Mae tystiolaeth ddiweddar yn awgrymu nad yw
technolegau digidol bob amser yn cael eu dylunio’n effeithiol ar gyfer addysgu,
dysgu ac ymholi creadigol mewn amgylcheddau addysg uwch. Mae’r Athro Gary
Beauchamp, Dr Cheryl Ellis, Nick Young a chynorthwyydd ymchwil prosiect a
myfyriwr PhD Sammy Chapman wrthi’n arwain prosiect SHOUT4HE sy’n cael ei
ariannu dan Erasmus+, gan ddylunio adnoddau addysgol agored ar addysgu’n
effeithiol gyda thechnoleg ar draws ystod eang o ddisgyblaethau yn y maes. Cred
y tîm mai’r ffordd orau o ymdrin â sgiliau addysgu AU yw trwy gydweithredu a
chydweithio rhyngwladol rhwng Sefydliadau Addysg Uwch er mwyn datblygu arfer
gorau ac arloesi. Mae gan y prosiect bum prifysgol yn bartneriaid mewn pedair
gwlad: Prifysgol Limerick (Iwerddon), Prifysgol Nice a Phrifysgol Bordeaux (Ffrainc),
a Gwlad Belg (PXL Prifysgol Gwyddorau Cymhwysol a Chelfyddydau).
Tri phrif nod sydd i brosiect SHOUT4HE. Yn
gyntaf, mae pob un o bartneriaid y prosiect ar draws y pum prifysgol yn
gweithio gydag athrawon AU lleol â gwybodaeth ddisgyblaethol amrywiol i ddeall
a rhannu sut maent yn defnyddio technolegau addysgu mewn ffyrdd arloesol. Nesaf,
bydd y tîm yn defnyddio’r wybodaeth hon i ddylunio e-blatfform ar gyfer rhannu
arferion ac adnoddau addysg agored. Yn olaf, bydd y tîm yn creu set o e-Adnoddau
ar gyfer athrawon AU. Bydd e-Adnoddau sy’n cael eu cynhyrchu gan y prosiect hwn
ar gael ac yn cael eu lledaenu’n eang er mwyn cael effaith hirdymor ar athrawon
AU unigol, yn ogystal ag ar addysgu mewn prifysgolion a rhaglenni datblygiad
proffesiynol yn fwy cyffredinol.
Ymhlith y canlyniadau a ddisgwylir o’r prosiect
hwn mae o leiaf 40 fideo ymarfer newydd sy’n defnyddio technoleg mewn addysg
uwch o fewn y sefydliadau partner, i’w rhannu ar yr e-blatfform. Yn ogystal, mae’r
tîm wrthi’n dylunio ac yn cynhyrchu tri e-lyfr sy’n trafod: arferion arloesol
gorau, cyngor i athrawon AU, a thechnegau creu cymunedau ymarfer.
Gallwch chi ddysgu mwy am brosiect SHOUT4HE yma.