Ymchwil>Academïau Byd-eang>Ein Hymateb i Bandemig y Coronafeirws

Ein Hymateb i Bandemig y Coronafeirws

Drwy ein Academïau Byd-eang, mae’r staff, y myfyrwyr a’r rhanddeiliaid wedi uno i fynd i’r afael â phandemig y coronafeirws a’i effeithiau.

Ymhlith y cymorth a dderbyniwyd yn syth roedd rhoi ein Cyfarpar Gwarchod Personol i’r bwrdd iechyd lleol, rhoi benthyg ein peiriannau platfform cyflym Thermo Fisher 7500 ABI i gefnogi datblygiad cyfleuster profi torfol newydd ar gyfer Covid-19 ym Milton Keynes a gweithio gyda Gwasanaeth Gwaed Cymru i sefydlu canolfan rhoddi gwaed dros dro ar ein campws yn Llandaf yn dilyn gostyngiad 20% yn ein rhoddwyr a’r angen i bellhau’r gwasanaethau hyn o’r ysbytai sy’n ymateb i gleifion Covid-19.

Bydd ein hymchwil ac arloesedd tymor hwy yn amrywio o fonitro effaith y pandemig ar gymdeithas hyd at gynnig cymorth arbenigol i’r diwydiant bwyd a datblygu rhaglen ymchwil ar gynhyrchedd i gael cefnogi cwmnïau Cymru i adfer ar ôl Covid.  

Bydd ein hastudiaethau achos yn rhoi mewnwelediad i chi i rai o’r ffyrdd y bydd Academïau Byd-eang Met Caerdydd yn cyfrannu.