Mae’r radd Atodol Iechyd a Lles BSc (Anrh) yn rhoi cyfle gwych i ymestyn eich gwybodaeth a’ch profiad blaenorol i gwblhau gradd a all arwain at gyflogaeth i raddedigion neu astudiaeth bellach.
Mae’r rhaglen hon wedi’i chynllunio ar gyfer y rhai sydd naill ai wedi ennill cymwysterau cydnabyddedig priodol mewn tylinio, aromatherapi ac adweitheg neu sydd â phrofiad astudio neu ddiwydiant perthnasol mewn meysydd sy’n gysylltiedig ag iechyd a lles. Bydd angen i chi hefyd fod wedi astudio dulliau ymchwil ar Lefelau 4 a 5.
Un o brif nodweddion y rhaglen yw’r modiwl dysgu sy’n seiliedig ar waith a’n eich galluogi i ganolbwyntio ar ddatblygu’r sgiliau a’r profiad sydd eu hangen ar gyfer cyflogaeth i raddedigion. Byddwch yn cwblhau o leiaf dau leoliad gwaith gwahanol yn ystod y flwyddyn, gan ddefnyddio’ch sgiliau a’ch gwybodaeth broffesiynol i gefnogi cleientiaid ag amrywiaeth eang o bryderon iechyd corfforol a meddyliol, eu teuluoedd a/neu ofalwyr. Mae’r cyfle i weithio ochr yn ochr â gweithwyr gofal iechyd proffesiynol eraill neu arsylwi arnynt yn elfen werthfawr arall i’r modiwl hwn.
Mae lleoliadau gwaith cyfredol yn cynnwys lleoliadau gofal lliniarol a chymorth iechyd meddwl yn y GIG a sefydliadau’r trydydd sector. Mae gan fyfyrwyr oruchwyliwr lleoliad ar y safle yn ogystal â chefnogaeth gan aelod penodol o’r tîm addysgu.
Ar y cyd â mynychu lleoliad, mae myfyrwyr yn gweithio fel tîm i weithredu pob agwedd ar Glinig Gofal Iechyd Cyflenwol y Brifysgol sy’n talu ffioedd ac yn agored i’r cyhoedd.
Yn ogystal â’r cyfleoedd dysgu sy’n seiliedig ar waith, byddwch yn dyfnhau eich gwybodaeth sylfaenol o fewn y modiwl Newid Ymddygiad Iechyd, a thrwy un o ddau fodiwl dewisol: Iechyd a Lles Cymhwysol ar draws yr Oes neu Ymarfer Uwch (opsiwn Therapi Cyflenwol yn unig).
Un elfen bwysig o’r flwyddyn atodol yw cwblhau prosiect ymchwil. Mae hyn yn aml yn estyniad o faes diddordeb a nodwyd eisoes ar Lefel 4 neu 5 a dylid ei drafod gyda thîm y rhaglen yn y cyfweliad. Mae cyfleoedd i ymchwilio i ddylanwad posibl ymyrraeth drwy brosiect astudiaeth achos ar raddfa fach, cynnal arolygon neu gwblhau adolygiad o’r llenyddiaeth ar bwnc penodol.
Heb os, bydd y cyfle atodol hwn yn gwella cyfleoedd cyflogaeth ac yn eich paratoi ar gyfer astudiaeth bellach ar lefel meistr os mai dyna fydd eich cam nesaf.
Cynnwys y Cwrs
Lefel 6
Gorfodol:
- Prosiect Terfynol
- Dysgu’n Seiliedig ar Waith
- Newid Ymddygiad Iechyd
Dewisol – Dewiswch un o’r canlynol
- Ymarfer Uwch (Gofal Iechyd Cyflenwol cymwysedig yn unig)
- Iechyd a Lles Cymhwysol ar draws yr Oes
Dysgu ac Addysgu
Cyflwynir cymysgedd o theori ac ymarfer drwy ystod o ddulliau addysgu ar draws y rhaglen gan gynnwys darlithoedd, tiwtorialau, gweithdai, dosbarthiadau ymarferol (opsiwn Ymarfer Uwch yn unig), tasgau grŵp a chyflwyniadau. Mae ein hamgylchedd dysgu rhithwir hefyd yn agwedd annatod ar y pecyn dysgu sy’n cefnogi anghenion ein myfyrwyr.
Cefnogir myfyrwyr wrth iddynt gwblhau eu prosiect gydag astudiaeth annibynnol dan arweiniad tra bod profiadau dysgu seiliedig ar waith yn gwella ac yn ehangu eu hymarfer proffesiynol.
Dyluniwyd strategaethau addysgu a dysgu yn ofalus i gydgysylltu ar draws yr ystod o fodiwlau a themâu i ddatblygu sgiliau academaidd hanfodol yn llawn wrth ymgorffori sgiliau ymchwil a chyflogadwyedd i elfennau ymarferol a phroffesiynol y cwrs.
Ar y lefel astudio hon, disgwylir i fyfyrwyr ddangos sgiliau dysgu annibynnol. Mae presenoldeb yn y dosbarth, clinig a lleoliad yn oddeutu 15 awr yr wythnos ar gyfartaledd, yn dibynnu ar ddewisiadau Dewis.
Asesu
Mae’r strategaethau asesu ar gyfer pob modiwl yn amrywio i sicrhau bod y dull mwyaf priodol yn cael ei weithredu ar gyfer pob modiwl.
Mae’r asesiad ar gyfer y flwyddyn hon yn cynnwys amrywiaeth o draethodau, arholiadau ymarferol, astudiaethau achos, adroddiadau myfyriol, a chyflwyniadau unigol a grŵp.
Cyflwynir y prosiect ymchwil ar arddull papur ar gyfer cyfnodolyn.
Cyflogadwyedd a Gyrfaoedd
Elfen bwysig o’r flwyddyn atodol hon yw datblygu sgiliau proffesiynol ac ehangu profiad a ddarperir gan y modiwl Dysgu’n Seiliedig ar Waith.
Mae’r elfen lleoliad yn cynnig cyfle i weithio mewn amrywiaeth o amgylcheddau, nifer ohonynt mewn lleoliadau clinigol, tra bod clinig y Brifysgol yn caniatáu i fyfyrwyr brofi pob agwedd ar gynnal clinig amlddisgyblaethol.
Mae’r profiadau hyn yn golygu y gall ein graddedigion gystadlu yn ffafriol iawn yn y farchnad swyddi. Mae cyn-fyfyrwyr wedi cael cynnig cyflogaeth o ganlyniad i’w lleoliad neu i sefydlu eu clinigau ei hunain sy’n cynnig cyflogaeth i raddedigion eraill, tra bod eraill wedi sefydlu ei hunain fel therapyddion unig fasnachwyr.
Mae cyfle hefyd i barhau â’ch astudiaethau i lefel meistr a thu hwnt drwy, er enghraifft, y rhaglen Meistr mewn Ymchwil Dulliau Rheolaeth (MRes – Rheolaeth) ym Met Caerdydd.
Gofynion Mynediad a Sut i Wneud Cais
Dylai fod gan bob ymgeisydd pump TGAU gan gynnwys Iaith Saesneg (neu Gymraeg Iaith Gyntaf) a Mathemateg neu Mathemateg - Rhifedd gradd C neu uwch / gradd 4 neu uwch, ynghyd â’r canlynol:
- Gradd Sylfaen neu HND mewn Therapïau Cyflenwol (y mae’n rhaid iddynt gynnwys modiwlau ar Lefel 4 a 5 mewn tylino’r corff, adweitheg ac aromatherapi) neu mewn maes sy’n gysylltiedig ag iechyd a lles.
- Mae angen sgôr IELTS (neu gyfwerth) o 6.5 lle nad Saesneg yw’r iaith gyntaf.
Caiff ymgeiswyr nad oes ganddynt y cymhwyster mynediad arferol eu cyfweld a’u hystyried yn unigol ar sail eu gwaith neu eu cefndir dysgu blaenorol.
Gofynion eraill: Gwiriad
DBS a
Iechyd Galwedigaethol llwyddiannus.
Mae rhagor o wybodaeth am gymwysterau Tramor ar gael
yma.
Mae rhagor o wybodaeth am sut i wneud cais ar gael
yma.
Cysylltwch â Ni