Llawlyfr Academaidd

Mae Llawlyfr Academaidd Prifysgol Metropolitan Caerdydd wedi’i rannu’n ddwy adran: 

Gweinyddir Cyfrol Un, sy’n cynnwys rheoliadau a gweithdrefnau academaidd y Brifysgol, gan Wasanaethau’r Gofrestrfa.
Gweinyddir Cyfrol Dau, sy’n cynnwys gweithdrefnau a chanllawiau ansawdd y Brifysgol, gan y Gyfarwyddiaeth Gwella Ansawdd. 

Datblygwyd rheoliadau, polisïau a gweithdrefnau academaidd Met Caerdydd i hyrwyddo dull cyson at gyflwyno ac asesu academaidd, a thriniaeth deg i fyfyrwyr y Brifysgol. Fel rhan o’r broses Gofrestru, mae myfyrwyr yn derbyn Telerau ac Amodau’r Brifysgol sy’n cynnwys y rheoliadau a’r gweithdrefnau o fewn y Llawlyfr Academaidd.

Mae’r dogfennau o fewn y Llawlyfr Academaidd yn cael eu cynnal a’u cadw yn unol â fframweithiau arfer gorau’r sector ac maen nhw’n cael eu hadolygu a’u diweddaru’n rheolaidd lle bo angen. Fel arfer, dim ond at ddibenion egluro y byddai unrhyw newidiadau’n cael eu gwneud i Gyfrol Un y Llawlyfr Academaidd yn ystod y flwyddyn academaidd. Mae rhestr gyfoes o newidiadau yn ystod y flwyddyn wedi’i chyhoeddi isod. 

Os oes gennych unrhyw ymholiadau’n ymwneud â’r Llawlyfr Academaidd, cysylltwch â Gwasanaethau’r Gofrestrfa at regulations@cardiffmet.ac.uk

Sylwerwch:
Rydym yn cadw fformat a strwythur y Llawlyfr Academaidd o dan arolwg ac mae rhai dogfennau eisoes wedi cael eu tynnu er mwyn symleiddio’r cynnwys ac osgoi dyblygu. Hyd yn hyn, rydym wedi ymatal rhag ail-rifo adrannau er mwyn cynnal dolenni URL a allai fod wedi’u cadw’n lleol, a dyna pam mae rhifo rhai dogfennau’n ymddangos yn annilynol. 

Mae gwaith cyfieithu rhai rhannu o’r llawlyfr i’r Gymraeg yn mynd rhagddo, fodd bynnag, rydym yn hapus i drafod unrhyw agwedd arno yn Gymraeg; mae croeso i chi anfon e-bost at regulations@cardiffmet.ac.uk i gael gafael ar unrhyw ddogfen benodol sydd ei hangen arnoch yn Gymraeg neu i gael unrhyw eglurhad arall. 
​​