Addysgir y modiwlau trwy gyfuniad o ddarlithoedd, seminarau rhyngweithiol, astudio dan gyfarwyddyd ac ymarfer, a thiwtorialau unigol sy'n briodol i ganlyniadau dysgu'r modiwl dan sylw a'r rhaglen astudio gyffredinol.
Cefnogir dysgu’r myfyrwyr trwy ddefnyddio ein hamgylchedd dysgu rhithwir (Moodle) sy'n darparu adnoddau dysgu y tu hwnt i'r hyn a geir yn y ganolfan ddysgu (y llyfrgell). Mae gan bob dysgwr fynediad at diwtor personol sydd hefyd yn Gyfarwyddwr Rhaglen y cwrs.
Bydd dau bwynt mynediad cyffredinol; (i) y rhaglen ddoethuriaeth (ar ddechrau'r gydran Lefel 7 a addysgir yn y cwrs MSc); a (ii) y rhaglen Diploma Ôl-raddedig mewn Hyfforddi Chwaraeon (dechrau'r gydran Lefel 8 a addysgir).
Mae'r meini prawf ar gyfer (i) fel a ganlyn: Disgwylir i ymgeiswyr feddu ar radd dosbarth cyntaf neu 2(i) BSc /BA (Anrh) mewn gradd briodol sy'n gysylltiedig â chwaraeon. Ymhellach, bydd disgwyl y byddai ymgeiswyr wedi ennill o leiaf 60% o farciau ym mhrosiect ymchwil israddedig eu blwyddyn olaf. Mewn amgylchiadau eithriadol, bydd ymgeiswyr sydd â phrofiad sylweddol perthnasol (o hyfforddi) nad oes ganddynt radd gyntaf hefyd yn cael eu hystyried ar gyfer mynediad. Bydd gofyn i bob ymgeisydd fynychu cyfweliad er mwyn ystyried eu haddasrwydd.
Mae'r meini prawf ar gyfer (ii) fel a ganlyn;
• Gradd MSc/MA mewn maes cysylltiedig â chwaraeon sy'n briodol i'r llwybr (ee, Hyfforddi Chwaraeon, Addysgeg Chwaraeon). Mae angen Teilyngdod fel isafswm a Rhagoriaeth fyddai orau;
• Gradd ôl-raddedig mewn disgyblaeth amgen sy'n dderbyniol i arweinydd y rhaglen. Mae angen Teilyngdod fel isafswm a Rhagoriaeth fyddai orau;
• Bydd ymgeiswyr sydd â phrofiad gwaith eithriadol a helaeth a /neu gymwysterau cysylltiedig mewn hyfforddi a/neu addysg hyfforddi yn cael eu hystyried ar gyfer mynediad hefyd;
• Myfyrwyr ôl-raddedig cyfredol sy'n dymuno ildio cydran traethawd hir eu MSc er mwyn symud ymlaen yn uniongyrchol i'r Ddoethuriaeth mewn Hyfforddi Chwaraeon; Agwedd sy'n gwneud y DSC yn unigryw yw ei gydran ymarferol ac, yn benodol, y cysylltiad rhwng hynny a gwybodaeth newydd. O ganlyniad, bydd angen i bob ymgeisydd sy'n ymuno â'r rhaglen fod yn weithredol fel hyfforddwyr.
Ymgeiswyr Rhyngwladol Bydd angen i fyfyrwyr nad Saesneg yw eu hiaith gyntaf ddarparu tystiolaeth o ruglder i safon IELTS 6.5 neu gyfwerth o leiaf. I gael manylion llawn am sut i wneud cais a chymwysterau Saesneg Iaith ewch i'r tudalennau Rhyngwladol ar y wefan.
Y Broses Ddethol:
Fel rheol, dewisir myfyrwyr ar sail eu cais ffurfiol, CV a chyfweliad.
Sut i wneud cais:
Dylid gwneud ceisiadau ar gyfer y cwrs hwn yn uniongyrchol i'r brifysgol trwy ein cyfleuster hunanwasanaeth. Am wybodaeth bellach ewch i'n tudalennau Sut i Wneud Cais yn www.cardiffmet.ac.uk/howtoapply.
Os oes gennych ddiddordeb mewn defnyddio credyd o sefydliad arall, neu os ydych wedi ennill cymwysterau a /neu brofiad i astudio am gwrs ym Met Caerdydd, gallwch ddod o hyd i ragor o wybodaeth am hyn ynghyd â gwybodaeth am sut i wneud cais ar y dudalen RPL.
Gwybodaeth Ychwanegol
Ffioedd Dysgu a Chefnogaeth Ariannol: I gael y wybodaeth ddiweddaraf am ffioedd dysgu a'r gefnogaeth ariannol a allai fod ar gael cyfeiriwch at www.cardiffmet.ac.uk/fees.
Cysylltwch â Ni
Ar gyfer ymholiadau cyffredinol, cysylltwch â'r Tîm Derbyniadau ar 029 2041 6044, neu e-bostiwch askadmissions@cardiffmet.ac.uk.
Os oes gennych ymholiadau penodol am gyrsiau, cysylltwch ag arweinydd y rhaglen, Dr Kevin Morgan:
E-bost: kmorgan@cardiffmet.ac.uk Ffôn: 029 2041 6586