Grŵp amlddisgyblaeth o ymchwilwyr yw tîm CARIAD
(Y Ganolfan dros Ymchwil Gymhwysol mewn Celf a Dylunio Cynhwysol) o’r holl ysgolion
ym Mhrifysgol Metropolitan Caerdydd sy’n ymchwilio i ddyluniad cynhyrchion a
gwasanaethau i bobl sy’n byw gyda dementia datblygedig. Mae eu hymchwil wedi
dylanwadu ar arferion gofal, meithrin ymwybyddiaeth o ddementia, cynnig
canllawiau i’r diwydiant dylunio ac ysgogi busnes yn y Deyrnas Unedig ac yn
fyd-eang.
Yn 2015, datblygodd yr Athro Cathy Treadaway, aelod o dîm CARIAD
brosiect LAUGH (Ludic Artefacts Using Gesture and Haptics) a ariannwyd gan
Gyngor Ymchwil y Celfyddydau a’r Dyniaethau (AHRC) i gefnogi llesiant pobl â
dementia datblygedig drwy wrthrychau chwareus a thecstilau. Roedd prosiect
LAUGH yn cynnwys tîm rhyngwladol o ymchwilwyr, gan gynnwys Dr Gail Kenning o
Brifysgol Technoleg Sydney (UTS) yn Sydney, Awstralia, arbenigwr mewn crefft,
heneiddio a dementia. Gwnaeth y prosiect hwn ddatblygu a phrofi tua 10 dyluniad
prototeip am wrthrychau chwareus wedi eu personoleiddio i bobl sy’n byw gyda
dementia.
Un o ganfyddiadau allweddol prosiect LAUGH oedd
bod y profiad ‘yn yr eiliad’, sy’n chwareus ac yn sbarduno’r synhwyrau, yn
fuddiol i bobl sy’n byw gyda dementia. Dablygodd tîm LAUGH wrthrych arbennig o
lwyddiannus, ‘The HUG’— gwrthrych gwisgadwy meddal tebyg i glustod, â breichiau
hir, sy’n cynnwys calon sy’n curo ac sy’n chwarae cerddoriaeth. Gwelwyd bod yr
HUG yn cael effaith sylweddol iawn ar lesiant yr unigolyn y cafodd ei wneud
amdano—gan weddnewid ac estyn bywydau oedolion sy’n byw gyda dementia. Yn
Nhachwedd 2018, cafodd yr HUG ei ddethol gan Ddiwydiant Gofal y DU fel un o
bedwar terfynnydd y DU a enwebwyd gan y sector gofal am Gynnyrch Dementia Eithriadol
y Flwyddyn. Ym mis Hydref 2019, cafodd ffilm ei gwneud gan y BBC am yr
astudiaeth hon, gan gynnwys cyfweliad cynhwysfawr â rhywun sy’n byw gyda
dementia a’i merch (gwyliwch y ffilm yma). Denodd y ffilm
hon sylw aruthrol o du’r cyhoedd, cartrefi gofal, byrddau iechyd ysbytai a
busnesau.
Mae adweithiau’r cyhoedd i’r HUG wedi bod mor
gadarnhaol bod y prosiect ymchwil wedi dod yn fenter gymdeithasol. Mae HUG by
LAUGH™ yn fusnes sydd wedi deillio o hynny sydd wedi ei sefydlu i
fasnacheiddio’r ymchwil hon. Mae’r fenter fusnes yma’n cael ei chefnogi gan Raglen
Sbarduno Alzheimer’s Society a Phrifysgol Metropolitan Caerdydd ac wedi arwain
at greu tair swydd newydd. Mae brandiau HUG® a HUG by LAUGH™ wedi derbyn Nod
Masnach Cofrestredig y DU. Gallwch chi weld mwy am brosiect Dylunio ar gyfer
Dementia a’r HUG yma.