Hafan>Perfformiad Chwaraeon>Perfformiad Chwaraeon ym Met Caerdydd

Perfformiad Chwaraeon ym Met Caerdydd

Mae chwaraeon yn rhan o’n DNA ym Met Caerdydd, ac rydym, trwy gydol ein hanes, wedi cefnogi a datblygu amrywiaeth eang o athletwyr ar lefel Olympaidd a Rhyngwladol.

Rydym yn ymfalchïo yn ein traddodiad o lwyddiant ar draws chwaraeon Cymru a Phrydain ac yn parhau i ddatblygu ein rhaglen ar drywydd cyson rhagoriaeth. Wrth ddewis astudio ym Met Caerdydd, byddwch yn cerdded yn yr ôl traed hyn ac yn manteisio ar raglen Perfformiad Chwaraeon sydd wedi’i chynllunio i greu’r amgylchedd gorau posib i chi gyrraedd eich potensial academaidd a chwaraeon.


Alex Dombrandt
Alex Dombrandt. Cyn-aelod o Glwb Pêl-droed Met Caerdydd. Clwb Rygbi’r Harlequins a Rygbi Lloegr.


Ein cenhadaeth yw datblygu’n barhaus a chynnal amgylchedd o berfformiad uchel sy’n creu myfyrwyr da, athletwyr da a phobl dda. Rydym yn canolbwyntio’n ddiwyro ar ganlyn rhagoriaeth ym mhopeth a wnawn a datblygu athletwyr-fyfyrwyr hyderus, llwyddiannus ac emosiynol ddeallus.

Ben O’Connell, Cyfarwyddwr Chwaraeon

Mae ein staff academaidd a Perfformiad Chwaraeon sydd â phrofiad personol o gystadlu ar y llwyfan rhyngwladol a chwblhau ymchwil o safon fyd-eang, yn creu amgylchedd o ragoriaeth chwaraeon sy’n wirioneddol unigryw. Mae ein model integredig yn golygu y gallwch fod yn sicr bod ein rhaglenni’n seiliedig ar y diweddaraf ym maes hyfforddi a bod ein gwasanaethau cymorth i gyd wedi’u cynllunio i’ch datblygu chi fel athletwr. Ynghyd â’n partneriaethau allweddol ag amrywiaeth o Gyrff Llywodraethu Cenedlaethol, mae ein rhaglenni’n gweithio ochr yn ochr â llwybrau talent cydnabyddedig.

Mae ein timau ac athletwyr unigol yn cystadlu ar lefel uchaf cystadlaethau BUCS (Chwaraeon Prifysgolion a Cholegau Prydain) ar draws y DU. Rydym hefyd yn parhau i fod yn un o ddim ond ambell i brifysgol sy’n cefnogi cystadlu ar lefel elît mewn casgliad o gynghreiriau proffesiynol a lled-broffesiynol. Gan gynnwys timau pêl-droed y Dynion a’r Merched yn Uwch Gynghreiriau Cymru, Rygbi’r Dynion yn y Bencampwriaeth Genedlaethol, Pêl-fasged y Merched yn y WBBL a Hoci’r Dynion yng Nghynghrair Cenedlaethol Lloegr.