Skip to main content
Ysgol Chwaraeon a Gwyddorau Iechyd Caerdydd>Cyrsiau>Gwyddor a Thechnoleg Bwyd-Gradd BSc (Anrh)

Gradd BSc (Anrh) - Gwyddor a Thechnoleg Bwyd

Os oes diddordeb gennych chi mewn astudio’r broses fwyd o’r adeg y mae’n gadael y fferm tan i’r cynhyrchion gael eu bwyta, yna gradd BSc (Anrh) Gwyddor a Thechnoleg Bwyd ydy’r cwrs perffaith i chi. Fel gwyddonydd bwyd, byddwch yn cyfrannu at fwydo pobl y byd drwy gynllunio bwydydd ac ystyried dulliau newydd i brosesu, pecynnu a chadw bwyd er mwyn sicrhau ei ddiogelwch a’i ansawdd.

Wedi’i chydnabod yn genedlaethol ac wedi’i achredu’n broffesiynol gan y Sefydliad Gwyddor a Thechnoleg Bwyd, nod ein gradd BSc mewn Gwyddor a Thechnoleg Bwyd ydy cynnig dealltwriaeth eang i chi o ddiwydiannau bwyd modern. Rydyn ni’n cyfuno astudiaethau damcaniaethol a gwaith ymarferol y gellir eu cymhwyso i amgylchedd cyfoes gweithgynhyrchu bwyd. Lluniwyd strwythur modiwlaidd y cwrs i’ch galluogi i ddatblygu llwybr gyrfaol yn ôl y modiwlau a ddewisir.

Mae gan ein cwrs gysylltiadau ardderchog gyda diwydiant ac mae dysgu drwy brofiad yn fodd o baratoi myfyrwyr ar gyfer cyflogaeth, ac mae dysgu drwy brofiad yn cynnig cyfle i’r myfyrwyr gael gwybodaeth werthfawr am y diwydiant drwy ymgymryd â phrofiad gwaith byr (3 mis) neu hir (12 mis) mewn lleoliadau yn y diwydiant ar ddiwedd yr ail flwyddyn. Mae lleoliadau yn cwmpasu ystod eang o rolau yn cynnwys datblygu cynnyrch, prosesu bwyd, dadansoddiad cemegol a microbiolegol a gall arwain at gyflogaeth barhaol gyda darparwr y lleoliad.

Yn ogystal, rydyn ni’n cynnig cyfle i gyflawni cymwysterau a gydnabyddir yn broffesiynol ym maes diogelwch bwyd a rheoli alergenau yn ystod eich gradd a allai fod yn hanfodol i gynorthwyo’ch gyrfa gynnar.

Mae graddedigion mewn gwyddor bwyd yn mynd ymlaen i yrfaoedd mewn cwmnïau gweithgynhyrchu bwyd, asiantaethau’r llywodraeth, archwilio a ymgynghoriaeth rhyngwladol, sefydliadau ymchwil ac academia. Mae mwy o swyddi ar gael yn y diwydiant ar gyfer gwyddonwyr bwyd nag sydd o raddedigion i’w llenwi. Yn ogystal, mae Canolfan y Diwydiant Bwyd Zero2Five a leolir ym Met Caerdydd yn gweithio’n agos gyda Llywodraeth Cymru a diwydiant bwyd Cymru. Mae cynllun ôl-raddedig Helix a gynhelir gan y Ganolfan yn cynnig llwybr arall i fewn i gyflogaeth ar gyfer ein myfyrwyr.

Sylwch: Sylwch: Bydd adolygiad cyfnodol ar gyfer y rhaglen hon yn mis Mawrth 2022. Felly, gall cynnwys y cwrs a ddangosir isod newid er mwyn sicrhau bod y rhaglen yn parhau'n gyfredol. Bydd unrhyw ymgeiswyr yn cael eu hysbysu am unrhyw newidiadau ar ôl eu cadarnhau.

Mae’r wybodaeth am y cwrs a geir ar y dudalen hon yn berthnasol i garfan mynediad 2022.

​Cynnwys y Cwrs

Blwyddyn Sylfaen (Blwyddyn 0):​

Gall y rhaglen hon ymgorffori blwyddyn sylfaen (blwyddyn 0), ar gyfer y myfyrwyr hynny sydd am ymrestru ar flwyddyn gyntaf rhaglen radd yn seiliedig ar wyddoniaeth yn Ysgol Gwyddorau Iechyd Caerdydd ond heb fod wedi cyflawni’r gofynion mynediad neu heb fod wedi astudio pynciau sy’n darparu’r cefndir angenrheidiol o fewn y disgyblaethau gwyddonol sydd eu hangen, i gael mynediad i flwyddyn gyntaf y rhaglen radd anrhydedd o’u dewis.

Bydd myfyrwyr sy’n dymuno gwneud blwyddyn sylfaen yn gwneud cais am y rhaglen radd y dymunan nhw symud ymlaen i’w hastudio gan ddefnyddio’r cod UCAS perthnasol a restrir ar dudalen y cwrs hwn a gwneud cais am bwynt mynediad 0 ar wefan UCAS. Fel y cyfryw, bydd myfyrwyr sy’n dilyn y llwybr sylfaen yn cymryd blwyddyn ychwanegol i gwblhau eu cwrs anrhydedd.
Ceir rhagor o wybodaeth am y flwyddyn sylfaen drwy glicio yma.

Gradd:

Technoleg bwyd ydy cymhwyso gwyddor bwyd i brosesu deunyddiau bwyd yn gynhyrchion bwyd diogel, maethlon, blasus a deniadol. Mae technoleg bwyd yn tynnu ar dechnolegau eraill ac integreiddio eu defnydd i fwyd megis pecynnu, gwyddor deunyddiau, peirianneg, offeryniaeth, electroneg, amaethyddiaeth a biodechnoleg.

Mae gwyddor bwyd yn cynorthwyo’r holl weithgaredd hyn, gwyddor sy’n delio â dealltwriaeth wyddonol cyfansoddiad bwyd dan wahanol amodau. Mae hyn yn golygu deall nifer o ddisgyblaethau yn cynnwys maethiad, ensymoleg, microbioleg, ffarmacoleg a thocsicoleg ac effaith prosesau gweithgynhyrchu a storio.

Lleolir Canolfan y Diwydiant Bwyd Zero2Five yn y brifysgol, canolfan ragoriaeth flaenllaw sy’n darparu cymorth technegol, gweithredol a masnachol ar gyfer busnesau bwyd a fydd yn eu galluogi i gystadlu’n fwy effeithiol. Mae gan y Ganolfan enw da yn rhyngwladol o ran ymchwil i ddiogelwch bwyd a chynnig arbenigedd, hyfforddiant a chyngor i'r diwydiant bwyd a bydd myfyrwyr sy’n gwneud y radd hon yn elwa o’r cysylltiad agos â’r Ganolfan a’i staff ynghyd â’u harbenigedd.

Drwy gydol y rhaglen, trefnir cynnwys y modiwl yn nifer o themâu. Mae hyn yn caniatáu i fyfyrwyr weld y cysylltiadau rhwng modiwlau a dyheadau gyrfaol myfyrwyr yn glir er mwyn iddyn nhw arbenigo mewn un o’r tri maes:

  • Gwyddor Bwyd
  • Datblygu Cynnyrch Newydd
  • Maethiad

Isod, gwelir awgrym o'r themâu a’r modiwlau a astudir o fewn pob thema drwy gydol y rhaglen.

Blwyddyn 1/Lefel 4

Cyflwynir chi i’r sgiliau a’r wybodaeth sylfaenol sydd eu hangen i symud ymlaen i mewn i’r diwydiant bwyd. Addysgir egwyddorion cyffredinol y ddeddf, y dechnoleg a’r wyddor a fydd yn darparu’r fframwaith y mae gwyddonwyr a thechnolegwyr yn gweithio ynddo. Hefyd, byddwch yn gwneud modiwlau a fydd yn datblygu eich sgiliau cyfathrebu a dadansoddiadol.

Mae Lefel 4 BSc (Anrh) Gwyddor a Thechnoleg Bwyd yn gyffredin â BSc (Anrh) Maethiad. Mae hyn yn golygu y gall myfyrwyr ar y ddwy raglen ystyried yn llawn, natur y modiwlau a astudir a’r opsiwn i drosglwyddo i’r rhaglen arall ar ddiwedd y flwyddyn academaidd.

Gellir dosbarthu’r modiwlau y byddwch yn eu hastudio yn nifer o themâu:

Thema Cynnwys Mynegol Modiwl yn y meysydd hyn
Diogelwch ac Ansawdd Rheoli Diogelwch Bwyd
Prosesu a Thechnegol Sgiliau allweddol ar gyfer bwyd a maethiad / Hanfodion Ymarfer Proffesiynol
Proffesiynol ac Ymchwil Hanfodion Ymarfer Proffesiynol / Sgiliau allweddol ar gyfer bwyd a maethiad
Gwyddor Bwyd Biocemeg a Ffisioleg
Datblygu Cynnyrch Bwyd Hanfodion Datblygu Cynnyrch Bwyd
Maethiad NMaethiad (Maetholion Macro a Micro)

Modiwlau craidd mewn llythrennau du trwm

Blwyddyn 2/Lefel 5

Byddwch yn cymhwyso’ch gwybodaeth o wyddor a thechnoleg yn uniongyrchol i weithgynhyrchu bwyd a datblygu eich sgiliau datrys problemau ymhellach drwy fodiwlau cymhwysol.

Thema Cynnwys Mynegol Modiwl yn y meysydd hyn
Diogelwch ac Ansawdd Ansawdd, Labelu a Chyfansoddiad Bwyd
Proses a Thechnegol Gwyddor Cymhwysol Bwyd a Phrosesu 1

Gwyddor Cymhwysol Bwyd a Phrosesu 2
Proffesiynol ac Ymchwil Dulliau Ymchwil
Gwyddor Bwyd Diogelwch Microbiolegol a Dadansoddiad Cemegol Bwyd
Datblygu Cynnyrch bwysDatblygu Cynnyrch Bwyd Cymhwysol
MaethiadMaethiad Poblogaeth a Chylch Bywyd

Modiwlau craidd mewn llythrennau du trwm

Blwyddyn Lleoliad

Ar gyfer y rhai sy’n ymgymryd â llwybr ‘Rhyngosod’, mae’r modiwl Dysgu drwy Brofiad ar gael a chewch eich cynghori i gael profiad ymarferol o’r diwydiant.

Cewch ein annog yn weithredol i ystyried lleoliad profiad gwaith yn ystod eich cwrs astudiaeth oherwydd gall hyn gyfrannu at gyfanswm eich credydau. Bydd lleoliad profiad gwaith deuddeg wythnos yn ystod gwyliau haf rhwng blwyddyn 2 a 3 a lleoliad deuddeg mis yn ystod blwyddyn 2 a 3 yn cronni pwyntiau credyd ar Lefel 6. Cewch help a chyngor i fanteisio i’r eithaf ar y lleoliad gwaith gan diwtor penodedig Dysgu drwy Brofiad.

Blwyddyn 3 / Lefel 6

Byddwch yn datblygu sgiliau uchel eu lefel i werthuso strategaethau yn gritigol ym meysydd allweddol gwyddor a thechnoleg bwyd a fydd yn arwain at brosiect ymchwil yn y pendraw. Mae hyn yn defnyddio syniadau gwreiddiol i arddangos sgiliau datrys problemau mewn maes sydd angen ei ymchwilio. Anogir myfyrwyr heb fod ar leoliad tri neu ddeuddeg mis i gael profiad ymarferol drwy weithio gyda Chanolfan Diwydiant Bwyd Zero2Five a leolir ym Met Caerdydd, neu drwy gwmnïau bwyd lleol fel rhan o fodiwl Dysgu drwy Brofiad.

 

Thema Cynnwys Mynegol yn y meysydd hyn
Diogelwch ac Ansawdd Uwch Ddiogelwch Bwyd a Rheoli Ansawdd
Prosesu a Thechnegol Uwch Dechnoleg Prosesu
Proffesiynol ac Ymchwil Prosiect Ymchwil - 40 credyd Dysgu drwy Brofiad
Gwyddor BwydUwch Cemeg Bwyd a Microbioleg
Datblygiad Cynnyrch BwydUwch Ddatblygiad Cynnyrch Bwyd
Maethiad

Maethiad Cyfoes

Maethiad ar gyfer Chwaraeon ac Ymarfer

Darpariaeth Ran Amser

Er mwyn hwyluso a darpariaeth ran amser o raglen BSc Gwyddor a Technoleg Bwyd, bydd myfyrwyr sy’n astudio ar y llwybr hwn yn gallu manteisio ar fodiwlau dysgu seiliedig ar waith (WBL) sy’n golygu 40 credyd ar bob lefel. Bydd y modiwlau hyn yn arbennig o briodol ar gyfer dysgwyr sydd eisoes yn gweithio yn y diwydiant bwyd ac yn gallu arddangos canlyniadau dysgu drwy weithgareddau cysylltiedig â’u cyflogaeth. Ar unrhyw lefel, caniateir i ddysgwyr gymryd hyd at 40 credyd o fodiwlau WBL er mwyn arddangos canlyniadau dysgu modiwlau craidd neu opsiynol drwy lwybr dysgu amgen. Dim ond gyda chaniatâd y Tiwtor Blwyddyn neu Gyfarwyddwr Rhaglen y gellir gweithredu hyn a rhaid trafod canlyniadau dysgu a dulliau astudio fel rhan o’r trafodaethau ar gyfer y modiwlau hyn. Os cwblheir modiwlau craidd drwy’r llwybr hwn, rhaid mapio canlyniadau dysgu’r modiwl WBL yn benodol i ganlyniadau dysgu ar y Modiwl craidd er mwyn cyflawni canlyniadau dysgu y rhaglen.


O fis Medi 2022, bydd y rhaglen hon yn cael ei disodli gan raglen radd newydd ac arloesol sy'n cyfuno BSc (Anrh) Maeth a BSc (Anrh) Gwyddor a Thechnoleg Bwyd. Bydd y rhaglen newydd (a elwir yn BSc (Anrh) Bwyd a Maeth dros dro) yn caniatáu i fyfyrwyr arbenigo er mwyn dilyn gyrfaoedd mewn Maeth Gwella Iechyd, Technoleg Cynhyrchu Bwyd neu Arloesedd Bwyd a Maeth. Yn ogystal, gellir dilyn llwybr Maeth ar gyfer Dieteteg a fydd yn dderbyniol ar gyfer symud ymlaen i raglenni dieteteg ôl-raddedig yn y DU.

Bydd pob myfyriwr yn dilyn blwyddyn gyntaf gyffredin lle gallant sefydlu pa bynciau y maent yn eu mwynhau tra'n rhoi'r cyfle i ddarganfod mwy am lwybrau gyrfa cyn penderfynu pa lwybr astudio i'w ddilyn. Bydd hyn yn galluogi myfyrwyr i gymryd mwy o reolaeth dros eu hastudiaethau a chynnig mwy o ddewis gyrfa. Wedi hynny, bydd myfyrwyr yn gallu dilyn un o'r llwybrau a amlinellwyd uchod. Mae disgrifiadau cynnwys y cwrs ar gyfer Gwyddor Bwyd a Thechnoleg a Maeth yn dangos y mathau o fodiwlau a fydd ar gael ar y llwybrau o fewn y radd newydd.

Rydym yn gyffrous iawn am y datblygiad newydd hwn ym Met Caerdydd a bydd rhagor o fanylion am y rhaglen newydd ar gael cyn gynted â phosibl. Os oes gennych unrhyw gwestiynau am hyn, cysylltwch â ni. Rydym yn hapus iawn i drafod eich anghenion gyda chi a sut y bydd y rhaglen newydd yn eich paratoi ar gyfer gwaith yn y diwydiant bywiog hwn. Bydd deiliaid cynigion ar gyfer naill ai BSc Maeth neu BSc Gwyddor a Thechnoleg Bwyd yn cael cynnig lleoedd ar y rhaglen newydd yn awtomatig.

Dysgu ac Addysgu

Addysgir Gwyddor a Thechnoleg Bwyd drwy gyfuniad o ddarlithoedd, dosbarthiadau ymarferol, tiwtorialau a seminarau. Ategir pob modiwl gan y defnyddio Moodle, y rhith amgylchedd dysgu.

Nod strwythur cymhwyso gwahanol ddulliau addysgu drwy’r rhaglen ydy cynnig yr amgylcheddau dysgu mwyaf effeithiol er mwyn cyflawni nodau ac amcanion y cwrs. Ar y cychwyn bydd y pwyslais ar y defnydd o ddarlithoedd ynghyd â seminarau a fydd yn cynnwys trafodaeth grŵp a gweithdai. Ategir y dulliau hyn gan astudiaeth unigol dan gyfarwyddyd ac ymweliadau maes.

Wrth i chi fynd yn eich blaen drwy eich cwrs gradd, defnyddir amrywiaeth o strategaethau addysgu a dysgu a mwy o waith ymarferol mewn labordai a chyflwynir yr offer peilot mewnol ar gyfer prosesu bwyd.

Enwebir tiwtoriaid personol ar ddechrau’r rhaglen a chedwir y rhain drwy gydol y cwrs astudiaeth. Mae gan y tîm academaidd gyfoeth o brofiad ac mae llawer yn arbenigwyr yn eu meysydd a’u cefndir ym maes ymchwil ac ymgynghoriaeth.

Asesu

Mae asesu yn cynnwys amrywiaeth o ddulliau yn cynnwys arholiadau ysgrifenedig, gwaith cwrs ac asesiadau ymarferol. Er mwyn symud ymlaen i flynyddoedd dilynol y cwrs, rhaid i fyfyrwyr gwblhau pob modiwl yn foddhaol.

Lluniwyd asesiadau i efelychu nifer o sefyllfaoedd o ddydd i ddydd yn y gweithle. Mae hyn yn darparu profiad ymarferol ar gyfer yr hyn gallan nhw ei ddisgwyl cyn mynd i'r diwydiant.

Cyflogadwyedd a Gyrfaoedd

Bydd gyrfa yn y diwydiant bwyd ynghanol y gweithgaredd economaidd mwyaf a’r pwysicaf yn y byd.

Mae iechyd a llesiant pobl ymhobman yn dibynnu ar gynhaeaf bras yn amaethyddol ac ar ddulliau storio dibynadwy, prosesu llwyddiannus a thrin a thrafod pob math o fwyd yn ddiogel. Mae’r holl weithgareddau hyn a llawer o'r rhai eraill yn creu galw am arbenigwyr cymwys a phrofiad a all chwarae eu rhan yn y system gyflenwi bwyd gymhleth a cynyddol soffistigedig.

Y diwydiant gweithgynhyrchu bwyd a diod ydy’r sector gweithgynhyrchu sengl mwyaf yn y DU. Mae’n cyflogi tua 470,000 o bobl, yn cynrychioli 13% o’r gweithlu gweithgynhyrchu yn y DU ac mae ganddo drosiant o £75bn yn cyfrif am 15% o gyfanswm y sector gweithgynhyrchu. Ein diwydiant gweithgynhyrchu bwyd a diod ni ydy’r pedwerydd uchaf yn y byd. Yn ogystal, amcangyfrifir bod swyddi 1.2 miliwn o weithwyr mewn gweithgareddau ategol yn dibynnu ar y diwydiant bwyd a diod.

Nododd arbenigwyr bwyd annibynnol fod ffyniant ein diwydiant bwyd yn dibynnu ar gyflenwad parhaus o wyddonwyr a thechnolegwyr bwyd hyfforddedig. Mae ar y diwydiant bwyd heddiw angen dybryd am staff wedi’u hyfforddi’n dechnegol ac mae’r cwrs hwn yn darparu graddedigion i lenwi’r bwlch hwnnw. Gyda’r cyfradd cyflogaeth bron yn gant y cant, gall graddedigion gael swyddi mewn nifer o feysydd, yn cynnwys ymchwil a datblygiad, rhoi ansawdd, hylendid, pecynnu, microbioleg bwyd a dadansoddi bwyd.

Gofynion Mynediad a Sut i Wneud Cais

Llwybr Sylfaen:

Dylai fod gan ymgeiswyr, fel arfer, 5 TGAU yn cynnwys Iaith Saesneg (neu Gymraeg Mamiaith), Mathemateg* a Gwyddoniaeth gradd C neu uwch / gradd 4 neu uwch (ar gyfer ymgeiswyr sy’n meddu ar y TGAU diwygiedig yn Lloegr) ynghyd ag un o’r canlynol:

  • 56 o bwyntiau o gymwysterau 2 Lefel A o leiaf neu ar safon priodol chyfwerth ar gyfer mynediad i Flwyddyn 1 Addysg Uwch ond mewn meysydd pwnc sy’n methu â chwrdd â gofynion mynediad y rhaglen radd israddedig arfaethedig.
  • 56 o bwyntiau o gymwysterau 2 Lefel A o leiaf neu eu cyfwerth mewn meysydd pwnc perthnasol i’w rhaglen radd israddedig arfaethedig, ond ar safon sy’n methu â chyrraedd gofynion mynediad i Addysg Uwch Blwyddyn 1
  • Gellid ystyried darpar fyfyrwyr sydd dim yn cwrdd â’r meini prawf uchod, yn unigol ac efallai cael eu gwahodd i fynychu cyfweliad.

FAm wybodaeth benodol am ofynion mynediad neu os na restrwyd eich cymhwyster uchod, cysylltwch â naill ai’r Adran Dderbyniadau neu gyfeirio at Chwiliad UCAS am Gyrsiau.

Gradd:

Dylai ymgeiswyr sy’n dymuno gwneud y cwrs hwn heb wneud y cwrs Sylfaen feddu ar 5 TGAU yn cynnwys Iaith Saesneg (neu Cymraeg Mamiaith), Mathemateg* a Gwyddoniaeth gradd C neu uwch / gradd 4 neu uwch (ar gyfer ymgeiswyr sy’n meddu ar y TGAU diwygiedig yn Lloegr).

Cynigion nodweddiadol fyddai:

  • 96-112 o bwyntiau o gymwysterau 2 Lefel A o leiaf i gynnwys graddau CC, un mewn pwnc Gwyddonol/Technoleg Bwyd, ystyrir Bagloriaeth Cymru - Tystysgrif Her Uwch Sgiliau fel trydydd pwnc
  • RQF BTEC Diploma Genedlaethol Estynedig / Diploma DMM Technoleg Estynedig Caergrawnt o fewn Gwyddoniaeth /Technoleg Bwyd
  • 96-112 o bwyntiau o 2 o leiaf o 'Advanced Highers' yr Alban i gynnwys gradd DD, un mewn pwnc gwyddonol /Technoleg Bwyd
  • 96-112 o bwyntiau o Dystysgrif Ymadael ('Leaving Certificate') 'Highers' Iwerddon gyda graddau 2xH2, un mwn pwnc Gwyddonol/Technoleg Bwyd. Dim ond gyda lleiafswm gradd o H4 y caiff pynciau lefel 'Higher' eu hystyried.
  • 96- 112 o bwyntiau o Ddiploma Mynediad i Addysg Uwch o fewn pwnc perthnasol
  • Neu’r Cwrs Sylfaen yn arwain at raglen BSc Gwyddorau Iechyd

*Ar gyfer ymgeiswyr o Gymru sy’n sefyll arholiad diwygiedig Mathemateg TGAU, byddwn yn derbyn naill ai TGAU Mathemateg neu Mathemateg – Rhifedd.

Os nad ydych yn cwrdd â’r gofynion mynediad uchod, mae’r cwrs blwyddyn llawn amser ‘Sylfaen yn arwain at BSc Gwyddorau Iechyd’ ar gael a bydd yn cynnig cymhwyster perthnasol i chi symud ymlaen i’r radd hon ar ôl ei gwblhau yn llwyddiannus. Am ragor o wybodaeth am y cwrs Sylfaen, cliciwch yma.

Am wybodaeth benodol am ofynion mynediad neu os na restrwyd eich cymhwyster uchod, cysylltwch â naill ai’r Adran Dderbyniadau neu gyfeirio at Chwiliad UCAS am gyrsiau. Ceir gwybodaeth bellach am ein gofynion mynediad, yn cynnwys cymwysterau o’r UE, drwy glicio yma.

Gweithdrefnau Dethol:

Dewisir fel arfer ar sail cais cyflawn UCAS a, lle bo’n berthnasol, ar gyfweliad.

Ymgeiswyr Rhyngwladol
Bydd rhaid i fyfyrwyr lle nad Saesneg ydy eu mamiaith ddarparu tystiolaeth o safon rhugledd 6.0 IELTS o leiaf neu gyfwerth. Am fanylion llawn ar sut i wneud cais a chymwysterau iaith Saesneg, ewch i’r tudalennau rhyngwladol ar y wefan.

Sut i Wneud Cais:
Dylid gwneud cais am y cwrs hwn ar-lein i UCAS www.ucas.com. Dylid gwneud cais am gyrsiau rhan amser yn uniongyrchol i’r Brifysgol yma. Am ragor o wybodaeth, ewch i’n tudalennau Sut i Wneud Cais.

Cydnabod Dysgu Blaenorol (RPL) a Throsglwyddo Credydau i flwyddyn 2 a 3

Os oes diddordeb gyda chi mewn trosglwyddo credydau o sefydliad arall i astudio ym Met Caerdydd am gwrs sy’n derbyn mynediad ar gyfer blwyddyn 2 a/neu 3 cewch ragor o wybodaeth am hyn a sut i wneud cais ar y dudalen RPL. Cysylltwch â’r Adran Dderbyniadau os oes gennych unrhyw ymholiad am Gydnabod Dysgu Blaenorol.

Myfyrwyr aeddfed

Ymgeisydd aeddfed ydy unrhyw un sydd dros 21 oed nad aeth i brifysgol ar ôl gadael yr ysgol neu goleg. Mae Met Caerdydd yn croesawu ceisiadau gan ymgeiswyr aeddfed a cheir cyngor a gwybodaeth bellach yma.

Cysylltu â Ni

Am ymholiadau cyffredinol, cysylltwch â’r Tîm Derbyniadau ar 029 2041 6044 neu anfon e-bost at askadmissions@cardiffmet.ac.uk.

Ar gyfer ymholiadau penodol i’r cwrs, cysylltwch ag arweinydd y rhaglen, James Blaxland a Ian Ashton
E-bost: jablaxland@cardiffmet.ac.uk a iashton@cardiffmet.ac.uk
Ffôn: 029 2041 6446

Gwybodaeth Allweddol Am Y Cwrs

Cod UCAS: D616 Dylai myfyrwyr Sylfaen hefyd ddefnyddio’r cod UCAS hwn a gwneud cais am bwynt mynediad 0 ar wefan UCAS.

Lleoliad yr astudiaeth: Campws Llandaf

Ysgol: Ysgol Chwaraeon a Gwyddorau Iechyd Caerdydd

Hyd y Cwrs: 3 blynedd llawn amser neu 4 blynedd llawn amser yn cynnwys y flwyddyn Sylfaen. Gellir ychwanegu un lleoliad rhyngosod at y naill lwybr neu’r llall.

Mae’r cwrs BSc (Anrh) ar gael yn rhan amser hefyd a gall gymryd rhwng pedair ac wyth mlynedd i’w gwblhau. Os ydych yn dymuno cael rhagor o wybodaeth, cysylltwch â ni.

TROSOLWG O'R CWRS | UCHAFBWYNTIAU GRADD
Uchafbwyntiau Gradd

Yn y fideo cyflwyniad byr hwn, mae Cyfarwyddwr y Rhaglen Dr Vitti Allender yn dweud mwy wrthym am y radd mewn Gwyddor a Thechnoleg Bwyd.

DEWCH I GWRDD Â’R TÎM
Dewch i gwrdd â’r Tîm: Dr Vitti Allender

Dewch i gwrdd â Dr Vitti Allender, Cyfarwyddwr Rhaglen y radd BSc Gwyddor a Thechnoleg Bwyd sy'n rhannu ei hangerdd a'i phrofiad am y pwnc.

EIN CYFLEUSTERAU
Sesiynau Ymarferol Gwyddor Bwyd

Wedi'i ffilmio gan fyfyrwyr Gwyddor Bwyd a Thechnoleg, cewch olwg fewnol ar sut olwg sydd ar y sesiynau ymarferol ar y radd - o'r ceginau defnyddwyr i'r labordai gwyddoniaeth biofeddygol.

Gellir dod o hyd i delerau ac amodau llawn mewn perthynas â derbyn cynnig i astudio ym Mhrifysgol Metropolitan Caerdydd trwy ymweld â www.metcaerdydd.ac.uk/terms