Cynnwys y Cwrs
Mae darlithwyr sy’n ymweld, o blith ymarferwyr cryfder a chyflyru mwyaf profiadol y DU, yn
ategu’r darlithoedd a gyflwynir gan staff arbenigol Ysgol Chwaraeon a Gwyddorau Iechyd
Caerdydd ar gryfder a chyflyru a disgyblaethau cysylltiol. Ceir modiwlau arbenigol ynghyd
ag ystod o fodiwlau gorfodol a dewisol a rennir gyda rhaglenni eraill yng Nghynllun Ôl-
raddedig Astudiaethau Chwaraeon yr Ysgol.
Caiff myfyrwyr y cyfle i ddatblygu sgiliau academaidd fel gwerthuso a myfyrio beirniadol
ochr yn ochr â’r sgiliau a’r cymwyseddau ymarferol sy’n ofynnol i weithio o fewn y maes
hwn sy’n datblygu’n gyflym. Mae’r wybodaeth wyddonol sy’n cefnogi cryfder a chyflyru
ymarferol yn sail i gynnwys amlddisgyblaethol y rhaglen. Un o brif amcanion y rhaglen yw
cefnogi myfyrwyr yn unol â fframwaith cymhwysedd UKSCA a’u paratoi ar gyfer achrediad
gan UKSCA (ASCC: Hyfforddwr Cryfder a Chyflyru Achrededig).
Er mwyn ennill y radd MSc, mae’n rhaid i fyfyrwyr gwblhau prosiect traethawd hir 15,000
gair yn llwyddiannus.
Modiwlau gorfodol:
- Dulliau Ymchwil ar gyfer Chwaraeon (Llwybr Meintiol neu Ansoddol) (20 credyd)
- Prosiect Traethawd Hir (60 credyd)
- Cryfder a Chyflyru: Gwyddoniaeth a Chymhwyso (20 credyd)
- Cryfder a Chyflyru: Theori i Ymarfer (20 credyd)
- Gwyddoniaeth Hyfforddi (20 credyd)
Modiwlau dewisol (dewis 40 credyd):
- Interniaeth (40 credyd)
- Astudiaeth Annibynnol (20 credyd)
- Biomecaneg Gymhwysol (20 credyd)
- Ffisioleg Ymarfer Cardiofasgwlaidd (20 credyd)
- Seicoleg Gweithgarwch Corfforol, iechyd a Llesiant (20 credyd)
- Biomecaneg Perfformiad Chwaraeon (20 credyd)
- Hyfforddi ac Addysgeg Chwaraeon: Theori i Ymarfer (20 credyd)
- Deall yr Amgylchedd Chwaraeon (20 credyd)
Dysgu ac Addysgu
Mae’r rhaglen hon yn defnyddio ystod o ddulliau cyflwyno i ennyn diddordeb y dysgwr. Mae’r rhain yn cynnwys darlithoedd a chyfarwyddyd ymarferol, trafodaethau o gwmpas y bwrdd gyda darlithwyr sy’n ymweld, sesiynau tiwtorial a phrosiectau mewn grwpiau bach. Er mwyn manteisio i’r eithaf ar y profiad, disgwylir i fyfyrwyr ymgysylltu â’r cwricwlwm ac astudiaeth hunangyfeiriedig, yn ogystal â thasgau a gofynion yr amgylcheddau profiad gwaith ac interniaeth. Darperir cefnogaeth tiwtor personol a fydd yn cynnig cefnogaeth fugeiliol, a chefnogaeth hefyd drwy Amgylchedd Dysgu Rhithwir y Brifysgol, adnoddau llyfrgell eang a chefnogaeth academaidd.
Asesu
Caiff modiwlau eu hasesu trwy gyfuniad o aseiniadau gwaith cwrs, vivas ymarferol, astudiaethau achos, portffolios, cyflwyniadau llafar ac adroddiadau labortd sy’n cyd-fynd â’r sgiliau amrywiol sydd eu hangen ar gyfer cyflogaeth ac achrediad o fewn y sector cymhwysol.
Cyflogadwyedd a Gyrfaoedd
Mae’n bosibl i raddedigion y rhaglen barhau â’u hastudiaethau a chofrestru ar gyfer gradd ymchwil (MPhil. PhD) mewn pwnc cysylltiedig. Bydd graddedigion eraill yn dilyn gyrfaoedd fel hyfforddwyr cryfder a chyflyru proffesiynol yn gweithio i Sefydliadau Chwaraeon Gwledydd Prydain, timau chwaraeon proffesiynol a Chyrff Llywodraethu Cenedlaethol, hyfforddwyr technegol, gweithio o fewn y diwydiant iechyd a ffitrwydd, gweithredu fel ymgynghorwyr a darlithwyr (addysg uwch ac addysg bellach).
Mae graddedigion blaenorol a myfyrwyr cyfredol y rhaglen yn gweithio o fewn y sefydliadau/cyrff canlynol:
English Institute of Sport; Chwaraeon Cymru; Dreigiau Casnewydd Gwent; Rygbi’r Scarlets; Rygbi Leicester Tigers; Clwb Pêl-droed Dinas Caerdydd; Criced Morgannwg; Bath Rugby; Chwaraeon Met Caerdydd, Coleg Caerdydd a’r Fro.
Gofynion Mynediad a Sut i Wneud Cais
Fel rheol, dylai fod gan ymgeiswyr un o'r canlynol:
- Gradd anrhydedd (2.1 neu'n uwch) mewn maes chwaraeon neu ymarfer corff sy'n briodol i'r rhaglen.
- Gradd anrhydedd (2.1 neu'n uwch) mewn maes disgyblaeth amgen sy'n dderbyniol i Gyfarwyddwr y Rhaglen.
- Caiff ymgeiswyr gyda phrofiad eithriadol a helaeth mewn rolau hyfforddi, gweithio o fewn y diwydiant iechyd a ffitrwydd, gwyddor chwaraeon neu wyddor ymarfer corff eu hystyried hefyd ar gyfer mynediad i’r rhaglen.
Ar gyfer ymgeiswyr y tu allan i'r DU, isafswm gofyniad IELTS Saesneg ar gyfer y rhaglen hon yw 6.5 neu gyfwerth.
Ymgeiswyr Rhyngwladol
Bydd angen i fyfyrwyr nad Saesneg yw eu hiaith gyntaf ddarparu tystiolaeth o ruglder i safon IELTS 6.5 neu gyfwerth o leiaf. I gael manylion llawn am sut i wneud cais am gymwysterau Iaith Saesneg ewch i’r tudalennau Rhyngwladol ar y wefan.
Y Broses Ddethol:
Caiff myfyrwyr fel rheol eu dewis ar sail eu cais ffurfiol, curriculum vitae a chyfweliad.
Sut i Wneud Cais:
Dylid gwneud ceisiadau am y cwrs hwn yn uniongyrchol i'r brifysgol trwy ein cyfleuster hunanwasanaeth. Am wybodaeth bellach ewch i'n tudalennau Sut i Wneud Cais: www.cardiffmet.ac.uk/howtoapply.
Os oes gennych ddiddordeb mewn defnyddio credyd o sefydliad arall, neu os ydych wedi ennill cymwysterau a/neu brofiad i astudio ar gyfer cwrs ym Met Caerdydd, gallwch ddod o hyd i ragor o wybodaeth am hyn ynghyd â gwybodaeth ar sut i wneud cais ar y dudalen Cydnabyddiaeth o Ddysgu Blaaenorol (RPL).
Gwybodaeth Ychwanegol
Ffioedd Dysgu a Chefnogaeth Ariannol:
I gael y wybodaeth ddiweddaraf am ffioedd dysgu a'r gefnogaeth ariannol a allai fod ar gael. Ewch i www.cardiffmet.ac.uk/fees.
Ffioedd rhan-amser:
Codir y taliadau fesul Modiwl Unigol oni nodir yn wahanol:
Israddedig = 10 Credyd; Ôl-raddedig = 20 Credyd
Yn gyffredinol, bydd y mwyafrif o fyfyrwyr yn cwblhau 60 credyd y flwyddyn ar gyfer astudiaethau Israddedig ac Ôl-raddedig; i gael gwir bris, cysylltwch â Chyfarwyddwr y Rhaglen yn uniongyrchol.
Cysylltu â Ni
Ar gyfer ymholiadau cyffredinol, cysylltwch â'r Tîm Derbyn ar 029 2041 6044 neu e-bostiwch askadmissions@cardiffmet.ac.uk.
Ar gyfer ymholiadau cwrs-benodol, cysylltwch ag arweinydd y rhaglen, Dr Jeremy Moody:
E-bost:
mscsandc@cardiffmet.ac.uk
Ffôn: 029 2020 5863