Yng nghampws Cyncoed, mae yna chwe labordy ffisioleg ymarfer corff sy'n cynnwys
ystod eang o offer arbenigol wedi'u cynllunio ar gyfer asesu ffisioleg mewn chwaraeon,
ymarfer corff ac iechyd. Mae'r cyfleusterau hyn yn cefnogi datblygiad arbenigedd drwy
addysgu a dysgu, yn ogystal ag amgylchedd ymchwil ffyniannus i staff ac i ôl-
raddedigion.
Dysgu ac Addysgu
Mae sesiynau ymarferol wedi'u cynllunio i gefnogi dealltwriaeth o'r cysyniadau
damcaniaethol sy'n sylfaenol i ffisioleg ymarfer corff a pherfformiad dynol. Mae gan y
labordai addysgu amrywiaeth helaeth o offer arbenigol gyda’r bwriad o ddarparu sail i
gysyniadau damcaniaethol a datblygu sgiliau galwedigaethol ymarferol.
Mae gennym amrywiaeth o ergomedrau sy'n benodol ar gyfer chwaraeon gan gynnwys
rhedeg, rhwyfo, beicio ac ergomedredd braich. Mae gennym felin draed fodurol
gonfensiynol yn ogystal ag ergomedr melin draed heb fodur a ddatblygwyd yn arbennig,
sy'n werthfawr ar gyfer asesu perfformiad gwibio. Mae gennym hefyd offer uwchsain o'r
radd flaenaf ar gyfer asesu ffisioleg gardiaidd a fasgwlaidd yn ystod seibiau ac yn ystod
ymarfer corff. Mae'r offer hwn yn cael ei ategu gan blethysmograffeg curiad-wrth-guriad ar
gyfer monitro pwysedd gwaed. peiriannau ECG ar gyfer asesu electroffisioleg ac
uwchsain creuanol mewnol ac allanol ar gyfer asesu llif gwaed yr ymennydd.
Defnyddir amrywiaeth eang o gyfarpar i addysgu cysyniadau penodol mewn ffisioleg gan
gynnwys dadansoddwyr nwy anadlol anadl-wrth-anadl i asesu uchafswm mewnlifiad
ocsigen, mesurydd plyg y croen a rhwystriant biodrydanol ar gyfer mesur cyfansoddiad y
corff, gatiau amseru a llwyfannau grym ar gyfer asesu cyflymder a phŵer a generaduron
hyocsig i efelychu ymarfer corff ar uchder. Mae gennym labordy biocemeg hefyd lle y
gallwn ni asesu proffiliau lactad gwaed, glwcos a lipidau, a dadansoddwyr nwy gwaed
rhedwelïol a ddefnyddir wrth asesu cyfanswm cyfaint y gwaed a màs haemoglobin.