer, er enghraifft, drwy archwilio effaith dod i gysylltiad â gronynnau llygredd aer ar fiocemeg leukocyte a swyddogaeth cytosgerbydol. Yn ddiweddar, rydym wedi cychwyn arbrofion i fonitro'r rhyngweithio rhwng leukocyte ac ystod o lygryddion gronynnol, megis gronynnau gwacáu disel a gronynnau peirianyddol newydd gan gynnwys nanoronynnau arian a haearn.

nanoparticles pollution cardiovascular risk         
Llun (chwith): Microsgopeg Gydffocal o ryngweithio rhwng gronynnau aer egsost disel a lewcocytau dynol, f-actin â staen ‘FITC-phalloidin’ (gwyrdd).
Llun (y dde): Ffotograffeg dros amser o fudoledd cynyddol celloedd o fonocytau THP-1 wedi eu meithrin yn dilyn eu datguddio i nanoronynnau a gafodd eu peiriannu.


Aelodau'r Grŵp

Dr Rebecca Aicheler
Athro Metabolaeth Cardiofasgwlaidd/Deon Cysylltiol Ymchwil (Iechyd)
Arweinydd Grŵp
Athro Gwyddoniaeth Biofeddygol a Bioystadegau
Dr Maninder Ahluwalia,
Uwch ddarlithydd mewn geneteg glinigol / ddynol
Uwch ddarlithydd
Dr Shelley-Ann Evans

​Dr Jessica Williams
Cyswyllt Ymchwil ôl-ddoethurol
              

 

Myfyrwyr

Owen Griffith - PhD
Eleftheria Kodosaki - PhD
Mike Melhuish - PhD
Jamie Nash - PhD
Cory Richards - PhD
Mike Theodoulides - PhD
Cass Whelan - PhD

Cydweithwyr

Dr Aled Rees, Adran Feddygaeth Seicolegol a Niwrowyddorau Clinigol, Ysgol Feddygaeth, Prifysgol Caerdydd

Dr Aled Clayton, Adran Ganser a Geneteg, Ysgol Feddygaeth, Prifysgol Caerdydd

Dr Richard Anderson, Adran Gardioleg, Ysbyty Athrofaol Cymru

Dr Dev Datta, Uned Lipid, Ysbyty Athrofaol Llandochau

Yr Athro Adrian Evans, Ysgol Feddygol Prifysgol Abertawe

Dr Kelly Bérubé, Ysgol y Biowyddorau, Prifysgol Caerdydd

Dr Timothy Higgins, Ysgol y Biowyddorau, Prifysgol Caerdydd

Yr Athro Shareen Doak, Ysgol Feddygol Prifysgol Abertawe

Dr Martin Clift, Ysgol Feddygol Prifysgol Abertawe


Enghreifftiau o Gyllid 

Ysgoloriaeth PhD Met Caerdydd (Prif Arolygydd). Mr Cass Whelan. Rôl Fesiclau Allgellog sy’n tarddu o Gelloedd Endotheliaidd Hypocsaidd mewn cleifion gyda Chlefyd Cardiofasgwlaidd (2018-2021); £78,000.

Waterloo Foundation (Cyd-ymgeisydd. Rees DA (P.I.)). Effaith hyfforddiant dwysedd uchel ysbeidiol o gymharu â hyfforddiant dwysedd cymedrol rheolaidd ar iechyd meddwl, canlyniadau gwybyddol a chardiometabolaidd mewn menywod ifanc â Syndrom Amlsystig yr Ofari: hap-brawf gyda rheolydd (2019-2021); £56,709.

KESS2 Myfyriwr PhD. (Prif Arolygydd). Mr Jamie Nash. Mynd i’r afael â namau storio platennau – dulliau newydd o optimeiddio storio a gweithrediad platennau a roddwyd (2018-2021); £75,000

KESS Myfyriwr PhD. (Cyd-arolygydd). Mr Owen Griffith. Datblygu therapi seiliedig ar wrthgorff defeidiol amlglonaidd trwy’r geg (2017-2020); £75,000

HCRW/Stroke Implementation Group. Hwb Strôc Cymru, (2017-2021); £225,143.

Gwyddorau Bywyd Rhwydwaith Ymchwil Cenedlaethol (Cymru), Prifysgol Abertawe, Prifysgol Met Caerdydd Myfyriwr PhD, £75,974 (2015-2018). "Gwerthusiad mecanistaidd o effaith ocsid haearn uwchbaramagnetig cyfunedig â chyffuriau (SPIONd) ar arwyddo mewngellol/mecanweithiau homeostatig. Prif Ymchwilydd: Yr Athro Shareen Doak. Cyd-ymchwilwyr: Dr Rachel Adams, Dr Richard Webb.

Cymrodoriaeth Ymchwil Coleg Brenhinol y Ffisegwyr Clinigol i Dr Justyna Witczak, £120,417 (2015-2017). "Microronynnau yn tarddu o gelloedd fel cyfryngwyr clefyd fasgwlaidd a achosir gan ordewdra " Prif Ymchwilydd: Dr Aled Rees. Cyd-ymchwilwyr: Yr Athro Philip James, Dr Justyna Witczak.

Grant Prosiect British Heart Foundation, £226,891 (2015-2018). "Cludiant fesicl allgellog yn y cylchrediad - dolen goll rhwng tarddiadau o fraster [adipocytes] a chamweithrediad fasgwlaidd cyflymedig" Prif Ymchwilydd: Yr Athro Philip James. Cyd-ymchwilwyr: Dr Aled Rees, Yr Athro Marian Ludgate, Dr Aled Clayton, Dr Tim Hughes, Yr Athro Valerie O'Donnell.

Coleg Gwyddorau Biofeddygol a Bywyd Prifysgol Caerdydd Myfyriwr PhD, £75,000 (2014-2017). "Mesur poblogaethau microfesicl patholegol berthnasol mewn clefyd cardiofasgwlaidd sy’n tarddu o ordewdra" Prif Ymchwilydd: Yr Athro Philip James. Cyd-ymchwilydd: Dr Aled Rees.

Sefydliad Cenedlaethol ar gyfer Ymchwil i Iechyd a Gofal Cymdeithasol Myfyriwr PhD, £66,926 (2014-2017). "A oes modd i ni atal creu poblogaethau fesicl allgellog pro-thrombotig ac sy’n hyrwyddo ceulo (pro-coagulant) yn y gwaed trwy ymyriadau syml yn y diet?" Prif Ymchwilydd: Dr Aled Rees. Cyd-ymchwilydd: Professor Philip James.