Eisiau gweithio yn y Diwydiant Darlledu Chwaraeon? Yna dyma'r cwrs i chi.
Gradd meistr gyda ffocws ymarferol, wedi'i ddylunio a'i ddarparu gan weithwyr
proffesiynol y diwydiant darlledu chwaraeon i greu ymarferwyr Darlledu Chwaraeon a'u
paratoi i fod yn barod ar gyfer y diwydiant ac i gael eu cyflogi mewn newyddiaduraeth
darlledu chwaraeon ac ar draws y diwydiant cyfryngau chwaraeon. Ysgrifennwyd y cwrs
gradd meistr mewn cydweithrediad â newyddiadurwyr darlledu chwaraeon o'r BBC, ITV,
Sky Sports a'r Cyngor Hyfforddi Newyddiaduraeth Ddarlledu a fydd yn cynnal eu
hymweldiad achredu olaf yn2019. Rydym yn dysgu newyddiaduraeth ddarlledu
draddodiadol ar gyfer oes y cyfryngau digidol, newydd.
Bydd myfyrwyr yn datblygu ac yn meistroli sbectrwm eang o sgiliau cynhyrchu
newyddiaduraeth ddarlledu, yn dysgu hunan-saethu a golygu, recordio a chynhyrchu sain,
creu cynnwys digidol wrth hogi eu greddf newyddiadurol, eu gwerthoedd newyddion a'u
barn olygyddol. Byddant yn archwilio'n feirniadol y berthynas ddwyochrog rhwng materion
cymdeithasol-wleidyddol, sylw modern yn y cyfryngau a chwaraeon proffesiynol. Bydd
myfyrwyr hefyd yn astudio elfennau o gyfraith y cyfryngau, ac yn dadansoddi sut mae
moeseg, ymdeimlad o degwch, didueddrwydd, cywirdeb a gwybodaeth gadarn o reoliadau
a hawliau yn chwarae rhan hanfodol wrth weithredu o fewn y dirwedd ddarlledu sy'n newid
yn gyflym.
v
Mae ein siaradwyr gwadd wedi cynnwys sawl cyflwynydd arobryn, gohebwyr,
newyddiadurwyr, cynhyrchwyr, cyfarwyddwyr, gweithredwyr camerâu, golygyddion ac
arbenigwyr goleuo: Eddie Butler (sylwebydd y BBC), Frances Donovan (cyflwynydd teledu
yr Uwch Gynghrair), Ross Harries a Sean Holley (o BBC ScrumV) Carolyn Hitt (Wales
Online a BBC), Dylan Ebenezer (cyflwynydd S4C / Sgorio), Nick Hartley (gohebydd ITV /
ITN) ac Alan Wilkins (cyflwynydd ESPN ac Eurosport).
* Cysylltwch â Chyfarwyddwr y Rhaglen, Joe Towns, i gael mwy o wybodaeth ac i drafod manylion Interniaeth:
E-bost: JTowns@cardiffmet.ac.uk
Ffôn: +44 (0)29 2041 6553
Oherwydd poblogrwydd y rhaglenni chwaraeon ôl-raddedig, gwnewch yn siŵr eich bod yn cyflwyno'ch cais mor gynnar â phosibl o fewn y flwyddyn. Bydd rhaglenni yn cau dros haf 2019 pan gyrhaeddir y capasiti llawn. Cysylltwch â chyfarwyddwr y rhaglen i gael mwy o wybodaeth.