Skip to main content
Ysgol Chwaraeon a Gwyddorau Iechyd Caerdydd>Cyrsiau>Therapi Lleferydd ac Iaith - Gradd BSc (Anrh)

Therapi Lleferydd ac Iaith - Gradd BSc (Anrh)

Blwyddyn Mynediad

Mae therapyddion lleferydd ac iaith yn gweithio gyda phobl o bob oed gydag anawsterau lleferydd ac iaith a chyfathrebu ac anhwylderau llyncu. Mae ein gradd Therapi Lleferydd ac Iaith yn cynnig i chi ymuno â’r proffesiwn cyffrous hwn ac ennill cymhwyster cymeradwy Cyngor Proffesiynau Iechyd a Gofal fel therapydd lleferydd ac iaith.

Mae’r radd hon sef Therapi Lleferydd ac Iaith yn radd fywiog ac ysgogol gydag enw rhagorol iddi. Addysgir myfyrwyr gan dîm pwrpasol o ddarlithwyr sy’n cynnwys therapyddion lleferydd ac iaith gydag ystod eang o arbenigeddau, yn ogystal ag ymchwilwyr y mae eu gwaith yn hysbys yn rhyngwladol. Ar y cwrs mae darlithwyr gwadd, o arbenigwyr clinigol i ddefnyddwyr gwasanaeth sy’n rhannu eu safbwyntiau. Mae gennym gysylltiadau sefydledig gyda’r GIG ac mae ein myfyrwyr i gyd wedi cael cyfle i gael profiad clinigol ymarferol gydag ystod o gleientiaid pediatrig ac oedolion.

Mae’r cyfleoedd lleoliad yn amrywiol iawn, o’n clinigau mewnol i ysbytai, clinigau ac ysgolion. Byddwch yn datblygu arbenigedd mewn asesu a thrin ystod amrywiol o grwpiau o gleientiaid.

Gan fod y rhaglen yn cael ei hariannu gan Y GIG ac felly cyfyng ydy’r nifer o leoedd sydd ar gael a gall hyn amrywio o flwyddyn i flwyddyn, yn anffodus ni ellir ystyried ceisiadau gohiriedig.


Pam astudio gyda ni?

  • Boddhad myfyrwyr ardderchog - Rydym yn 1af am foddhad myfyrwyr ar gyfer cyrsiau Therapi Lleferydd ac Iaith yng Nghymru, Lloegr a'r Alban. 

  • ​Addysgu o ansawdd uchel – Mae'r cwrs wedi hen ennill ei blwyf ac yn 4ydd yn y DU ar gyfer cyrsiau Therapi Lleferydd ac Iaith.

  • Ffioedd dysgu – Bydd ffioedd dysgu myfyrwyr sy'n dechrau eu hastudiaethau yn 2024 ac yn ymrwymo i weithio i'r GIG yng Nghymru am o leiaf 2 flynedd ar ôl cymhwyso yn cael eu talu’n llawn. Am ragor o fanylion, gweler Bwrsariaeth y GIG a Chymorth Ariannol isod.

  • Diwylliant ymchwil – Byddwch yn cael eich dysgu gan ddarlithwyr ymchwil weithredol sydd, fel aelodau o'n Canolfan Ymchwil Lleferydd, Clyw a Chyfathrebu, yn cymryd rhan mewn ymchwil a gydnabyddir yn rhyngwladol, a gymhwysir yn glinigol sy’n cael effaith go iawn.    

  • Astudio drwy gyfrwng y Gymraeg – Os ydych chi'n siarad Cymraeg, gallwch ddewis i astudio rhywfaint o'r radd drwy gyfrwng y Gymraeg .

  • Cyfleusterau o'r radd flaenaf – Mae'r cyfleusterau'n cynnwys clinig mewnol, ystafell efelychu glinigol a dau labordy gwyddor lleferydd, lle byddwch yn ennill profiad ymarferol gyda'r feddalwedd a'r offer diweddaraf. 

  • Cymuned ymarfer gefnogol - Byddwch yn dysgu gan therapyddion lleferydd ac iaith gyda brwdfrydedd gwirioneddol am eu harbenigedd clinigol ac awydd i drosglwyddo eu gwybodaeth a'u sgiliau i chi.  Byddwch yn cael profiad clinigol helaeth mewn ystod eang o leoliadau, gan gynnwys lleoliadau pediatrig ac i oedolion.  Bydd gennych ragolygon cyflogaeth ardderchog.

  • Cynhwysol - Rydym wedi ymrwymo i ddarparu amgylchedd lle mae pawb yn cael eu gwerthfawrogi fel unigolyn, a lle gall myfyrwyr a staff weithio, dysgu, ffynnu a datblygu eu sgiliau a'u gwybodaeth mewn awyrgylch o urddas a pharch. Rydym yn croesawu ceisiadau gan bobl o bob cefndir  phobl â nodweddion gwarchodedig.

  • Cysylltiadau agos â Choleg Brenhinol y Therapyddion Lleferydd ac Iaith – mae hyn yn sicrhau bod darpar ddysgwyr a dysgwyr presennol gyda gwybodaeth am y ffyrdd y mae'r proffesiwn therapi lleferydd ac iaith yn ymgorffori cydraddoldeb, cynhwysiant ac amrywiaeth yn ei brosesau derbyn, wrth addysgu graddau therapi lleferydd ac iaith, ar leoliadau ac mewn cefnogaeth i fyfyrwyr o gefndiroedd amrywiol. Darllenwch fwy yma.

Cynnwys y Cwrs

Mae hon yn rhaglen lawn a chynhwysfawr sy’n gofyn i fyfyrwyr ei mynychu’n ddyddiol a gallai rhai darlithoedd orffen ar ôl 5pm. Mae cynnwys penodol y cwrs fel a ganlyn:

Ar gyfer myfyrwyr Cymraeg eu hiaith, mae llwybr penodedig sy’n eich caniatáu i astudio hyd at draean o’r cwrs drwy gyfrwng y Gymraeg.

Blwyddyn Un:

Mae blwyddyn gyntaf y cwrs yn cynnig sylfaen gadarn i chi mewn pynciau sy’n greiddiol i broffesiwn therapi lleferydd ac iaith megis, ieithyddiaeth, seineg, anatomi, ffisioleg a seicoleg. Byddwch hefyd yn cychwyn eich addysg glinigol gyda darlithoedd a thiwtorialau pan fydd therapyddion lleferydd ac iaith gweithredol yn darparu rhagarweiniad i batholeg a therapi lleferydd ac iaith a therapi. Oddi ar y campws, byddwch yn dysgu am ddatblygiad a hynny ar leoliad mewn meithrinfa, yn rhyngweithio gydag oedolion hŷn mewn lleoliad partner a chychwyn eich lleoliad clinigol cychwynnol ar ddiwedd y flwyddyn.

Blwyddyn Dau:

Yn ail flwyddyn y cwrs, mae ffocws yr addysgu yn fwy clinigol a byddwch yn ymestyn eich gwybodaeth o’r pynciau craidd a astudioch ym Mlwyddyn 1 er mwyn i chi ddod i ddeall amrywiaeth o anhwylderau penodol lleferydd ac iaith. Byddwch yn ystyried dulliau o asesu a rheoli ystod o grwpiau o gleientiaid yn cynnwys plant ac anawsterau lleferydd ac iaith, oedolion yn cael anawsterau gyda iaith a’r llais a phobl ag anableddau dysgu. Byddwch hefyd yn addysgu ar Ddysffagia ac yn dechrau datblygu eich cymhwysedd yn y maes hwn. Ar eich lleoliad dau floc, byddwch yn dechrau bod yn gyfrifol am reoli eich llwyth achosion eich hun, gydag arweiniad a goruchwyliaeth.

Blwyddyn Tri:

Yn ystod y drydedd flwyddyn, byddwch yn cychwyn astudio meysydd clinigol mwy arbennig, megis dwyieithrwydd, atal dweud, aml-anabledd a chyfathrebu amgen a chynyddol. Byddwch hefyd yn datblygu’ch dealltwriaeth o agweddau ehangach o waith therapi lleferydd ac iaith o fewn cyd-destun proffesiynol. Byddwch yn treulio rhan fwyaf o’ch amser ar leoliadau clinigol yn ystod y ddau dymor, a byddwch hefyd yn casglu data a’i ddadansoddi fel rhan o'ch prosiect ymchwil.

Dysgu ac Addysgu

Defnyddir amrywiaeth o ddulliau o fynd ati i ddysgu ac addysgu drwy gydol y cwrs. Mae’r rhain yn cynnwys darlithoedd, seminarau a thiwtorialau ynghyd â gweithdai ymarferol yn ein hystafelloedd sy’n efelychu clinig, yn ogystal â goruchwyliaeth un-i-un ar gyfer prosiectau ymchwil y flwyddyn olaf. Mae ein pwyslais ar gynorthwyo myfyrwyr i roi’r theori ar waith a datblygu’n therapyddion lleferydd ac iaith.

Mae gan aelodau staff Canolfan SLT (Therapi Lleferydd ac Iaith) arbenigedd mewn Seineg a Ieithyddiaeth, Datblygiad Lleferydd ac Iaith Plant, Awdioleg, Anhwylder Datblygiad Iaith, Anhwylderau Rhugledd, Anableddau Dysgu ac AAC, Anhwylderau Llyncu ac Anhwylderau Niwrolegol Oedolion. Mae therapyddion lleferydd ac iaith arbenigol allanol yn darparu addysgu mewn arbenigeddau eraill, ynghyd â defnyddwyr gwasanaeth. Mae llawer o’n staff yn ymchwilwyr gweithredol gyda 74% o’r ymchwil a gyflwynwyd gan Ysgol Chwaraeon a Gwyddorau Iechyd Caerdydd, yn cynnwys gan staff Therapi Lleferydd ac Iaith, a ystyriwyd yn rhagorol yn rhyngwladol neu’n flaengar yn Fframwaith Rhagoriaeth Ymchwil 2014. Drwy gydol y cwrs caiff myfyrwyr gymorth unigol gan eu tiwtor personol sy’n eu tywys ar eu taith i fod yn therapyddion lleferydd ac iaith.

Mae Myfyrwyr ar Leoliadau Clinigol yn ymgymryd â lleoliadau wythnosol a bloc yn ystod y cwrs. Mae hyn yn caniatáu datblygiad ystod eang o sgiliau clinigol. Mae gennym gyfleusterau clinig mewnol pwrpasol, newydd ei ail-wampio, sy’n cynnal clinigau ar gyfer oedolion ag anawsterau niwrolegol ac ar gyfer plant ag anawsterau cyfathrebu datblygiadol.

Mae ein staff clinigol i gyd yn therapyddion lleferydd ac iaith, ac mae rhai ohonyn nhw yn cynnig lleoliadau yn ein clinig mewnol. Mae’r daith glinigol yn cychwyn ym mlwyddyn 1 pan gewch brofiad o weithio gyda phlant ac oedolion hŷn a dechrau ar eich lleoliadau clinigol, gan adeiladu ar y sgiliau hyn ymhellach ym mlwyddyn 2 a 3. Mae myfyrwyr yn profi ystod eang o grwpiau cleientiaid ar leoliad, gyda’r holl fyfyrwyr yn ymgymryd â thros 650 o oriau ar leoliad dros gyfnod y cwrs.

Asesu

Defnyddir amrywiaeth eang o ddulliau i’ch asesu yn ystod y cwrs. Mae asesiadau yn cynnwys traethodau, adroddiadau achos, cyflwyniadau, arholiadau ysgrifenedig, 'viva' clinigol a phrosiect ymchwil sy’n ffocysu yn fanwl ar bwnc o’ch dewis.

Mae’r asesiadau yn cael eu llunio’n ofalus i’ch galluogi i ddatblygu’r wybodaeth a’r galluoedd sy’n ganolog i weithio fel therapydd lleferydd ac iaith. Mae natur flaengar rhai o’n hasesiadau wedi cael eu canmol gan arholwyr allanol.

Cyflogaeth a Gyrfaoedd

Mae graddedigion y rhaglen yn gymwys i weithio fel therapyddion lleferydd ac iaith (yn amodol ar gofrestriad y Cyngor Proffesiynau Gofal a Iechyd ar ôl graddio).

Mae enw da i’r cwrs drwy’r DU, ac mae ein graddedigion yn cael swyddi yn gweithio mewn amrywiaeth eang o arbenigeddau Therapydd Lleferydd ac Iaith. Mae galw am therapyddion lleferydd ac iaith yn y GIG ac yn y Gwasanaeth Addysg.

Ceir gwybodaeth am gyflogau cyfredol ar: http://www.nhscareers.nhs.uk/working-in-the-nhs/pay-and-benefits/agenda-for-change-pay-rates/. Mae therapyddion lleferydd ac iaith newydd gymhwyso yn cychwyn ar Band 5).

Mae cyfleoedd ar gael ar gyfer therapyddion lleferydd ac iaith mewn ysbytai, canolfannau iechyd, ysgolion ac unedau arbenigol. Gallai graddedigion hefyd ddewis symud ymlaen i astudiaeth ôl-raddedig a/neu ymchwil yn yr adran. Cyflogir rhai clinigwyr gan sefydliadau elusennol neu weithio mewn practis preifat. Mae yna hefyd gyfleoedd i weithio dramor.

Gofynion Mynediad a Sut i Wneud Cais

Cynigion Nodweddiadol

  • Cynnig cyd-destunol: Gweler ein tudalen cynigion cyd-destunol.
  • TGAU: Pum TGAU i gynnwys Gradd C / 4 neu uwch mewn Iaith Saesneg / Cymraeg Iaith Gyntaf a Gwyddoniaeth, a Gradd B / 5 neu uwch mewn Mathemateg neu Fathemateg – Rhifedd. Mae TGAU mewn iaith dramor yn ddymunol.
  • Gofyniad Iaith Saesneg: IELTS Academaidd 7.5 yn gyffredinol gydag o leiaf 7.0 ym mhob elfen, neu gyfwerth.
  • Pynciau Safon Uwch: Isafswm Graddau ABB mewn tri maes pwnc amlwg ar wahân.
  • Pynciau perthnasol: Mae un pwnc Gwyddoniaeth fel Bioleg, Cemeg, Ffiseg neu Fathemateg yn ddymunol ond nid yn hanfodol. Bydd Safon Uwch Dyfarniad Dwbl mewn unrhyw bwnc yn cael ei gyfrif fel un Safon Uwch yn unig. NEU Safon Uwch Gradd BBB mewn tri maes pwnc ar wahân a Gradd B mewn Bagloriaeth Cymru – Tystysgrif Her Sgiliau Uwch.
  • Diploma Cenedlaethol BTEC / Diploma Estynedig Technegol Caergrawnt: Ystyriwyd DDD. Yn dibynnu ar y pwnc a astudiwyd a chryfder y cymhwysiad cyffredinol.
  • Lefel T: Pwnc gwyddoniaeth wedi'i ystyried, ochr yn ochr â chymhwyster academaidd Lefel 3 perthnasol pellach.
  • Diploma Mynediad i Addysg Uwch: 30 credyd Lefel 3 ar Ragoriaeth mewn Bioleg a Gwyddoniaeth gyfatebol. Teilyngdod o'r credydau lefel 3 sy'n weddill. Mae Diplomâu Mynediad i Addysg Uwch ym meysydd y Biowyddorau, Gofal Iechyd, Gwyddor Iechyd a Gwyddoniaeth yn dderbyniol. Pum TGAU i gynnwys Gradd C / 4 neu uwch mewn Iaith Saesneg / Cymraeg Iaith Gyntaf a Gwyddoniaeth, a Gradd B / 5 neu uwch mewn Mathemateg neu Fathemateg – Rhifedd. Mae TGAU mewn iaith dramor yn ddymunol.
  • Diploma Bagloriaeth Ryngwladol (IB): Lleiafswm dwy Radd 6 ac un Gradd 5 mewn pynciau Lefel Uwch.
  • Tystysgrif Gadael Iwerddon: 2 x H2 a 2 x H1. Mae un pwnc Gwyddoniaeth fel Bioleg, Cemeg, Ffiseg neu Fathemateg yn ddymunol ond nid yn hanfodol. Angen pynciau academaidd.
  • Advanced Highers yr Alban: Graddau BCC. Mae un pwnc Gwyddoniaeth fel Bioleg, Cemeg, Ffiseg neu Fathemateg yn ddymunol ond nid yn hanfodol. Angen pynciau academaidd.
  • Gofynion eraill: Cyfweliad llwyddiannus, gwiriad DBS a Iechyd Galwedigaethol.

Ar gyfer pob ymgeisydd, mae angen tystiolaeth o astudiaeth academaidd lwyddiannus ar lefel gydnabyddedig cyn-prifysgol (ee Lefel(au) A perthnasol neu gwrs Mynediad) o fewn y pum mlynedd diwethaf, a dylid darparu geirda academaidd ar y ffurflen UCAS.

Byddwn yn cyfweld â phob ymgeisydd cymwys sy'n astudio, neu sydd wedi astudio, Diploma priodol sy'n ymwneud ag Iechyd Mynediad i Addysg Uwch; cymhwyster dysgu seiliedig ar waith lefel 3 neu 4 neu raglen lefel 3 debyg; sy'n bodloni gofynion Cyrff Proffesiynol, Statudol a Rheoleiddiol (PSRB) ar gyfer y rhaglen.

Derbynnir cyfuniadau o’r cymwysterau uchod os ydyn nhw’n cwrdd â’n gofynion lleiaf. Os nad yw eich cymwysterau wedi’u rhestru, cysylltwch â Derbyniadau neu cyfeiriwch at Chwiliad Cwrs UCAS.

Mae rhagor o wybodaeth ar gymwysterau Tramor i’w gweld yma.

Os ydych yn ymgeisydd hŷn, mae gennych brofiad perthnasol neu RPL yr hoffech i ni ei ystyried, cysylltwch â Derbyniadau.

Oherwydd natur y rhaglen, ni allwn ystyried ymgeiswyr rhyngwladol. Rydym yn croesawu ymgeiswyr o Weriniaeth Iwerddon, gan eu bod yn cael eu hystyried yn ymgeiswyr Cartref at ddibenion ffioedd. Gwiriwch ein Hasesiad Statws Ffioedd yma​ am ragor o wybodaeth.


Sut i Ymgeisio

Mae rhagor o wybodaeth ar sut i ymgeisio i’w gweld yma.

Bwrsari’r Gig a Chymorth Ariannol

Mae holl fyfyrwyr gofal iechyd, yn cynnwys y rhai heb fod yn rhan o gynllun Bwrsari GIG Cymru, sy’n cynnig cymorth ariannol i dalu ffioedd dysgu ac am rai o agweddau cynhaliaeth ar yr amod eu bod yn ymrwymo i weithio yng Nghymru ar ôl graddio, yn gymwys i dderbyn cymorth gan GIG Cymru sef ad-daliadau o gostau teithio i leoliad profiad gwaith clinigol a phrofiad gwaith a threuliau cynhaliaeth y gellir eu hawlio drwy Swyddfa Lleoliadau Gwasanaethau Myfyrwyr Prifysgol Caerdydd. I gael rhagor o wybodaeth am adennill costau lleoliad, cysylltwch â cpt@cardiffmet.ac.uk.

Cysylltwch â financeadvice@cardiffmet.ac.uk os oes gennych unrhyw ymholiadau am gyllid, gan gynnwys cyllid myfyrwyr a bwrsariaeth y GIG. Am ragor o wybodaeth am Gynllun Bwrsari’r GIG, cliciwch yma.

Cysylltu â Ni

Am ymholiadau cyffredinol cysylltwch â’r Tîm Derbyniadau ar 029 2041 6044 neu anfon e-bost at askadmissions@cardiffmet.ac.uk.

Ar gyfer ymholiadau penodol i’r cwrs, cysylltwch â thîm y rhaglen,
E-bost: SLTAdmissions@cardiffmet.ac.uk

Rydyn ni’n ymdrechu i gyflwyno cyrsiau yn unol â’r disgrifiad ac ni fyddwn fel arfer yn gwneud newidiadau i gyrsiau, fel teitl, cynnwys, dull cyflwyno a darpariaeth addysgu’r cwrs. Fodd bynnag, gall fod yn angenrheidiol i’r brifysgol wneud newidiadau yn narpariaeth y cwrs cyn neu ar ôl cofrestru. Mae’n cadw’r hawl i wneud amrywiadau i gynnwys neu ddulliau cyflwyno, gan gynnwys terfynu neu gyfuno cyrsiau os ystyrir bod camau gweithredu o’r fath yn angenrheidiol. Darllenwch ein Telerau ac Amodau i gael y wybodaeth lawn.

Gwybodaeth Allweddol Am Y Cwrs

Cod UCAS: B620

Lleoliad yr astudiaeth:
Campws Llandaf

Ysgol:
Ysgol Chwaraeon a Gwyddorau Iechyd Caerdydd

Hyd y Cwrs:
3 blynedd llawn amser

DEWCH I GWRDD Â’R TÎM
Dewch i gwrdd â’r Tîm: Carys Williams

Dewch i gwrdd â Carys Williams, Darlithydd ar y radd Therapi Lleferydd ac Iaith ym Mhrifysgol Metropolitan Caerdydd.

Dewch i gwrdd â’r Tîm: Rhonwen Lewis

Dewch i gwrdd â Rhonwen Lewis, Darlithydd ar y radd Therapi Lleferydd ac Iaith sy'n rhannu ei harbenigedd a'i hangerdd am y pwnc.

TROSOLWG O'R CWRS | UCHAFBWYTIAU GRADD
Uchafbwyntiau Gradd

Mae'r Darlithwyr Carys Williams a Rhonwen Lewis yn dweud mwy wrthym am astudio Therapi Lleferydd ac Iaith drwy gyfrwng y Gymraeg ym Met Caerdydd.

PROFIAD MYFYRWYR A GRADDEDIGION
Blog
Profiad gwaith gyda fy nghwrs Therapi Iaith a Lleferydd.

O gyfleoedd lleoliad i astudio drwy gyfrwng y Gymraeg, darllenwch fwy am brofiad Miriam ar y cwrs.
Darllen mwy.

Blog
Sut gwnaeth Therapi Lleferydd ac iaith fy mharatoi ar gyfer fy ngyrfa yn y dyfodol

Clywch sut y sicrhaodd Megan swydd yn syth ar ôl graddio o Therapi Lleferydd ac iaith ym Met Caerdydd.
Darllen mwy.

CYNLLUN BWRSARAIETH Y GIG
Cyngor i Ymgeiswyr - Bwrsariaeth GIG

Telir Ffioedd Dysgu'r cwrs hwn yn llawn gan Fwrsariaeth GIG. Gwyliwch ein fideo i ddarganfod mwy.
Darllen mwy