
llwytho i lawr Rhaglen Ymarferydd Datblygwr Hyfforddwyr Cymru
Chwaraeon Cymru: Rhaglen Ymarferydd Datblygwr Hyfforddwyr
Menter i feithrin Datblygwyr Hyfforddwyr a all gael effaith gadarnhaol ar ddatblygiad hyfforddwyr ac arfer hyfforddi yng Nghymru.
Mae hyfforddwyr yn adnodd pobl hollbwysig sy’n chwarae rhan arwyddocaol yn yr uchelgais i ‘Chwaraeon yng Nghymru i Ffynnu’
(https://www.sport.wales/sport-wales-strategy/). Mae hyfforddwyr, ac felly hyfforddi, yn cael eu cydnabod fel gweithgaredd arwyddocaol sy'n creu profiadau cadarnhaol a blaengar i bawb dan sylw. I gefnogi hyfforddwyr sy’n gallu meithrin anghenion cyfranogwyr ac athletwyr, mae Chwaraeon Cymru yn ceisio ymgysylltu a datblygu gweithlu o Ddatblygwyr Hyfforddwyr cynhwysol a chynrychioliadol. Bydd y gweithlu dilynol yn gweithredu fel adnodd gyda’r gallu a’r capasiti i gael effaith adeiladol ar ansawdd datblygiad hyfforddwyr, arfer hyfforddi ac, felly, ar brofiadau pawb sy’n ymwneud â chwaraeon.
Er mwyn helpu i ddiwallu anghenion datblygu hyfforddwyr, mae Chwaraeon Cymru a Phrifysgol Metropolitan Caerdydd yn cydweithio i lansio Rhaglen Ymarferydd Datblygwr Hyfforddwyr Cymru (WCDPP) flaengar. Bydd yn gyfle datblygiad proffesiynol sy’n cyd-fynd â CIMSPA sy’n canolbwyntio ar Ymarferwyr Datblygwyr Hyfforddwyr sydd â’r dyhead a’r galluoedd i gefnogi pob agwedd ar arfer proffesiynol hyfforddwyr. Rhagwelir y bydd yr Ymarferwyr Datblygwyr Hyfforddwyr hyn yn cefnogi datblygiad pellach hyfforddwyr sy’n perfformio’n dda ar draws amrywiaeth o chwaraeon yng Nghymru.
Cyhoeddi’r rhaglen: Mawrth 1af 2022
Y broses ymgeisio yn cau: 28 Mawrth 2022 am 9am. Ni fydd ceisiadau a dderbynnir ar ôl y dyddiad cau yn cael eu hystyried.
Cyfweliadau: 11-13 Ebrill 2022. Y bwriad yw cynnal y cyfweliadau wyneb yn wyneb yn Chwaraeon Cymru, Gerddi Sophia, Caerdydd, CF11 9HW os bydd canllawiau Covid ac amgylchiadau unigol yn caniatáu.
Diwrnod cyflwyno i’r rhaglen: Mai 2022 (Dyddiad i’w gadarnhau)
Rhaglen yn dechrau: Medi 2022 (Dyddiad i'w gadarnhau)
Hyd y Rhaglen: 18 mis;
Yn cynnwys 6 gweithdy preswyl mewn 3 cham. Bydd pob gweithdy yn rhai 3 diwrnod.
- Cam 1: 2 weithdy preswyl, Medi 2022 ac Ionawr 2023
‘Yr hunan’: ‘yr hunan’ yw’r Datblygwr Hyfforddwyr, yn ogystal â sut mae’n datblygu ymdeimlad o’r hunan mewn hyfforddwyr. - Cam 2: 2 weithdy preswyl, Ebrill 2023 & Medi 2023
Datblygu eraill: Deall materion pŵer, perfformiad a pherswâd. - Cam 3: 2 weithdy preswyl, Tachwedd 2023 & March 2024
Cyd-destun adeiladu: Dysgu drwy weithredu; Yr hyfforddwr (datblygwr) fel ‘trefnydd’.
Cost y Rhaglen:
- Bydd ffioedd y rhaglen yn cael eu talu gan Chwaraeon Cymru.
- Y sefydliad noddi / cyfranogwr rhaglen unigol fydd yn gyfrifol am dalu costau teithio.
Gofynion ymlaen llaw y Rhaglen:
Er mwyn cael eu hystyried am le ar y rhaglen, yn ddelfrydol dylai fod gan ymgeiswyr Datblygwyr Hyfforddwyr y canlynol:
- Y cymwysterau proffesiynol perthnasol a / neu brofiad priodol mewn hyfforddi, datblygiad oedolion a / neu arweinyddiaeth;
- Ymgysylltu a chefnogaeth gan CRhC neu sefydliad chwaraeon i weithredu yn eu hamgylchedd fel Datblygwr Hyfforddwyr;
- Gallu dangos eu gallu a'u profiad yn erbyn y disgrifiadau canlynol:
Dylai’r ymgeiswyr fod â’r canlynol:
- One thing we never bottomed out was verifying our domain on 365. I have attached the screenshots but I don’t have access to the domain.
- Cyswllt pendant â gweithio yn y byd Chwaraeon yng Nghymru neu fwriad i weithio yn y byd Chwaraeon yng Nghymru;
- Profiad o gyfathrebu’n effeithiol â nifer o randdeiliaid drwy amrywiaeth o ddulliau (e.e. llafar, ysgrifenedig, rhyngbersonol);
- Dealltwriaeth o'r materion sy'n ymwneud â datblygu hyfforddwyr yn llwyddiannus mewn amrywiaeth o leoliadau;
- Y meddylfryd i ymgysylltu â pherthnasoedd cefnogol dros amser wrth i ddiben datblygu a deinameg esblygu;
- Y nodweddion personol i feithrin perthynas [perthnasoedd] sy'n canolbwyntio ar ddatblygiad, gan ddangos gofal, ymrwymiad a chydweithrediad;
- Y gallu i arwain datblygiad personol hyfforddwyr drwy hwyluso effeithiol a sefydlu sesiynau unigol, bach a mawr;
- Y gallu i ddatblygu parch ac ymddiriedaeth mewn eraill drwy amrywiaeth o ddulliau;
- Ymwybyddiaeth a gwybodaeth am sut i ysbrydoli, annog a hwyluso dysgu oedolion;
- Y gallu i weithio'n unigol ar eu datblygiad proffesiynol eu hunain drwy adlewyrchu a gweithredu dilynol;
- Canfod, gwerthuso (yn feirniadol), crynhoi a defnyddio gwybodaeth o amrywiaeth o ffynonellau;
- Y profiad i fynegi syniadau'n effeithiol a chyfathrebu gwybodaeth yn briodol ac yn fanwl gywir gan ddefnyddio ystod o fformatau a chyfryngau technoleg gwybodaeth;
- Ymrwymiad i ddysgu a datblygiad parhaus.
Y Broses Ymgeisio:
I ddechrau, dylai ymgeiswyr ar gyfer y rhaglen gyflwyno cais mynegi diddordeb i Dr. Christian Edwards (cedwards@cardiffmet.ac.uk) sy’n cynnwys y canlynol:
- Llythyr eglurhaol hyd tudalen A4 yn disgrifio sbardunau personol i weithredu fel Datblygwr Hyfforddwyr, a sut bydd profiad a galluoedd personol a phroffesiynol yn galluogi effaith gadarnhaol o gyflawni'r rôl.
- CV diweddar.
- Tystiolaeth o ymgysylltu â CRhC neu sefydliad chwaraeon (corff noddi) a chefnogaeth ganddo i weithredu yn eu hamgylchedd fel Datblygwr Hyfforddwyr.
Gwahoddir yr ymgeiswyr sydd ar y rhestr fer i fynychu cyfweliad (dyddiadau arfaethedig fel uchod) a gofynnir iddynt gyflwyno mewn fformat o'u dewis ar y testun; “Rôl y datblygwr hyfforddwyr: Enghreifftiau o arfer gorau”. Dylai ymgeiswyr fod yn barod i drafod yn feirniadol eu haddasrwydd ar gyfer y cwrs gan roi enghreifftiau clir o sut gallant gyfrannu at ddatblygu hyfforddwyr yng Nghymru sydd wedi'u harfogi i ddiwallu anghenion datblygiad, lles a pherfformiad cyfranogwyr ac athletwyr.
Am ragor o wybodaeth cysylltwch â Dr Christian Edwards
cedwards@cardiffmet.ac.uk
Gellir gweld y Weledigaeth ar gyfer Chwaraeon yng Nghymru yma
https://www.sport.wales/our-vision-for-sport/
Amcan y Rhaglen:
Nod y rhaglen yw creu ffynhonnell o Ddatblygwyr Hyfforddwyr a all gael effaith gadarnhaol ar ddatblygiad hyfforddwyr ac arfer hyfforddi yng Nghymru. Yn y pen draw, y nod yw rhoi'r cymorth gorau i hyfforddwyr sydd mewn sefyllfa dda i ddiwallu anghenion a threfnu profiadau cadarnhaol ar gyfer cyfranogwyr ac athletwyr ar draws yr holl gyd-destunau hyfforddi yng Nghymru.
Cynnwys y Rhaglen:
Mae'r egwyddorion sylfaenol a fydd yn sail i’r rhaglen yn cynnwys
cynhwysiant, creadigrwydd, gofal a dysgu. Ceir tystiolaeth o'r rhain drwy ddatblygu meddwl beirniadol, ystyriol a llawn dychymyg o fewn y Datblygwyr Hyfforddwyr ar y rhaglen. Mae'r union ddulliau cyflwyno, a fydd yn rhyngweithiol eu natur i gyd, yn cynnwys defnyddio (i) tasgau dadansoddol; (ii) dysgu ar sail problem; (iii) trafodaeth feirniadol wybodus; yn ogystal â sesiynau sy'n cynnwys (iv) chwistrellu theori. Mae’r pwynt olaf hwn yn bwysig wrth bwysleisio’r syniad o ‘adlewyrchu gyda gwybodaeth newydd’ (adlewyrchu ymlaen) yn hytrach nag ‘adlewyrchu ar brofiad’ yn unig (adlewyrchu yn ôl).
Mae’r cynnwys wedi’i strwythuro o amgylch profiad dysgu a datblygu Ymarferwyr Datblygu Hyfforddwyr gan gynnwys:
- Eu datblygiad mewnbersonol, rhyngbersonol a phroffesiynol
- Archwilio a gwella eu gwybodaeth, eu sgiliau a’u gallu i wneud synnwyr mewn damcaniaethau, egwyddorion a phrosesau sy’n ystyried y canlynol:
- Sut mae hyfforddwyr yn datblygu eu hathroniaethau, eu harferion a'u hymddygiad hyfforddi effeithiol
- Cymhwyso a hyrwyddo rhyngchwarae cadarnhaol rhwng datblygiad, lles a pherfformiad plant a phobl ifanc mewn amgylcheddau chwaraeons
- Drwy ddylunio, integreiddio cysyniadau biolegol, seicolegol, emosiynol a chymdeithasol mewn arfer hyfforddi wrth ddatblygu pobl ifanc drwy chwaraeon
- Trefnu amgylcheddau chwaraeon lle mae pobl yn profi ffynnu
- Cofnodi perthnasol ar brofiadau dysgu sy’n bodloni safonau proffesiynol cydnabyddedig CIMSPA ar gyfer Ymarferwyr Datblygu Hyfforddwyr
- Cefnogaeth un i un ar gyfer y rhai sy’n cymryd rhan yn y rhaglen a pherthnasoedd cefnogi cymheiriaid wedi’u hwyluso.
Canlyniadau’r Rhaglen:
Canlyniad y rhaglen fydd gweithlu Datblygu Hyfforddwyr a all wneud y canlynol:
- Cydweithio gyda ac ar draws Cyrff Rheoli Cenedlaethol (CRhC) Cymru a phartneriaid i hysbysu a darparu datblygiad proffesiynol parhaus (DPP) cynaliadwy, o fewn yr amgylchedd, sy’n briodol i’r cyd-destun i hyfforddwyr.
- Hwyluso amgylcheddau dysgu i hyfforddwyr wreiddio a chymhwyso athroniaethau, arferion ac ymddygiadau sy’n hyrwyddo triniaeth deg a chyfleoedd i bawb
- Hysbysu, bod yn fodel rôl a dangos sut gall modelau a chysyniadau bioseicogymdeithasol gael eu hintegreiddio mewn ymarfer hyfforddi fel mater o drefn a thrwy gynllun.
- Trosi egwyddorion amgylcheddau anogol lle mae pobl yn ffynnu yn eu cyd-destun
- Arwain ar ddatblygu system yng Nghymru sydd â’r bwriad yn greiddiol o fod yn gynhwysol o ran sut mae’n datblygu pobl mewn chwaraeon sy’n gallu cyflawni ar lwyfan y byd.
- Cwrdd â'r safonau ar gyfer Ymarferydd Datblygwr Hyfforddwyr CIMSPA.
Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant:
Mae Chwaraeon Cymru yn cydnabod pwysigrwydd gweithlu amrywiol o Ddatblygwyr Hyfforddwyr a byddai’n croesawu’n arbennig ymgeiswyr o bob rhan o’r gymuned a grwpiau heb gynrychiolaeth ddigonol. Bydd Chwaraeon Cymru a Phrifysgol Metropolitan Caerdydd yn sicrhau bod unigolion yn cael eu trin yn deg a gyda pharch. Bydd ymgeiswyr y rhaglen yn cael mynediad a chyfleoedd i gymryd rhan yng ngweithgareddau’r rhaglen a'u mwynhau mewn awyrgylch sy'n rhydd o unrhyw aflonyddu, bwlio, gwahaniaethu neu gam-drin. Byddwn yn ceisio darparu rhaglen ddatblygu sy'n bodloni'r diben, yn ystyried, ac yn gwneud addasiadau rhesymol i gefnogi anghenion unigol.