Cardiff School of Sport and Health Sciences>Courses>Sport Performance Analysis MSc/PgD/PgC
Sports Performance Analysis Masters

Gradd Meistr Dadansoddi Perfformiad Chwaraeon - MSc/Diploma Ôl-radd  (PgD)/Tystysgrif Ôl-radd (PgC)

 

Ffeithiol Allweddol

Place of Study:
Cardiff School of Sport & Health Sciences, Cyncoed Campus

Course Length:
One to two years full-time.
Two to four years part-time.

25% Alumni Discount:
The Cardiff Metropolitan University Alumni Discount is a 25 per cent reduction in tuition fees for Cardiff Met Alumni enrolling on taught postgraduate courses.
See if you are eligible.

Course Overview

Gyda llwybrau penodol ar gyfer:

  • Cymhwysol
  • Dadansoddeg

Mae Dadansoddi Perfformiad yn Ysgol Chwaraeon a Gwyddorau Iechyd Caerdydd yn flaengar yn fyd eang o ran safbwyntiau academaidd a chymhwysol. Mae'r Ysgol wedi cynnig astudiaeth ôl-raddedig mewn dadansoddi perfformiad ers i'r radd Meistr gyntaf erioed mewn Dadansoddi Perfformiad gael ei datblygu yn 2003. Mae gan Ysgol Chwaraeon a Gwyddorau Iechyd Caerdydd Ganolfan Dadansoddi Perfformiad unigryw sy'n ymfalchïo mewn addysgu safon uchel a labordai ymarferol gyda llu o feddalwedd ac adnoddau ar gael sy'n flaengar yn fyd eang. Mae'r Ysgol wedi datblygu dau lwybr newydd wedi'u cynllunio i adlewyrchu datblygiadau diweddar o ran dadansoddi perfformiad chwaraeon..

Mae'r rhaglen yn cyfuno sgiliau academaidd, ymarferol ac ymchwil i'ch galluogi i ddatblygu yn eich maes dewisiol chi. Gall myfyrwyr ddewis arbenigo mewn llwybrau penodol mewn naill ai Dadansoddi Perfformiad Cymhwysol neu Ddadansoddeg. Mae'r llwybr Cymhwysol yn paratoi ymarferwyr medrus gydag egwyddorion gwyddonol cadarn i seilio eu gwaith a datblygu eu dealltwriaeth o'r ddamcaniaeth y tu ôl i'r dadansoddiad. Mae'r llwybr Dadansoddol yn cyfuno sgiliau gwyddor data a gwybodaeth am chwaraeon gyda damcaniaeth dadansoddi perfformiad.

Mae'r ysgol hefyd yn cynnig rhaglen MSc Ymarfer Proffesiynol (Dadansoddi Perfformiad Chwaraeon), sy'n caniatáu i'r rhai sydd â phrofiad perthnasol ymgysylltu â dysgu tra'u bod yn y gwaith neu ar ysgoloriaeth. Ewch i MSc Ymarfer Proffesiynol am ragor o fanylion.

Mynediad 2019: Oherwydd poblogrwydd y rhaglen hon dylech gyflwyno'ch cais cyn gynted â phosibl, ac ar ddiwedd y dydd ar 30ain Mehefin 2019 fan bellaf. Dim ond os nad yw'r rhaglen yn llawn y bydd ceisiadau a dderbynnir ar ôl y dyddiad hwn yn cael eu hystyried. Gallwch barhau i nodi diddordeb yn y rhaglen ar ôl y dyddiad hwn a bydd eich manylion yn cael eu hychwanegu at y rhestr aros unwaith y bydd honno wedi'i ffurfio. Cysylltwch â chyfarwyddwr y rhaglen am fwy o wybodaeth.

​Cynnwys y Cwrs​​

Mae gan y rhaglen Dadansoddi Perfformiad Chwaraeon dri modiwl craidd penodol sy'n dynodi pob llwybr astudio, modiwlau cyffredin sy'n cael eu rhannu ar draws y ddau lwybr, ac un slot modiwl dewisol.

Cymhwysol Dadansoddeg
CRAIDD CRAIDD
Cymhwyso Technolegau DadansoddiDeallusrwydd Artiffisial
Profiad Gwaith dan OruchwyliaethModelu Perfformiad Chwaraeon
Arferion Myfyriol ac EffeithiolPeirianneg Meddalwedd Mewn Chwaraeon
  
Ymchwil Cyfoes Mewn Dadansoddi Perfformiad
Dulliau Ymchwil Mewn Chwaraeon
Traethawd Hir ​
  
DEWISIOL DEWISIOL
Un modiwl o: Un modiwl o:
Modelu Perfformiad ChwaraeonProfiad Gwaith dan Oruchwyliaeth
Biomecaneg GymhwysolAstudiaeth Annibynnol
Materion cymdeithasol a Phrofiadau
Chwaraeon
 


Mae'r modiwlau hyn yn rhoi cydbwysedd o astudiaethau academaidd ac arbrofol (Labordai Ymarferol) i fyfyrwyr, sy'n canolbwyntio drwy sicrhau dadansoddiad cynhwysfawr o'r broses ymchwil.

Bydd cyfleoedd am leoliadau yn helpu tuag at achrediad gan Gymdeithas Ryngwladol Dadansoddi Perfformiad Mewn Chwaraeon (ISPAS).​

Dysgu ac Addysgu​

Cyflwynir y rhaglen Dadansoddi Perfformiad Chwaraeon yn y Labordai Dadansoddi Perfformiad a adeiladwyd yn bwrpasol, sy'n ymfalchïo mewn meddalwedd eang ar gyfer dadansoddi arsylwadol, techneg a data ar systemau gweithredu windows a mac. Mae'r rhaglen Ymarfer Proffesiynol wedi'i chynllunio ar gyfer ei hastudio yn yr amgylchedd gwaith proffesiynol, felly bydd mynediad i adnoddau dadansoddi perthnasol yn ddibynnol ar y lleoliad

Mae pob modiwl, ac eithrio'r prosiect ymchwil annibynnol (Traethawd Hir) a Lleoliad Proffesiynol (sy'n berthnasol i fyfyrwyr sydd wedi cofrestru ar MSc Ymarfer Proffesiynol yn unig) yn fodiwlau 20 credyd. Mae tua 3 awr o addysgu yr wythnos wedi’i amserlennu ar gyfer pob modiwl, ynghyd â hyd at 6 awr o amser astudio dan gyfarwyddyd a hyd at 6 awr o amser astudio annibynnol bob wythnos. Mae amser cyswllt fel arfer yn cynnwys darlithoedd, seminarau a thiwtorialau unigol. Fel arfer, caiff modiwlau eu haddysgu drwy gyfuniad o ddarlithoedd a seminar rhyngweithiol lle defnyddir trafodaethau grŵp a thasgau’n aml. Disgwylir i fyfyrwyr fynychu darlithoedd a chymryd rhan mewn tasgau astudio dan gyfarwyddyd sy'n berthnasol i bob modiwl. Cefnogir pob modiwl gan blatfform dysgu ar-lein y Brifysgol, lle bydd adnoddau dysgu a gwybodaeth atodol ar gael. Bydd pob myfyriwr yn derbyn cefnogaeth gan diwtor personol sydd fel arfer yn Gyfarwyddwr Y Rhaglen. Lle mae'n ymarferol bosibl, trefnir y rhan fwyaf o ddarlithoedd ar ddydd Llun, fodd bynnag, yn dibynnu ar ddewis modiwlau, efallai na fydd hyn yn bosibl.

Bydd myfyrwyr MSc Ymarfer Proffesiynol hefyd yn cael eu cefnogi gan fentor yn y gweithle a mentor academaidd drwy gydol y modiwl lleoliad proffesiynol.

Asesu

Mae pob modiwl, ac eithrio'r prosiect ymchwil annibynnol (Traethawd Hir) a Lleoliad Proffesiynol (sy'n berthnasol i fyfyrwyr sydd wedi cofrestru ar MSc Ymarfer Proffesiynol yn unig) yn seiliedig ar 5,000 o eiriau neu’n gyfwerth. Dyluniwyd dulliau asesu i roi cyfle i fyfyrwyr ddangos eu gwybodaeth a'u dealltwriaeth o faterion ymarfer damcaniaethol, cymhwysol a phroffesiynol yn y modd mwyaf perthnasol, a chynnwys traethodau gwaith cwrs, cyflwyniadau ymarferol, cynhyrchiad adnoddau i uchafbwynt dadansoddiad, adroddiadau ac adolygiadau beirniadol.

Gellir cyflwyno'r prosiect ymchwil annibynnol (traethawd hir) naill ai fel traethawd traddodiadol 12,000 o eiriau neu ar ffurf erthygl cyfnodolyn, a chaiff ei ategu gan arholiad llafar (viva).

Cyflogadwyedd a Gyrfaoedd

Mae llawer o raddedigion sy'n dadansoddi perfformiad o Met Caerdydd yn gweithio o fewn maes perfformiad. Oherwydd gofynion Cyrff Llywodraethu Cenedlaethol, cwmnïau teledu lloeren a daearol, clybiau pêl-droed, clybiau rygbi, Athrofa Chwaraeon Cymru, sefydliadau Seisnig (canolfannau rhanbarthol) Chwaraeon bu cynnydd yn yr ystod o gyfleoedd gyrfaol yn y maes dadansoddi perfformiad chwaraeon. Mae'r rhaglen hon yn paratoi myfyrwyr ar gyfer ystod o yrfaoedd dadansoddi yn y diwydiant chwaraeon, yn enwedig gwaith sy'n digwydd gyda'r perfformwyr gorau.

Gofynion Mynediad a Sut i Wneud Cais

Fel rheol, dylai fod gan ymgeiswyr un o'r canlynol:

  • Gradd anrhydedd (2.1 neu'n uwch) mewn maes chwaraeon neu mathemateg sy'n briodol ar gyfer y Cyfarwyddwr Rhaglen.
  • Gradd anrhydedd (2.1 neu'n uwch) mewn pwnc mewn maes arall sy’n dderbyniol gan y Cyfarwyddwr Rhaglen.
  • Profiad o astudio neu o ddarparu dadansoddiad o berfformiad.
  • Bydd ymgeiswyr sydd â phrofiad gwaith eithriadol a helaeth mewn chwaraeon, hyfforddiant neu berfformiad hefyd yn cael eu hystyried.

Ar gyfer MSc Ymarfer Proffesiynol, rhaid i ymgeiswyr hefyd naill ai fod â lleoliad gwaith proffesiynol perthnasol wedi'i drefnu neu wneud cais am swydd meddyg preswyl â chymorth.

Ymgeiswyr Rhyngwladol
Bydd angen i fyfyrwyr nad Saesneg yw eu hiaith gyntaf ddarparu tystiolaeth o ruglder i safon IELTS 6.5 neu gyfwerth o leiaf. I gael manylion llawn am sut i wneud cais am gymwysterau Iaith Saesneg ewch i’r tudalennau Rhyngwladol ar y wefan.

Y Broses Ddethol:
Fel arfer, dewisir myfyrwyr ar sail eu cais ffurfiol, CV a chyfweliad. Fel rheol, gwahoddir ymgeiswyr i gael sgwrs anffurfiol (skype neu ffôn) gyda Chyfarwyddwr y Rhaglen cyn y gwneir unrhyw gynnig.

Sut i Wneud Cais:
Dylid gwneud ceisiadau am y cwrs hwn yn uniongyrchol i'r brifysgol trwy ein cyfleuster hunanwasanaeth. Am ragor o wybodaeth bellach ewch i'n tudalennau Sut i Wneud Cais ar www.cardiffmet.ac.uk/howtoapply.

Os oes gennych ddiddordeb mewn defnyddio credyd o sefydliad arall, neu os ydych wedi ennill cymwysterau a/neu brofiad i astudio ar gyfer cwrs ym Met Caerdydd, gallwch ddod o hyd i ragor o wybodaeth am hyn ynghyd â gwybodaeth ar sut i wneud cais ar y dudalen Cydnabyddiaeth o Ddysgu Blaaenorol (RPL).

Gwybodaeth Ychwanegol

Ffioedd Dysgu a Chefnogaeth Ariannol:
I gael y wybodaeth ddiweddaraf am ffioedd dysgu a'r gefnogaeth ariannol a allai fod ar gael. Ewch i www.cardiffmet.ac.uk/fees .

Ffioedd rhan-amser:
Codir y taliadau fesul Modiwl Unigol oni nodir yn wahanol:
Israddedig = 10 Credyd; Ôl-raddedig = 20 Credyd

Yn gyffredinol, bydd y mwyafrif o fyfyrwyr yn cwblhau 60 credyd y flwyddyn ar gyfer astudiaethau Israddedig ac Ôl-raddedig; i gael gwir bris, cysylltwch â Chyfarwyddwr y Rhaglen yn uniongyrchol.

Cysylltu â Ni

Ar gyfer ymholiadau cyffredinol, cysylltwch â'r Tîm Derbyn ar 029 2041 6044 neu e-bostiwch askadmissions@cardiffmet.ac.uk.

Ar gyfer ymholiadau cwrs-benodol, cysylltwch ag arweinydd y rhaglen, Dr Peter O'Donoghue:

E-bost: PODonoghue@cardiffmet.ac.uk
Tel
Ffôn: 029 2041 7255

​​


Gellir dod o hyd i’r telerau ac amodau llawn sy’n ymwneud â derbyn cynnig i astudio ym Mhrifysgol Metropolitan Caerdydd trwy ymweld â www.cardiffmet.ac.uk/terms