| Mewn ymateb i bandemig y
coronafeirws COVID-19, canfu cydweithwyr yng Nghanolfan Diwydiant Bwyd
ZERO2FIVE ym Mhrifysgol Metropolitan Caerdydd ffyrdd newydd i gael defnyddio’u harbenigedd
technegol a masnachol i gefnogi cynhyrchwyr bwyd a diod Cymru. Roedd cwmnïau o
bob maint yn wynebu straen heb ei debyg ar eu cadwyni cyflenwi bwyd yn ystod y
pandemig, ac roedd mwy o alw am gynnyrch eu ffatrïoedd,
a straen ar eu gweithlu a’u gweithdrefnau. Datblygodd y Ganolfan
Diwydiant Bwyd ar y cyd â phartneriaid Arloesi Bwyd Cymru ac Is-adran Fwyd
Llywodraeth Cymru, linellau cymorth yn y tair canolfan fwyd yn Ne Cymru, Gogledd
Cymru a’r Canolbarth i gysylltu diwydiant gydag
arbenigwyr a oedd yn gallu ateb ymholiadau penodol sy’n ymwneud â diogelwch
bwyd, materion technegol, parhad y gadwyn gyflenwi, a chanllawiau newydd y
llywodraeth ar iechyd. |
Yn ogystal â’r gwasanaeth
llinell gymorth, fe lansiodd Arloesi Bwyd Cymru, mewn partneriaeth â Chanolfan
Diwydiant Bwyd Prifysgol Metropolitan Caerdydd a Bwrdd Diwydiant Bwyd a Diod
Cymru, becyn cymorth o adnoddau ar gyfer gwneuthurwyr bwyd a diod Cymru, gan
gynnwys dolenni a thempledi defnyddiol. Roedd dros 20 templed ar gael, ac maen
nhw’n dal i fod ar gael, i gwmnïau gael eu defnyddio i fonitro gweithgareddau
eu busnes, gan gynnwys rhestri gwirio arsylwi, holiaduron dychwelyd i’r gwaith,
canllawiau newid defnydd, cynllunio wrth gefn, a phrotocolau cau/ail-agor
ffatrïoedd. |
|
Gallwch ddysgu mwy am y
llinellau cymorth a/neu gysylltu ag Arloesi Bwyd Cymru i gael cymorth yma: https://www.cardiffmet.ac.uk/health/zero2five/news/Pages/Food-Innovation-Wales-Helpline.aspx .
Gallwch ddysgu mwy am y pecyn
cymorth a chyrchu templedi a dolenni defnyddiol yma:
https://www.cardiffmet.ac.uk/health/zero2five/news/Pages/COVID-19-Tool-kit-launched-to-support-Welsh-food-and-drink-manufacturers.aspx.
I gael rhagor o wybodaeth,
cysylltwch â’r Athro David Lloyd, Cyfarwyddwr y Ganolfan Diwydiant Bwyd, dclloyd@cardiffmet.ac.uk