Ymchwil>Academïau Byd-eang>Materials Library

Y Llyfrgell Deunyddiau

Mae Prifysgol Metropolitan Caerdydd yn gartref i FAB-Cre8 - grŵp ymchwil ac arloesi amlddisgyblaeth wedi ei leoli yn Ysgol Celf a Dylunio Caerdydd. Mae FAB-Cre8 yn cael ei hybu gan ddiddordeb mewn technolegau sy’n dod i’r amlwg ac yn dod ag academyddion ynghyd o bob rhan o’r brifysgol sy’n ymwneud ag ystod o brosiectau ymchwil. Maent yn gweithio gyda phrosesau saernïo digidol, cyfrifiaduro ffisegol, y ‘Rhyngrwyd Pethau’ a chymhwyso ymchwilio i ddeunyddiau i ystod eang o gyd-destunau celf a dylunio.

Ym Mehefin 2017 lansiodd grŵp FAB-Cre8 brosiect ‘Y Llyfrgell Deunyddiau’ - adnodd rhyngweithiol adnabod amledd radio (RFID) sy’n gartref i gannoedd o samplau deunydd. Mae’r Llyfrgell Deunyddiau yn osodiad parhaol i fyfyrwyr ac ymchwilwyr ym Mhrifysgol Metropolitan Caerdydd a bydd yn parhau i ehangu. Mae’r llyfrgell hon yn caniatáu i ddefnyddwyr gyrchu cynnwys digidol mewn perthynas â deunyddiau sy’n cael eu cadw o fewn cyfres o diwbiau profi. Mae’r defnyddiwr yn gosod y tiwb profi yn y darllennydd sy’n actifadu ffilm o’r deunydd yn cael ei ddefnyddio. Mae’r ffilmiau hyn sy’n seiliedig ar brosesau yn datgelu potensial deunyddiau i wneuthurwyr, dylunwyr a myfyrwyr mewn fformat hawdd ei ddefnyddio.

Gallwch chi ddarllen mwy am grŵp FAB-Cre8 a’r Llyfrgell Deunyddiau yma