Cardiff School of Sport and Health Sciences>Courses>Strength and Conditioning Room

Ystafell Cryfder a Chyflyru

 

Mae cyfleuster cryfder a chyflyru'r Ysgol wedi'i leoli o fewn y Ganolfan Athletau Dan Do Genedlaethol (NIAC).

Mae ganddo bedwar platfform codi pwysau gyda rheseli cwrcwd integredig, sy'n caniatáu i'r myfyrwyr ddysgu amryw o lifftiau allweddol a datblygu eu gwybodaeth am y broses hyfforddi.

Mae'r ystafell yn darparu amgylchedd ardderchog ar gyfer dysgu ac addysgu, gyda sgrin deledu LCD 42” gydag Apple TV i gynnig adborth ar unwaith yn ystod darlithoedd ymarferol. Mae hyn yn galluogi myfyrwyr i ymgysylltu'n weithredol â hunanasesu ac asesu cyfoedion yn yr amgylchedd hyfforddi.

Defnyddir y cyfleuster gan nifer o athletwyr o dimau Chwaraeon Ffocws y Brifysgol, sy'n gweithio'n agos gyda hyfforddwyr cryfder a chyflyru Prifysgol Metropolitan Caerdydd.

Mae campfa dadansoddi cryfder a phŵer ar wahân syn’ galluogi dadansoddiad manwl o berfformiad athletaidd. Mae'r cyfleuster yn galluogi ymchwilwyr ac ymarferwyr i bennu lefel perfformiad athletwr ar gyfer ystod o nodweddion cryfder. Mae hefyd yn caniatáu i ymarferwyr asesu perfformiad cyhyrol mewn lleoliad adsefydlu.

Mae'n cynnwys llwyfan codi pwysau a adeiladwyd i’r pwrpas, gyda'r gallu i fewnosod platiau grym i'r llawr er mwyn casglu data grym-amser. Mae cyfarpar ychwanegol o'r radd flaenaf yn cynnwys dynamometer isocinetig, sy'n galluogi cynnal amryw o brosiectau ymchwil o safbwynt perfformiad ac atal anafiadau.