Cynnwys y Cwrs
Mae modiwlau wedi'u cynllunio i ganolbwyntio ar amrywiaeth o faterion, cyd-destunau a dulliau o archwilio materion cyfredol mewn chwaraeon a diwylliant corfforol. Mae'n cynnwys dod/bod yn anabl, rhyngwyneb dynol â thechnoleg, diwylliant joc, rhywioldeb mewn chwaraeon, cyrff benywaidd mewn chwaraeon fel bocsio, cymryd risgiau a thwyllo mewn chwaraeon.
Modiwlau Craidd:
- Bywydau Chwaraeon
- Dulliau Ymchwilio mewn Chwaraeon (yn bennaf yn dilyn y Llwybr Ansoddol)
- Arfer Cynaliadwy mewn Chwaraeon a Diwylliant Corfforol
- Chwaraeon, Cymeriad a Gweithredu Moesegol
- Chwaraeon ac Uniondeb
- Astudiaeth Annibynnol
- Prosiect Terfynol
Er mwyn bod yn gymwys ar gyfer yr MA, mae'n ofynnol i fyfyrwyr gwblhau prosiect terfynol yn llwyddiannus, y gellir ei ysgrifennu fel traethawd hir traddodiadol, erthygl mewn cyfnodolyn neu mewn fformat arall.
Os byddwch yn dewis ymgymryd â'ch Prosiect Terfynol drwy gyfrwng y Gymraeg, gallech fod yn gymwys i gael Ysgoloriaeth
Dysgwch fwy.
Dysgu ac Addysgu
Mae pob modiwl, ac eithrio'r Prosiect Terfynol (traethawd hir) yn 20 credyd. Mae cyflwyno wedi'i amserlennu (amser cyswllt) wedi'i neilltuo ar gyfer modiwlau o'r fath fel arfer yn cyfateb i o leiaf 30 awr o amser wedi'i ategu â hyd at 60 awr o amser astudio dan gyfarwyddyd a 60 awr o amser astudio annibynnol. Mae amser cyswllt fel arfer yn cynnwys darlithoedd, seminarau, tiwtorialau unigol a grŵp. Mae dulliau addysgu penodol yn cynnwys trafodaeth grŵp, myfyrio unigol, dadansoddi fideos, adolygiadau darllen a thasgau gwaith maes, ffurfio tasgau'r seminar a chynnwys darlithoedd arweiniol. Cefnogir dysgu myfyrwyr drwy ddefnyddio amgylchedd dysgu rhithwir, Moodle, sy'n darparu adnoddau ychwanegol i ategu'r rhestrau darllen. Mae tiwtor personol ar gael i bob myfyriwr (cyfarwyddwr y rhaglen).
Asesu
Y prif ddulliau asesu yw aseiniadau a chyflwyniadau gwaith cwrs amrywiol 5000 gair (neu gyfwerth). Bydd myfyrwyr yn derbyn adborth ysgrifenedig helaeth ar bob un o'u haseiniadau a chyflwyniadau, tra gall staff hefyd ddarparu adborth llafar ac ysgrifenedig ar gynlluniau a gwaith drafft. Bydd adborth ffurfiannol yn cael ei ddarparu yn y dosbarth a thiwtorialau i helpu myfyrwyr i ddatblygu eu syniadau ar gyfer eu hasesiadau ffurfiol.
Cyflogadwyedd a Gyrfaoedd
Mae galw cynyddol am ymwybyddiaeth a gwybodaeth am faterion cymdeithasol gan arbenigwyr ym maes chwaraeon lle mae diddordeb mewn pobl. Ceisir cymdeithasegwyr a moesegwyr chwaraeon mewn ystod o alwedigaethau sy'n ymwneud â chwaraeon sy'n cynnwys: cyrff llywodraethu cenedlaethol, rhaglenni datblygu chwaraeon cymunedol, rheoli cyfleusterau chwaraeon/hamdden yn y sector preifat, rolau gweinyddu chwaraeon a cyfryngau chwaraeon.
At hynny, mae'r rhaglen hon yn ddelfrydol ar gyfer y rhai sydd â dyheadau o yrfa ymchwil neu astudiaeth barhaus ar lefel PhD ac mae'n meithrin ystod o sgiliau trosglwyddadwy. Yn wir, mae llawer o'n myfyrwyr yn mynd ymlaen i astudio rhaglen ymchwil PhD cyn (a thra'n) gweithio yn y byd academaidd fel darlithwyr, tiwtoriaid ac ymchwilwyr.
Gofynion Mynediad a Sut i Wneud Cais
Fel arfer, dylai ymgeiswyr gael un o'r canlynol:
- Gradd anrhydedd (2.1 neu uwch ) mewn ardal sy'n gysylltiedig â chwaraeon neu hamdden sy'n briodol i'r llwybr.
- Bydd ymgeiswyr sydd â phrofiad gwaith eithriadol a helaeth mewn addysg, hyfforddiant, rheolaeth hamdden neu hamdden hefyd yn cael eu hystyried ar gyfer mynediad i'r llwybr.
- Gradd anrhydedd (2.1 neu uwch) mewn maes disgyblaeth amgen sy'n dderbyniol i arweinydd y rhaglen.
Gweithdrefn Ddethol:
Fel arfer, caiff myfyrwyr eu dewis ar sail eu cais ffurfiol, CV a chyfweliad anffurfiol gyda chyfarwyddwr y rhaglen.
Ymgeiswyr Rhyngwladol:
Bydd angen i fyfyrwyr nad Saesneg yw eu hiaith gyntaf ddarparu tystiolaeth o ruglder i safon IELTS 6.0 neu gyfwerth o leiaf. I gael manylion llawn am sut i wneud cais a chymwysterau Iaith Saesneg ewch i'r tudalennau Rhyngwladol ar y wefan.
Sut i Wneud Cais:
Dylai ceisiadau ar gyfer y cwrs hwn yn cael ei wneud yn uniongyrchol i'r brifysgol trwy ein cyfleuster hunanwasanaeth. I gael rhagor o wybodaeth ewch i'n tudalennau Sut i Wneud Cais yma.
Os oes gennych ddiddordeb mewn defnyddio credyd gan sefydliad arall, neu os ydych wedi ennill cymwysterau a / neu brofiad i astudio ar gyfer cwrs ym Met Caerdydd, gallwch ddod o hyd i ragor o wybodaeth am hyn ynghyd â gwybodaeth ar sut i wneud cais ar y dudalen RPL.
Gwybodaeth Ychwanegol
Ffioedd Dysgu a Chefnogaeth Ariannol:
I gael y wybodaeth ddiweddaraf am ffioedd dysgu a'r gefnogaeth ariannol a allai fod ar gael. Cyfeiriwch yma.
Ffioedd rhan-amser:
Codir y taliadau fesul Modiwl Sengl oni nodir yn benodol:
Israddedig = 10 Credyd; Ôl-raddedig = 20 Credyd
Yn gyffredinol, gwelwn y bydd y mwyafrif o fyfyrwyr yn cwblhau 60 credyd y flwyddyn; i gael gwir gost, gallwch gadarnhau hyn trwy gysylltu â Chyfarwyddwr y Rhaglen yn uniongyrchol. Gall myfyrwyr rhan-amser gymryd hyd at bedair blynedd i gwblhau'r rhaglen radd a gall myfyrwyr ddewis modiwlau a addysgir mewn unrhyw ddilyniant. Yr unig amod yw bod yr holl fodiwlau a addysgir gan gynnwys Dulliau Ymchwil ar gyfer Astudiaethau Chwaraeon yn cael eu cwblhau cyn dechrau'r Prosiect Terfynol.
Cysylltwch â Ni