Mae'r cyfleuster Dadansoddi Perfformiad sy'n flaengar drwy’r byd yn cynnwys 3 labordy
cyfrifiadurol sydd â chasgliad o feddalwedd dadansoddi PC a Mac a meddalwedd GPS
sydd ar gael yn fasnachol, ynghyd ag offer golygu fideo pwerus. Mae gan gampws
Cyncoed hefyd rwydwaith camerâu IP awyr agored i hwyluso prosesau gwneud fideo
pwerus. Defnyddir dau o'r labordai fel man addysgu yn bennaf, ond maent ar gael ddydd a
nos i fyfyrwyr a staff wneud ymchwil/traethodau academaidd. Mae'r trydydd labordy yn
cael ei ddefnyddio'n bennaf ar gyfer dysgu yn seiliedig ar waith gan gynnwys y
gwasanaeth dadansoddi a ddarperir i dimau chwaraeon Met Caerdydd.