Cynnwys y Cwrs
Mae’r rhaglen yn darparu meddygon, ffisiotherapyddion ac osteopathiaid sydd â diddordeb mewn chwaraeon a meddygaeth ymarfer gyda:
- Y wybodaeth gefndir gwyddonol angenrheidiol i werthfawrogi’r materion sy’n codi ym maes chwaraeon a meddygaeth ymarfer.
- Yr hyfforddiant diweddaraf mewn dulliau modern o wneud diagnosis a thrin anafiadau chwaraeon, gan gynnwys gofal brys.
- Y sgiliau a’r wybodaeth angenrheidiol i ddarparu cyngor ynghylch rhwystro anafiadau chwaraeon.
- Cyflwyniad i ymchwil sy’n briodol i faes chwaraeon a meddygaeth ymarfer.
- Cyfleoedd i ddysgu am theori a chymhwysiad gwyddoniaeth chwaraeon ac ymarfer yng nghyd-destun chwaraeon.
- Y cyfle i adeiladu ar brofiadau ymchwil blaenorol.
- Cyfle i ymgymryd â gweithgaredd ymchwil sy’n berthnasol i’r ddisgyblaeth fel y dangosir gan brosiect y traethawd hir.
- Bydd y cwrs llawn amser yn cynnwys cysylltiadau â thimau chwaraeon er mwyn galluogi’r myfyriwr i ennill profiad a mewnwelediad o ran gweithio o fewn tîm amlddisgyblaethol mewn amgylchedd chwaraeon ar lefel uchel.
Mae’r rhaglenni llawn a rhan amser yn dilyn fframwaith modiwlar; dysgir y pum modiwl craidd yn ystod y cyfnodau preswyl ac fe’u rhestrir isod gyda gwybodaeth bellach am bob un yn y PDF:
- SSP7057 – Anafiadau Chwaraeon a Dulliau Clinigol
- SSP7058 – Chwaraeon a Meddygaeth Ymarfer I
- SSP7054 – Hanfodion Chwaraeon a Gwyddoniaeth Ymarfer
- SSP7055 – Chwaraeon a Meddygaeth Ymarfer II
- SSP7058 – Dulliau Ymchwil mewn Chwaraeon a Meddygaeth Ymarfer
Disgrifiadau Chwaraeon a Meddygaeth Ymarfer (PDF)
MSc
Bydd disgwyl i fyfyrwyr sy’n symud ymlaen o’r cwrs a addysgir i’r rhaglen MSc ymgymryd â darn gwreiddiol o ymchwil ar ffurf erthygl i gyfnodolyn ar agwedd ar chwaraeon a meddygaeth chwaraeon cymhwysol. Neilltuir tiwtor i’w cefnogi yn eu hymchwil.
Dysgu ac Addysgu
Bydd dulliau addysgu a dysgu yn cynnwys gweithdai, darlithoedd, asesiadau clinigol, cyflwyniadau gan fyfyrwyr ac astudiaethau personol. Addysgir sgiliau clinigol mewn grwpiau bach, a bydd gofyn i fyfyrwyr gyfrannu ynddynt fel cleifion, archwilwyr neu’r sawl sy’n cael eu harchwilio. Bydd myfyrwyr yn gallu cael mynediad o bell i holl ddarlithoedd trwy amgylchedd dysgu rhithwir: mae’n bosib cyrchu’r we a chyfleusterau chwilio ar-lein trwy dudalen we adnoddau dysgu’r brifysgol.
Cymryd rhan mewn lleoliad clinigol mewn amgylchedd chwaraeon a meddygaeth ymarfer/clinig anafiadau chwaraeon; cyfarwyddyd gan ystod eang o weithwyr proffesiynol sy’n ymwneud â chwaraeon a meddygaeth ymarfer, a chynigir cyfle hefyd i weithio gyda gweithwyr proffesiynol sy’n cefnogi perfformwyr elît ar lefel cenedlaethol a rhyngwladol fel rhan o’r rhaglen.
Mae’r personél yn y timau rheoli, addysgu ac archwilio yn cyfuno eu profiad a’u gwybodaeth academaidd i gynnig y wybodaeth ddiweddaraf y maes Chwaraeon a Meddygaeth Ymarfer. Cymeradwywyd y cwrs yn ddiweddar am ei ddefnydd helaeth o ymarferwyr hynod gymwys i gyflwyno’r rhaglen ac am ei strwythur rheoli arloesol:
Dr Nick Clark (Arholwr Allanol)
Dr Isabel Moore (Cyfarwyddwr y Rhaglen)
Mr
Andy Kelly
Dr Thom Phillips
Dr Dan Roiz de Sa
Dr Geoff Davies
Ms. Donna Saunderson-Hull
Mr David Weeks
Dr Nick Travaglia
Lt Col Gareth Thomas
Mr Prabhat Mathema
Mr Angus Robertson
Melanie Golding(Rheolwr y Rhaglen)
Rheolwr y Rhaglen
Asesir yr holl fodiwlau trwy waith cwrs ac asesir y profiad clinigol trwy arholiad viva voce. Asesir cymhwysedd clinigol trwy brofiad clinigol strwythuredig gwrthrychol (OSCE). Mae’r rhaglen hon ar gyfer meddygon meddygol, ffisiotherapyddion ac osteopathiaid siartredig sydd eisiau datblygu eu harbenigedd ym maes chwaraeon a meddygaeth ymarfer. Mae’n cynnig cyfleoedd unigryw i weithio mewn timau amlddisgyblaethol i ennill gwell dealltwriaeth o’r holl ddisgyblaethau eraill o fewn chwaraeon a meddygaeth ymarfer.
Gofynion Mynediad a Sut i Wneud Cais
Noder: Ni fydd yr Ysgol yn erbyn ceisiadau ar gyfer y flwyddyn academaidd 2020/2021. Bydd unrhyw geisiadau a dderbynnir yn cael eu hystyried ar gyfer y flwyddyn academaidd nesaf (2021/22).
Croesawir ceisiadau gan ddarpar fyfyrwyr gyda gradd feddygol neu radd gysylltiedig yn y gwyddorau iechyd (e.e. ffisiotherapi, osteopathi, ciropracteg, podiatreg, adferiad chwaraeon, therapi chwaraeon, nyrsio).
Mae’n rhaid bod holl ymgeiswyr wedi cofrestru gyda’r corff rheoleiddio iechyd perthnasol (e.e. GMC, CSP, HCPC, GOsC, GCC, HPC, BASRAT, Cydmeithas Therapyddion Chwaraeon, NMC).
Dylai fod gan ymgeiswyr hefyd o leiaf blwyddyn o brofiad clinigol wedi graddio a phrofiad gwaith o fewn maes chwaraeon a/neu feddygaeth ymarfer; dylent nodi hyn yn eu datganiad personol.
Caiff yr holl ymgeiswyr addas eu cyfweld.
Ymgeiswyr Rhyngwladol
Bydd angen i fyfyrwyr nad Saesneg yw eu hiaith gyntaf ddarparu tystiolaeth o ruglder i safon IELTS 6.5 neu gyfwerth o leiaf. I gael manylion llawn am sut i wneud cais am gymwysterau Iaith Saesneg ewch i’r tudalennau Rhyngwladol ar y wefan.
Sut i Wneud Cais:
Dylid gwneud ceisiadau am y cwrs hwn yn uniongyrchol i'r brifysgol trwy ein cyfleuster hunanwasanaeth. Am wybodaeth bellach ewch i'n tudalennau Sut i Wneud Cais: www.cardiffmet.ac.uk/howtoapply.
Os oes gennych ddiddordeb mewn defnyddio credyd o sefydliad arall, neu os ydych wedi ennill cymwysterau a/neu brofiad i astudio ar gyfer cwrs ym Met Caerdydd, gallwch ddod o hyd i ragor o wybodaeth am hyn ynghyd â gwybodaeth ar sut i wneud cais ar y dudalen Cydnabyddiaeth o Ddysgu Blaaenorol (RPL).
Gwybodaeth Ychwanegol
Ffioedd Dysgu a Chefnogaeth Ariannol: I gael y wybodaeth ddiweddaraf am ffioedd dysgu a'r gefnogaeth ariannol a allai fod ar gael. Ewch i
www.cardiffmet.ac.uk/fees.
Ffioedd rhan-amser:
Codir y taliadau fesul Modiwl Unigol oni nodir yn wahanol:
Israddedig = 10 Credyd; Ôl-raddedig = 20 Credyd
Yn gyffredinol, bydd y mwyafrif o fyfyrwyr yn cwblhau 60 credyd y flwyddyn ar gyfer astudiaethau Israddedig ac Ôl-raddedig; i gael gwir bris, cysylltwch â Chyfarwyddwr y Rhaglen yn uniongyrchol.
Cysylltu â Ni