Skip to main content
Ysgol Chwaraeon a Gwyddorau Iechyd Caerdydd>Cyrsiau>Blwyddyn Atodol Gofal Iechyd Cyflenwol - Gradd BSc (Anrh)

Blwyddyn Atodol Gofal Iechyd Cyflenwol - Gradd BSc (Anrh)

Blwyddyn Mynediad

Mae’r radd atodol hon hyn darparu chyfle ardderchog i ymestyn eich dysg a'ch profiad ym maes therapïau cyflenwol i gyflawni gradd BSc (Anrh) Gofal Iechyd Cyflenwol (gyda Statws Ymarferydd) o fewn Canolfan Gofal Iechyd Cyflenwol Met Caerdydd.

Ar ôl ennill cymwysterau cydnabyddedig mewn tylino’r corff, aromatherapi ac adweitheg a’r wybodaeth berthnasol sylfaenol ar Lefel 4 a 5, byddwch yn gallu ffocysu ar ddatblygu’r sgiliau a’r profiad sydd eu hangen i gael cyflogaeth fel rhan o dîm aml-ddisgyblaethol mewn dau leoliad gwahanol (un fesul tymor). Byddwch yn defnyddio’r tri dull, yn aml wedi’u cyfuno i drin cleientiaid gydag ystod eang o bryderon iechyd corfforol a meddwl i gynorthwyo’u teuluoedd a’u gofalwyr. Mae’r cyfle a gynigir gan nifer o leoliadau i weithio ochr yn ochr â gweithwyr gofal iechyd proffesiynol eraill neu eu harsylwi yn weithgaredd dysgu amhrisiadwy.

Ymhlith lleoliadau profiad gwaith cyfredol mae uned gofal lliniarol yn ysbyty canser lleol Ymddiriedolaeth y GIG, nifer o sefyllfaoedd lliniarol eraill, tai â chymorth byw a chyfleuster preswyl byr-dymor yn cynorthwyo anghenion iechyd meddwl ac uned iechyd meddwl Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro. Mae gan fyfyrwyr oruchwylydd ar safle’r lleoliad yn ogystal â chymorth gan aelod a enwir o’r tîm addysgu.

Ynghyd â mynychu lleoliad gwaith bydd myfyrwyr yn gweithio fel tîm i weithredu pob agwedd o waith Clinig Gofal Iechyd Cyflenwol lle mae rhaid talu ffi ac sydd ar agor i'r cyhoedd.

Yn ogystal â'r cyfleoedd dysgu seiliedig ar waith, mae myfyrwyr yn gallu ymestyn a datblygu eu sgiliau therapi a diagnosis gwahaniaethol trwy'r modiwlau Ymarfer Uwch a Newid Ymddygiad Iechyd.

Elfen bwysig o’r flwyddyn atodol ydy cwblhau prosiect ymchwil. Mae hyn yn aml yn estyniad o faes diddordeb a nodwyd eisoes yn Lefel 4 a 5 a dylid ei drafod gyda thîm y rhaglen mewn cyfweliad.

Yn ddi-os, bydd y flwyddyn atodol hon yn gwella cyfleoedd cyflogaeth a galluogi therapyddion i ymestyn ac ehangu nifer eu darpar gwsmeriaid.

Cyrsiau byr cysylltiedig:

Cwrs Hyfforddi Aromatherapi Proffesiynol/Gwobr Addysg Barhaus mewn Aromatherapi

Cwrs Hyfforddi Tylino Cyfannol Proffesiynol/Gwobr Addysg Barhaus mewn Tylino Cyfannol

Cwrs Hyfforddi Adweitheg Proffesiynol/Dyfarniad Addysg Barhaus mewn Adweitheg



Cynnwys y Cwrs

Fel y disgrifir uchod, mae'r flwyddyn atodol hon yn cynnwys 40 credyd o ddysgu Seiliedig ar Waith, prosiect ymchwil 40 credyd ynghyd â dau fodiwl 20 credyd mewn Ymarfer Uwch a Newid Ymddygiad Iechyd.  

Dysgu ac Addysgu

Cyflenwir cyfuniad o theori ac ymarfer drwy ystod o ddulliau addysgu ar draws y rhaglen yn cynnwys darlithoedd, tiwtorialau, gweithdai, dosbarthiadau ymarferol, tasgau grŵp a chyflwyniadau. Mae darlithwyr arbenigol sydd yn therapyddion profiadol yn cynnig modiwlau clinigol, tra bod darlithwyr eraill o'r Ysgol Gwyddorau Iechyd yn addysgu eu harbenigedd mewn ystod o fodiwlau academaidd cynorthwyol.

Ategir yr addysgu a’r dysgu ar lefel y rhaglen a’r modiwl gan lawlyfrau clir a chefnogol, y defnydd o Moodle (Rhith Amgylchedd Dysgu / VLE) a gan adborth amserol, adeiladol gan ddarlithwyr a thiwtoriaid.

Cynorthwyir myfyrwyr wrth iddyn nhw gwblhau eu traethodau hir gydag astudiaeth annibynnol dan gyfarwyddyd tra bod profiadau dysgu yn seiliedig ar waith yn gwella ac ymestyn eu hymarfer proffesiynol.

Cyd-gysylltwyd strategaethau addysgu a dysgu yn ofalus ar draws ystod o fodiwlau a themâu er mwyn datblygu sgiliau academaidd hanfodol yn llawn tra’n ymgorffori sgiliau ymchwil a chyflogadwyedd yn elfennau ymarferol a phroffesiynol y cwrs.

Ar y lefel hon o astudio, disgwylir i’r myfyrwyr arddangos sgiliau dysgu annibynnol. Disgwylir iddyn nhw fynychu dosbarth, clinig a lleoliad am tua 18 awr yr wythnos yn ystod Tymor 1 ac 11 awr yr wythnos yn ystod Tymor 2. Yn ychwanegol, mae 5 awr o oruchwyliaeth unigol ar gyfer eu prosiect ymchwil.

Asesu

Mae asesu ar gyfer y flwyddyn hon yn cynnwys ystod o arholiadau ymarferol, astudiaethau achos, adroddiadau adfyfyriol, adroddiadau goruchwylydd lleoliad a chyflwyniadau unigol a grŵp. Cyflwynir y prosiect ymchwil ar ffurf papur ar gyfer cylchgrawn.

Ategir yr addysgu a’r dysgu ar lefel y rhaglen a’r modiwl gan lawlyfrau clir a chefnogol, y defnydd o Moodle (Rhith Amgylchedd Dysgu), a gan adborth amserol, adeiladol gan ddarlithwyr a thiwtoriaid. Mae myfyrwyr yn derbyn adborth ffurfiannol ar nifer o aseiniadau i dywys eu dysg tra bod cymorth academaidd ar gael gan staff y llyfrgell.

Cyflogadwyedd a Gyrfaoedd

Elfen bwysig o'r flwyddyn atodol hon ydy datblygiad sgiliau proffesiynol ac ehangu profiad a ddarperir gan fodiwlau dysgu yn y gwaith.

Mae’r elfen lleoliad yn cynnig y cyfle i weithio mewn ystod o amgylcheddau, nifer ohonyn nhw mewn sefyllfaoedd clinigol, tra bod clinig y brifysgol yn caniatáu myfyrwyr i brofi pob agwedd o gynnal clinig aml-ddisgyblaethau.

Mae’r profiad hwn yn golygu y gall ein graddedigion gystadlu’n ffafriol yn y farchnad swyddi. Mae cyn-fyfyrwyr wedi cael cynnig cyflogaeth o ganlyniad i’w lleoliad gwaith neu sefydlu eu clinigau eu hunain gan cynnig cyflogaeth i raddedigion eraill, tra bod eraill wedi sefydlu eu busnes eu hun fel therapyddion.

Mae cyfle hefyd i barhau â’ch astudiaethau i lefel Meistr a thu hwnt drwy, er enghraifft, Rhaglen Meistr mewn Dulliau Ymchwil (MRes) ym Met Caerdydd. Mae hyn yn caniatáu myfyrwyr i ymestyn eu prosiect ymchwil ar agwedd o ofal iechyd cyflenwol.

Gofynion Mynediad a Sut i Wneud Cais

Dylai fod gan pob ymgeisydd 5 TGAU yn cynnwys Saesneg iaith (neu Cymraeg Mamiaith) a Mathemateg* gradd C neu uwch / gradd 4 n eu uwch (ar gyfer ymgeiswyr sy’n meddu ar y TGAU diwygiedig yn Lloegr) ynghyd â’r canlynol:

  • Rhaid i’r Radd Sylfaen neu HND mewn Therapïau Cyflenwol gynnwys modiwlau ar lefel 4 a 5 mewn tylino’r corff, adweitheg ac aromatherapi.
  • Mae gofyn am sgôr o 6.5 IELTS (neu gyfwerth) lle nad Saesneg ydy’r famiaith.

*Ar gyfer ymgeiswyr o Gymru sy’n sefyll arholiad diwygiedig Mathemateg TGAU, byddwn yn derbyn naill ai TGAU Mathemateg neu Mathemateg – Rhifedd.

Os ydych yn astudio cyfuniad o’r uchod neu os na restrwyd eich cymhwyster, cysylltwch â naill ai’r Adran Dderbyniadau neu gyfeirio at Chwiliad UCAS am Gyrsiau (UCAS Course Search). Mae rhagor o wybodaeth am ein gofynion mynediad, gan gynnwys cymwysterau o’r UE ar gael drwy glicio yma.

Rydyn ni hefyd yn croesawu ceisiadau gan fyfyrwyr yn meddu ar gymwysterau cyfwerth â’r uchod neu gan y rhai heb gymwysterau ffurfiol ond â phrofiad mewn maes perthnasol. Ar gyfer ymgeiswyr sydd ond yn cymryd 2 bwnc Lefel A neu gyfwerth, caiff hyn ei ystyried ynghyd â gweddill y proffil academaidd ac efallai y cynigiwn gynnig wedi’i raddio yn hytrach na defnyddio Tariff UCAS.

Gofynion eraill: Gwiriad DBS a Iechyd Galwedigaethol​ llwyddiannus.

Ymgeiswyr Rhyngwladol
Bydd rhaid i fyfyrwyr lle nad Saesneg ydy eu mamiaith ddarparu tystiolaeth o safon rhugledd 6.0 IELTS o leiaf neu gyfwerth. Am fanylion llawn ar sut i wneud cais a chymwysterau iaith Saesneg, ewch i’r tudalennau rhyngwladol ar y wefan.

Gweithdrefnau Dethol:
Dewisir fel arfer ar sail cais cyflaen UCAS a lle bo’n berthnasol ar gyfweliad.

Sut i Wneud Cais:
Dylid gwneud cais am y cwrs hwn ar-lein i UCAS ar www.ucas.com . Am ragor o wybodaeth, ewch i’n tudalennau Sut i Wneud Cais.

Cydnabod Dysgu Blaenorol (RPL) a Throsglwyddo Credydau i flwyddyn 2 a 3
Os oes diddordeb gyda chi mewn trosglwyddo credydau o sefydliad arall i astudio ym Met Caerdydd am gwrs sy’n derbyn mynediad ar gyfer blwyddyn 2 a/neu 3 cewch ragor o wybodaeth am hyn a sut i wneud cais ar y dudalen RPL. Cysylltwch â’r Adran Dderbyniadau  os oes gennych unrhyw ymholiad am Gydnabod Dysgu Blaenorol.

Myfyrwyr aeddfed
Ymgeisydd aeddfed ydy unrhyw un sydd dros 21 oed nad aeth i brifysgol ar ôl gadael yr ysgol neu goleg. Mae Met Caerdydd yn croesawu ceisiadau gan ymgeiswyr aeddfed a cheir cyngor a gwybodaeth bellach yma.

Cysylltwch â Ni

Am ymholiadau cyffredinol cysylltwch â’r Tîm Derbyniadau ar 029 2041 6044 neu anfon e-bost at askadmissions@cardiffmet.ac.uk.

Ar gyfer ymholiadau penodol i’r cwrs, cysylltwch â:
E-bost: Jduffy@cardiffmet.ac.uk
Ffôn: 02920 205672

Rydyn ni’n ymdrechu i gyflwyno cyrsiau yn unol â’r disgrifiad ac ni fyddwn fel arfer yn gwneud newidiadau i gyrsiau, fel teitl, cynnwys, dull cyflwyno a darpariaeth addysgu’r cwrs. Fodd bynnag, gall fod yn angenrheidiol i’r brifysgol wneud newidiadau yn narpariaeth y cwrs cyn neu ar ôl cofrestru. Mae’n cadw’r hawl i wneud amrywiadau i gynnwys neu ddulliau cyflwyno, gan gynnwys terfynu neu gyfuno cyrsiau os ystyrir bod camau gweithredu o’r fath yn angenrheidiol. Darllenwch ein Telerau ac Amodau i gael y wybodaeth lawn.

Gwybodaeth Allweddol Am Y Cwrs

Cod UCAS: B304

Lleoliad yr astudiaeth: Campws Llandaf

Ysgol: Ysgol Chwaraeon a Gwyddorau Iechyd Caerdydd

Hyd y Cwrs: Gellir astudio’r cwrs hwn dros 1 flwyddyn (llawn amser) neu 2 flynedd (rhan amser).