Hafan>Newyddion>Diweddariad ar y Gemau Olympaidd dydd Mercher

Diweddariad ar y Gemau Olympaidd dydd Mercher

​​​​​​​Newyddion | 31 Gorffennaf 2024​

​Mae hi wedi bod yn ychydig ddyddiau prysur yn y Gemau Olympaidd gyda nifer o athletwyr a staff sy'n gysylltiedig â Phrifysgol Metropolitan Caerdydd yn cystadlu.

Daeth cysylltiad medal cyntaf Met Caerdydd nos Sadwrn pan gipiodd yr hyfforddwr Gareth Baber a thîm Saith Bob Ochr Dynion Fiji y fedal arian o flaen torf enfawr, angerddol yn y Stade de France. Trechodd y genedl letyol Fiji i ennill y fedal Aur i Ffrainc gydag Antoine Dupont yn dwyn y sioe. Mae’r fedal arian i Fiji yn cael ei ychwanegu at y ddwy fedal Aur a enillwyd yn flaenorol yn Rio (2016) a Tokyo (2020), gyda Gareth Baber, ein Cyfarwyddwr Systemau Rygbi, hefyd wrth y llyw ar gyfer y buddugoliaethau hynny. Llongyfarchiadau Gareth!

Mae Gareth hefyd yn arwain tîm merched Fiji, a gollodd eu gêm grŵp olaf yn erbyn Seland Newydd brynhawn Llun.

Llwyddodd Helen Glover, un o raddedigion Met Caerdydd, a thîm Rhwyfo Merched Prydain Fawr i fuddugoliaeth mewn 3 allan o 5 rhagbrawf ac maent yn paratoi i fynd ar y podiwm yn y rownd derfynol ddydd Iau! Mae Helen yn gobeithio ychwanegu at y medalau Aur a enillodd yn Llundain (2012) a Rio. Pob lwc Helen!

Jasmine Joyce-Butchers, un o raddedigion 2018, oedd y chwaraewr cyntaf o dîm Rygbi Saith Bob Ochr Tîm Prydain Fawr i gystadlu mewn tair Gêm Olympaidd ar y penwythnos – gan sgorio dau gais yn y gêm grŵp olaf yn erbyn De Affrica. Llwyddodd tîm Prydain Fawr i gyrraedd rownd go-gynderfynol nos Lun, ond colli i UDA​.

Gwnaeth Rosie Eccles wynebu colled galed a dadleuol yn rownd go-gynderfynol bocsio merched dros y penwythnos. Roedd myfyriwr graddedig Met Caerdydd ar ben anghywir penderfyniad hollt gan y beirniaid a adawodd lawer o arbenigwyr wedi eu syfrdanu gan ddenu rhai bwiau o'r dorf. Dywedodd Eccles: "Roeddwn i'n gwybod fy mod i wedi ennill y frwydr. Rydw i wedi synnu'n fawr iawn."

Yn olaf, bydd Matthew Wright o Farbados yn cystadlu yn rownd derfynol Triathlon y Dynion yfory am 7yb. Pob lwc Matthew!​

Cadwch lygad am fwy o ddiweddariadau a chefnogwch ein hathletwyr

​#Paris2024MetCaerdydd!