Datganiad | 10 Tachwedd, 2020
Ym Mhrifysgol Metropolitan Caerdydd rydym yn falch o fod yn brifysgol sy'n cael ei hysgogi gan werthoedd ac yn blaenoriaethu lles ein myfyrwyr, staff a’r gymuned. Wrth i ni barhau i frwydro yn erbyn y pandemig byd-eang mae'n bwysicach nag erioed ein bod yn cymhwyso ein gwerthoedd moesegol i bob penderfyniad a wnawn.
Mae cyhoeddiad y Gweinidog Addysg heddiw y bydd arholiadau Safon Uwch, lefel UG a TGAU yn cael eu disodli gan raddau yn seiliedig ar asesiadau yr ystafell ddosbarth, yn rhoi eglurder mawr ei angen i fyfyrwyr a’r sector.
Rydym yn croesawu’r penderfyniad cynnar hwn, a fydd yn rhoi amser i fyfyrwyr gynyddu eu cyfleoedd dysgu i’r eithaf a phrifysgolion i addasu ein prosesau derbyn i sicrhau nad oes unrhyw fyfyrwyr dan anfantais.
Ar ddechrau’r pandemig fe wnaethom greu cyfres o benderfyniadau ac ymrwymiadau i’n hymgeiswyr i helpu i roi cymaint o sicrwydd ag y gallem yn ystod cyfnod o ansicrwydd yma a gwyddom y bydd teuluoedd ledled y DU sydd eisoes wedi treulio oriau lawer yn ymchwilio a phwyso a mesur opsiynau ar gyfer prifysgol cyn penderfynu ar yr opsiwn gorau ar eu cyfer.
Rydym am roi sicrwydd pellach na fydd unrhyw fyfyriwr dan anfantais o ganlyniad i'r cyhoeddiad heddiw a bydd ein tîm Cyswllt Ysgolion a Cholegau yn parhau i ddarparu cefnogaeth angenrheidiol i ddarpar fyfyrwyr wrth iddynt gwblhau eu ceisiadau UCAS.
Mae ein Diwrnod Agored Rhithwir nesaf ddydd Sadwrn 21 Tachwedd yn cynnig cyfle i ddarpar fyfyrwyr sgwrsio â myfyrwyr cyfredol ac arweinwyr rhaglenni, yn ogystal â phrofi ein rhith-deithiau. Bydd ein tîm Derbyniadau hefyd wrth law i ateb unrhyw gwestiynau am y broses dderbyn ac maent bob amser ar gael ar e-bost askadmissions@cardiffmet.ac.uk.
Rydym am gynnig cymaint o gefnogaeth ag y gallwn i fyfyrwyr i sicrhau bod ganddynt y wybodaeth gywir i wneud penderfyniadau gwybodus am eu dyfodol.