Hafan>Newyddion>Neges ar y cyd i fyfyrwyr Prifysgol Metropolitan Caerdydd, Prifysgol Caerdydd a Phrifysgol De Cymru

Neges ar y cyd i fyfyrwyr Prifysgol Metropolitan Caerdydd, Prifysgol Caerdydd a Phrifysgol De Cymru

Datganiad | Medi 16, 2020

Caerdydd – prifddinas ein cenedl gadarn. Dinas sydd â rhagolygon rhyngwladol cryf a hanes hir o arloesi a datblygu. Dinas ag awyrgylch cyfeillgar ac amgylchedd diogel sy'n eich annog i ymdrochi ynddi ac i ymgolli yn ei diwylliant a'i bywiogrwydd, i gyd wedi'i lapio mewn teimlad o berthyn. Rydym i gyd yn rhan o'r gymuned ryfeddol hon ac mae gan bob un ohonom ein rhan i'w chwarae wrth gadw ein hunain a'n dinas yn ddiogel. 

Rydym yn edrych ymlaen yn fawr at eich croesawu'n ôl i'n prifysgolion ledled Caerdydd yn ystod yr wythnosau nesaf. Mae'n amlwg nad dyma ddechrau'r tymor a ragwelwyd gennym ond rydym wedi gweithio'n galed i addasu ein campysau i'ch galluogi i aros yn ddiogel tra'n parhau i fwynhau profiad myfyrwyr ac amgylchedd dysgu sy'n rhoi boddhad. Rydym wedi cyflwyno nifer o fesurau i'n campysau, o well gyfundrefnau glanhau ar gyfer ardaloedd cyswllt uchel ac ailwampio ystafelloedd i ddarparu gofodau sy’n bodloni’r angen am ymbellhau cymdeithasol. Rydym wedi gosod sgriniau diogelwch mewn derbynfeydd sy'n wynebu myfyrwyr ac wedi gweithredu systemau un ffordd ar draws ein campysau, yn ogystal â gweithio gyda'n Undebau Myfyrwyr priodol i ail-greu rhaglenni cymdeithasol a gynlluniwyd i'ch helpu i wneud ffrindiau newydd o bellter diogel.   

Ond rydym yn cydnabod na allwn wneud hyn ar ein pen ein hunain. Mae gennym gyfrifoldeb a rennir i gadw ein cymunedau a ni ein hunain yn ddiogel ar y campws ac oddi arno. Felly, wrth i chi fwynhau bywyd myfyrwyr, dilynwch y canllawiau o amgylch ein campysau a'n llety a sicrhewch eich bod yn glynu wrth holl ganllawiau a rheoliadau Llywodraeth Cymru ac Iechyd Cyhoeddus Cymru – mae'r rheoliadau'n wahanol ledled y DU. Maent yn newid yn gyson felly mae gan bob un ohonom gyfrifoldeb i gael gafael ar y wybodaeth ddiweddaraf am y rheolau sydd wedi'u cynllunio i'n cadw ni i gyd yn ddiogel.    

Mae gan bob un ohonom gyfrifoldeb i hunanynysu a chymryd prawf os ydym yn dangos symptomau ac i chwarae ein rhan yn system profi, olrhain, diogelu Llywodraeth Cymru drwy gadw nodyn o bwy rydym yn rhyngweithio â nhw.

Mae ein prifysgolion yn rhan annatod o'n cymuned leol. Mae ein myfyrwyr a'n staff wedi gweithio gyda'n cymunedau ac yn ein cymunedau drwy gydol y pandemig ac mae'n hanfodol ein bod yn parhau i ddangos y cydweithio a'r parch hwn wrth inni symud i dymor yr hydref. Drwy ddewis astudio gyda ni, yr ydych wedi dod yn rhan o rywbeth arbennig ac mae angen i bob un ohonom chwarae ein rhan a gwneud yr hyn a allwn i gadw ein gilydd yn ddiogel ar y campws ac oddi arno. 

Edrychwn ymlaen at eich gweld yn fuan – dim ond dechrau antur wych yw hyn.