Labordy Ymchwil Ffisioleg
Mae'r labordai yn cefnogi ystod eang o weithgarwch ymchwil staff a myfyrwyr. Mae
myfyrwyr israddedig y flwyddyn olaf yn cael cyfle i ennill profiad gyda chyfarpar ffisioleg
ymarfer corff datblygedig yn ystod prosiectau traethawd hir ymchwil annibynnol. Mae
cyfleoedd hefyd i ôl-raddedigion a staff gymryd rhan mewn prosiectau ymchwil parhaus.
Mae ein hoffer mwyaf arbenigol wedi'i leoli yn y labordy ymchwil i'w ddefnyddio gan
fyfyrwyr doethurol ac aelodau staff. Mae'r labordy hwn yn cynnwys offer datblygedig ac
arbenigol ar gyfer asesu'r ymatebion cardiofasgwlaidd a'r addasiadau sy'n gysylltiedig â
gwahanol fathau o ymarfer corff, mewn amryw o wahanol boblogaethau. Mae peiriannau
uwchsain 2D a 3D ar gael ar gyfer asesu anymwthiol o adeiledd a swyddogaeth cardiaidd,
rhedwelïol a thrawsgreuanol. Mae tabl straen cardiaidd a gynlluniwyd yn bwrpasol yn
caniatáu i ymchwilwyr ddefnyddio'r technegau hyn yn ystod ymarfer corff. Mae yna hefyd
offer arbenigol i fesur stiffrwydd rhedwelïol, gweithgaredd nerfol cyhyrau, cyfaint y gwaed
a churiad pwysedd gwaed curiad-wrth-guriad. Mae'r ystod eang hon o gyfarpar ac
arbenigedd yn caniatáu cynnal ystod o ymchwil o ansawdd uchel ac addysgu wedi’i
arwain gan ymchwil.