Mae ein Hacademïau Byd-eang yn creu ac adeiladu ar ein llwyddiannau, gan ddwyn ein harbenigedd ymchwil ynghyd i ddatblygu dulliau rhyngddisgyblaethol, rhyngwladol ac effeithiol i rai o’r heriau mwyaf hirsefydlog sy’n effeithio arnom yn lleol, yn genedlaethol ac yn rhyngwladol. Trwy ddwyn ein cryfderau ym meysydd addysg, ymchwil ac arloesi ynghyd, ein nod yw helpu i wella’r byd o’n cwmpas mewn modd cydweithredol a thosturiol.