Volume 1: Regulations and Procedures
Section 5: Mitigating Circumstances
Amgylchiadau Lliniarol - Mawrth 2020
Rydym wedi diweddaru ein polisi Amgylchiadau Lliniarol i ymateb yn uniongyrchol i sefyllfa Covid-19, gan ddarparu eglurder o'r hyn sy'n ofynnol mewn salwch, hunan ynysu neu gwarantin, mewn amgylchiadau lle bydd angen i fyfyrwyr ofalu am anwyliaid, neu fod eu gallu i gyflwyno eu gwaith yn ddigidol yn dod yn broblem yn yr amgylchiad hwn.
Os yw unrhyw fyfyriwr yn poeni na fydd yn gallu cyflwyno asesiadau ar-lein, gallant wneud cais am Amgylchiadau Lliniarol am y rhesymau a ganlyn:
1. Methu cyrchu offer TG priodol o’r cartref
2. Lle annigonol neu anaddas i astudio gartref
3. Mynediad annigonol i'r rhyngrwyd
Os yw myfyrwyr yn teimlo eu bod yn ffitio i mewn i unrhyw un o'r categorïau hyn, mae’n rhaid iddynt hysbysu eu Tîm Rhaglen erbyn 17.00 ddydd Gwener 27 Mawrth 2020. Yna fe'u cynghorir cyn dechrau'r cyfnod asesu a fyddant yn:
a) Gallu cymryd yr asesiad yn ddiweddarach pan fydd gliniadur ar gael NEU
b) Cael cynnig math arall o asesiad.
Dylid cyflwyno pob hawliad Amgylchiadau Lliniarol ar-lein, trwy'r ddolen ar y Porth Myfyrwyr. Os oes gennych broblemau wrth gyrchu'r system hawlio Amgylchiadau Lliniarol, neu i gael mwy o arweiniad ar ba dystiolaeth fydd ei hangen i gefnogi hawliad, cysylltwch â'ch tîm gweinyddol ysgol.
Sicrhewch fod Prifysgol Metropolitan Caerdydd wedi ymrwymo i gefnogi dysgu, addysgu ac asesu pob myfyriwr yn deg ac na fydd unrhyw fyfyriwr dan anfantais o ganlyniad i'r sefyllfa bresennol.