Hafan>Newyddion>Anrhydeddu Uwch Ddarlithydd Ysgol Addysg a Pholisi Cymdeithasol Caerdydd â Chymrodoriaeth Addysgu

Anrhydeddu Uwch Ddarlithydd Ysgol Addysg a Pholisi Cymdeithasol Caerdydd â Chymrodoriaeth Addysgu

​Newyddion| 05 Awst 2021

Chantelle ymhlith coed Ysgol y Goedwig

Mae Chantelle Haughton, Uwch Ddarlithydd Prifysgol Metropolitan Caerdydd, wedi cael ei chydnabod ag un o wobrau mwyaf mawreddog Addysg Uwch.

Gwobrwyir Cymrodoriaethau Addysgu Cenedlaethol AU Ymlaen i weithwyr proffesiynol y sector bob blwyddyn, i gydnabod a dathlu effaith eithriadol ar ganlyniadau myfyrwyr a'r proffesiwn addysgu mewn addysg uwch.

Eleni, mae 55 Cymrodoriaeth Addysgu Cenedlaethol newydd wedi eu gwobrwyo, mewn proses hynod gystadleuol lle mae gofyn i enwebeion ddangos tystiolaeth o ragoriaeth unigol, codi proffil rhagoriaeth, a datblygu rhagoriaeth mewn addysgu a dysgu.

Cafodd Chantelle argraff ar y panel, wedi cychwyn mewn Addysg Uwch yn dilyn gyrfa mewn newyddiaduraeth leol a chyfnod yn byw yng Nghanada a Jamaica, gan ddychwelyd i Gymru â chasgliad cyfunol o brofiadau i dynnu arnynt.

Yn cael ei hysbrydoli gan y byd naturiol a'r gymuned ehangach, mae Chantelle yn rym gyrru sy'n gefn i'r Ysgol Goedwig a chyd-sylfaenydd y Ganolfan Ddysgu Awyr Agored, gan gysylltu damcaniaethau ag ymarfer i ddod â dysgu ac addysgu'n fyw mewn partneriaeth â myfyrwyr. Gallwch ddod o hyd iddi fel arfer yng nghoetir hynafol y brifysgol, yn dod ag addysg yn fyw gyda myfyrwyr gradd o bob rhan o'r brifysgol a phobl ifanc o bob rhan o'r ddinas.

Yn Gadeirydd Pwyllgor Rheoli 365 Hanes Pobl Dduon Cymru, Dirprwy Gadeirydd BAME Ed Network Wales, Dirprwy Gadeirydd ar gyfer Rhwydwaith Blynyddoedd Cynnar Cymru, a Dirprwy Gadeirydd ar gyfer y Gweithgor Cydraddoldeb Hiliol AU Ymlaen ym Met Caerdydd, mae Chantelle yn gweithio'n agos â Llywodraeth Cymru (LlC), yn cynghori ar adolygiadau o'r cwricwlwm a chwarae dysgu cynnar yng Nghymru.

Ar dderbyn y wobr, dywedodd Chantelle: "Mae'n anrhydedd imi, rydw i wrth fy modd ac wedi fy synnu'n llwyr gan y newyddion! Trwy gydol fy ngyrfa rydw i wedi meddu ar gefnogaeth, cyfeiriad a gofod aruthrol i arloesi gydag anogaeth barhaus gan gydweithwyr uwch. Gweithio gyda'n myfyrwyr yw'r rhan fwyaf ysbrydoledig o'm gwaith ac mae estyn cynigion i'r gymuned, a'u cynnal, yn cynyddu ein heffaith a'n hôl troed ledled y ddinas, gyda'n hethos Campws-Cymuned yn helpu i ysbrydoli cenedlaethau.

"I mi, mae'r wobr hon yn cydnabod cyfraniadau ein myfyrwyr fel partneriaid, partneriaethau'r ysgolion a sefydliadau eraill sy'n fy ngalluogi i a phawb ym Met Caerdydd i gyflawni gyda'n gilydd."

Dywedodd Julia Longville, Deon Ysgol Addysg a Pholisi Cymdeithasol Caerdydd: "Rydw i'n falch iawn fod Chantelle wedi derbyn gwobr Cymrodoriaeth Addysgu Genedlaethol ar gyfer yr effaith y mae hi wedi ei chael ar fyfyrwyr ledled ein Hysgol, ein Prifysgol a'r gymuned ehangach.

"Mae Chantelle yn ysbrydoliaeth inni i gyd. Mae ei phositifrwydd, brwdfrydedd ac ysgogiad aruthrol i gyflawni rhagoriaeth i bawb yn ein cymuned amrywiol yn ddiamheuol. Mae'r gwaith a wnaed ganddi dros y gymuned BAME yng Nghymru'n nodedig. Mae Chantelle yn bwrw iddi ac yn cwblhau'r gwaith. Does dim byd yn ei hatal nac yn ei rhwystro ac mae'r ysgogiad hwnnw'n ei helpu i ddod o hyd i ffyrdd o wneud i bethau arbennig ddigwydd."

Eleni, bydd y Cynllun Cymrodoriaethau Addysgu Cenedlaethol (NTFS) wedi gwobrwyo mwy na 1,000 o enillwyr yn ystod ei hanes 21 mlynedd. Mae'r cynllun yn dathlu a chydnabod unigolion sydd wedi cael effaith eithriadol ar ganlyniadau myfyrwyr a'r proffesiwn addysgu mewn addysg uwch. Bydd Chantelle yn derbyn ei Gwobr gan AU Ymlaen mewn digwyddiad yn ddiweddarach yn ystod yr haf hwn a bydd yn ymuno â'r gymuned Cymrodorion Addysgu Cenedlaethol yn ystod blwyddyn ei 21ain Pen-blwydd.