Hafan>Newyddion>Astudiaeth gyntaf ar les chwaraewyr rygbi proffesiynol

Astudiaeth gyntaf ar les chwaraewyr rygbi proffesiynol yn taflu goleuni ar ofynion meddyliol y gêm

Newyddion | ​16 Chwefror, 2021

Cardiff Metropolitan University


Mae academyddion o Brifysgol Metropolitan Caerdydd wedi cynnal yr astudiaeth gyntaf erioed ar y gofynion meddyliol a oddefwyd gan chwaraewyr rygbi’r undeb proffesiynol ar hyd tymor domestig. 

Gan weithio â’r Rugby Players’ Association (RPA), The Rugby Football Union (RFU) a Premiership Rugby, edrychodd ymchwilwyr o Ysgol Chwaraeon a Gwyddorau Iechyd Met Caerdydd, Prifysgol Caerfaddon a Phrifysgol Portsmouth ar y baich seicolegol a wynebodd chwaraewyr yn Uwch Gynghrair Rygbi Lloegr ar draws dau dymor, y strategaethau a ddefnyddiwyd ganddyn nhw i ymdopi â’r baich seicolegol a wynebwyd a’r effaith ddilynol ar eu lles. 

Mae’r astudiaeth arloesol ‘Baich seicolegol ac ymdopi yn Uwch Gynghrair Rygbi Lloegr’ yn dangos sut y mae chwaraewyr yn goddef gofynion o ystod o ffynonellau o’r tu mewn (baich rygbi) a’r tu allan (baich bywyd) i’r chwaraeon, gyda’r effaith mwyaf ar les meddyliol ar ddiwedd y tymor.   

Er mwyn ymdopi’n llwyddiannus â’r baich hwn, mae chwaraewyr yn defnyddio strategaethau megis canolbwyntio ar y dasg o dan sylw a cheisio am gefnogaeth gan deulu, ffrindiau neu gydweithwyr. Adroddwyd bod natur yr amgylchedd rygbi, gan gynnwys diwylliant clwb ac ymddygiad yr arweinwyr o fewn y clwb, yn effeithio ar lefel y lles meddyliol a brofwyd gan chwaraewyr.

O’i gymharu â’u cymheiriaid iach, adroddodd chwaraewyr anafedig eu bod wedi goddef y bygythiad mwyaf i’w lles meddyliol oherwydd eu bod yn wynebu mwy o faich seicolegol, symptomau uwch yn gysylltiedig â chwythu plwc a lles meddyliol is. Adroddwyd am ynysu, unigrwydd a cholli hunaniaeth gan chwaraewyr anafedig yn aml. 

Mae canfyddiadau’r ymchwil hwn wedi cyfrannu at yr Adolygiad Iechyd Meddwl Rygbi Proffesiynol a ymgymerwyd gan Premiership Rugby, The Rugby Football Union a’r Rugby Players’ Association. Mae nifer o fentrau lles chwaraewyr dilynol wedi’u mabwysiadu gan gynnwys cyflwyno Arweinwyr Meddygol Iechyd Meddwl i bob clwb, rhaglen Monitro Lles Meddyliol ar draws y gynghrair a chefnogaeth cymar wrth gymar (megis hyfforddiant Cymorth Cyntaf Iechyd Meddwl) i chwaraewyr a staff.  

Mae canlyniadau’r mentrau hyn yn arbennig o nodedig o ystyried yr heriau cyfredol o weithredu’r gêm broffesiynol yn hinsawdd Covid-19, megis delio ag amserlenni gemau cywasgedig a chyfnodau cystadlu estynedig, ac yn golygu y bydd lles meddyliol y chwaraewyr yng ngêm broffesiynol Lloegr yn derbyn hyd yn oed mwy o sylw a chefnogaeth ar lefel y sefydliad, clwb a’r unigolyn.    

Dywedodd yr Athro Stephen Mellalieu o Brifysgol Metropolitan Caerdydd: “Ar hyd tymor 2017/18 fe wnaethon ni gynnal tri arolwg helaeth gyda 691 o chwaraewyr cyn, yn ystod ac ar ddiwedd y tymor i gofnodi’r baich seicolegol a wynebwyd, y strategaethau ymdopi a ddefnyddiwyd, a’r effaith ar les. Y tymor dilynol, fe wnaethon ni gynnal astudiaethau achos gyda thri chlwb Uwch Gynghrair yn edrych ar rôl yr amgylchedd gwaith ehangach, ac yn benodol ar ymddygiad yr arweinwyr o fewn y clwb, y baich a wynebwyd gan chwaraewyr, sut roedden nhw’n ymdopi a’r effaith ar eu lles.

“Mae canfyddiadau’r ymchwil hwn yn dra phwysig oherwydd maent yn amlygu tra bo rygbi proffesiynol yn alwedigaeth anodd iawn sy’n gwneud difrod meddyliol yn ogystal â chorfforol ar draws tymor, mae chwaraewyr yn medru perfformio’n llwyddiannus ar yr amod y rhoddir cyfnodau gorffwys addas iddynt a’r cyfle i ddatblygu’r sgiliau ac adnoddau ymdopi angenrheidiol o fewn amgylchedd gwaith a diwylliant clwb positif.  Mae’r canfyddiadau hefyd yn nodi grwpiau o chwaraewyr sydd ar risg uwch o fygythiadau i’w lles, megis chwaraewyr anafedig. Rydyn ni’n gwybod bod delio gydag anaf yn medru bod yn brofiad trawmatig i unrhyw athletwr proffesiynol ac mae ein gwaith yn amlygu pwysigrwydd y rhwydwaith cyfagos ac ehangach sydd o amgylch chwaraewyr, wrth eu helpu i reoli eu hiechyd meddyliol a lles yn llwyddiannus er mwyn dychwelyd i ffitrwydd.”

Ychwanegodd Richard Bryan, Cyfarwyddwr Lles Chwaraewyr yn y Rugby Players’ Association: “Hoffem ddiolch i’r holl chwaraewyr a chlybiau a gymerodd ran yn yr ymchwil hanfodol hwn. Ni ellir tanamcangyfrif pwysigrwydd yr astudiaeth hon ar gyfer lles aelodau’r RPA.

“Bydd y canfyddiadau’n helpu’r RPA, RFU, Premiership Rugby a chlybiau i ddeall yn well achosion baich seicolegol chwaraewyr, y chwaraewyr hynny sydd ar risg uwch a’r mesurau diogelwch y mae angen i’r gêm eu cael mewn lle.  

“Allai’r astudiaeth ddim bod yn fwy amserol, wrth i chwaraewyr a chlybiau wynebu tymor sydd â heriau annhebyg i’r un arall. I’r perwyl hwn, rwy’n falch o ddweud bod yr astudiaeth yn cael effaith yn barod ar waith a ffocws dydd i ddydd Rheolwyr Datblygu’r RPA, tra hefyd yn cyflenwi hyfforddiant Cymorth Cyntaf Iechyd Meddwl i chwaraewyr a staff clwb, ochr yn ochr â’r rhaglen Monitro Lles a ddatblygwyd â Premiership Rugby a’r RFU.”

Meddai Dr Simon Kemp, Cyfarwyddwr Gwasanaethau Meddygol RFU: “Hon yw’r astudiaeth gyntaf o’i math mewn rygbi ac mae’n rhan bwysig arall o’r ymchwil yr ydyn ni’n ei wneud ar draws y gêm. Mae’r canfyddiadau hyn, fel eraill, yn hanfodol wrth ein helpu i lunio ein dealltwriaeth ac asesu’r datrysiadau gorau i fynd i’r afael â gofynion meddyliol a chorfforol rygbi a darparu’r gefnogaeth gywir i chwaraewyr. Rydyn ni’n barod wedi gweld nifer o fentrau wedi’u rhoi ar waith o ganlyniad i’r prosiect hwn. Fe ddylai cytuno i bob tîm gael Meddyg yn y rôl Arweinydd Iechyd Meddwl a dechrau monitro llesiant safonol ar draws y gynghrair a Thîm Hŷn Lloegr helpu i wneud gwahaniaeth gwirioneddol i'r gofal a'r gefnogaeth a ddarperir i chwaraewyr. Mae’r RFU wedi ymrwymo i hyrwyddo’i ymchwil ochr yn ochr â’r PRL a’r RPA a hoffem ddiolch i bob chwaraewr a gymerodd ran am eu rôl bwysig yn y prosiect hwn.”    

Dywedodd Dr Matt Cross, Rheolwr Ymchwil a Datblygu Rygbi Premiership Rugby: “Mae iechyd meddwl yn un o flaenoriaethau allweddol Premiership Rugby. Mae prosiectau ymchwil arloesol fel hwn yn ein helpu ni i ddeall yn well y gofynion a roddir ar chwaraewyr ar y tu mewn a’r tu allan i’r chwaraeon, gan ein galluogi ni i ddarparu’r gefnogaeth a darpariaeth addas i chwaraewyr.

“O ganlyniad i’r ymchwil hwn, ochr yn ochr â’r RFU a’r RPA, rydyn ni’n falch o fod wedi datblygu nifer o fentrau newydd yn y maes hwn gan gynnwys rhaglen gefnogaeth cymar wrth gymar trwy gynnig hyfforddiant Cymorth Cyntaf Iechyd Meddwl i chwaraewyr a staff ym mhob clwb. Bydd hyn yn galluogi mwy o bobl i adnabod, deall, a helpu i gefnogi unrhyw unigolion a allai fod ei angen. 

“Rydyn ni wedi ymrwymo i godi ymwybyddiaeth iechyd meddwl ar draws yr Uwch Gynghrair, gan leihau’r stigma o gwmpas iechyd meddwl a chynhyrchu diwylliant cefnogaeth bositif ym mhob un o’n clybiau. Mae PRL wedi ymrwymo i gefnogi ymchwil pellach ochr yn ochr â’r RFU a’r RPA ac rydym yn diolch i’r clybiau a phob un o’r chwaraewyr a gymerodd ran yn yr astudiaeth hon.”