Hafan>Newyddion>Prifysgol Metropolitan Caerdydd yn cael ei hachredu dan gynllun gyrfa ddeuol arloesol

Prifysgol Metropolitan Caerdydd yn cael ei hachredu dan gynllun gyrfa ddeuol arloesol

Chwefror 10, 2020

Mae Prifysgol Metropolitan Caerdydd yn arwain y ffordd o safbwynt cynorthwyo athletwyr dawnus gyda'u haddysg yng Nghymru, ar ôl iddi gael ei hachredu gan y Cynllun Ysgoloriaethau Athletwyr Dawnus (TASS).

Mae'r rhaglen, a gefnogir gan Sport England, yn cynorthwyo pobl ifanc sydd ar y llwybr athletwyr dawnus i gael cyfle i ennill cymwysterau ochr yn ochr â'u gweithgareddau ym maes chwaraeon, dilyn diddordebau eraill a datblygu'n bersonol.

Trwy gydnabod yn ffurfiol ymrwymiad sefydliad i gynorthwyo myfyrwyr sy'n athletwyr, mae Cynllun Achredu Gyrfa Ddeuol TASS yn ceisio galluogi athletwyr i wireddu eu potensial ym maes addysg a llwyddo yn eu camp ar yr un pryd.

Ceir cyfeiriad at y cynllun achredu yn yr adran ynghylch Addysg yn Adolygiad y Farwnes Tanni Grey-Thompson o ddyletswydd gofal mewn chwaraeon, a gyhoeddwyd ym mis Ebrill 2017, ac mae'r achrediad yn dangos bod gan brifysgol neu goleg y gallu i gynorthwyo myfyrwyr sy'n dilyn llwybr gyrfa ddeuol. Wrth siarad o blaid y cynllun, meddai:

"Rwy'n credu bod dyletswydd arnom i helpu pobl ifanc i gyflawni eu potensial, gan roi blaenoriaeth ar yr un pryd i'w lles a'u haddysg. Mae ar y mwyafrif helaeth o athletwyr angen sgiliau a chymwysterau ffurfiol i'w helpu i gael gyrfaoedd amgen, naill ai ochr yn ochr â'u gweithgareddau ym maes chwaraeon neu ar gyfer y cyfnod pan fyddant wedi rhoi'r gorau i gystadlu.

"I mi, mae Cynllun Achredu Gyrfa Ddeuol TASS yn fesur hollbwysig o safbwynt sicrhau bod pob athletwr yn cael cyfle i gael addysg ac i fwynhau ffordd fwy cytbwys o fyw."

Fel safle sydd wedi'i achredu dan y Cynllun Gyrfa Ddeuol, bydd Prifysgol Metropolitan Caerdydd yn estyniad pwysig i'r rhwydwaith o brifysgolion sydd eisoes yn bartneriaid i TASS, oherwydd mae'n darparu gwasanaethau cymorth craidd bob blwyddyn i dros 600 o fyfyrwyr sy'n athletwyr.

Mae'r gwasanaethau cymorth hyn yn cynnwys cymorth o ran ffisiotherapi, maeth, ffordd o fyw, seicoleg, cryfder a chyflyru ynghyd â chynllun meddygol preifat.

Meddai Dirprwy Gyfarwyddwr Chwaraeon Prifysgol Met Caerdydd, Owen Rodgers: "Rydym yn hynod o falch bod TASS wedi dyfarnu statws Gyrfa Ddeuol i ni. Rydym yn edrych ymlaen at weithio gyda TASS ac at y posibilrwydd o ddenu mwy o athletwyr i'r Brifysgol."

Mae rhai o'r gwasanaethau a ddarperir ar hyn o bryd yn canolbwyntio'n llwyr ar ddatblygu perfformiad y person ifanc ym maes chwaraeon, ond mae strwythur cymorth gyrfa ddeuol a pholisïau ynghylch hyblygrwydd academaidd yn ganolog i'r cymorth sydd ar gael i athletwyr sy'n astudio ar safle wedi'i achredu.

Mae pob safle sydd wedi'i achredu dan y Cynllun Gyrfa Ddeuol yn cael hyfforddiant a phecyn adnoddau i'w alluogi i ddarparu cymorth ymarferol o safbwynt gyrfa ddeuol a thynnu ynghyd bawb sy'n gweithio gyda'r athletwr.

I fyfyrwyr sy'n athletwyr, gallai'r polisïau ynghylch hyblygrwydd academaidd olygu eu bod yn cael cyfle i weld nodiadau neu adnoddau ar-lein a'u bod yn gallu trefnu sesiynau dal i fyny gyda darlithwyr, neu hyd yn oed aildrefnu terfynau amser neu ddyddiadau arholiadau mewn amgylchiadau eithriadol.

Yn y cyfamser, i Brifysgol Metropolitan Caerdydd, disgwylir i'r ffaith ei bod wedi'i chydnabod yn safle sydd wedi'i achredu'n safle Gyrfa Ddeuol gan TASS fod yn fanteisiol o safbwynt denu mwy o athletwyr dawnus a meithrin cysylltiadau â sefydliadau eraill lleol ym maes chwaraeon.

Meddai Cyfarwyddwr Cenedlaethol TASS, Guy Taylor: "Rydym wrth ein bodd o allu dyfarnu achrediad Gyrfa Ddeuol TASS i golegau a phrifysgolion ledled y wlad.

"Mae cymorth gyrfa ddeuol yn ganolog i'r hyn y mae TASS yn ei wneud, a dyna pam mae'r Cynllun Achredu mor bwysig i ni i gydnabod y sefydliadau sy'n rhoi pwys ar addysg eu hathletwyr hefyd.

"Rydym yn gobeithio y bydd y polisïau ynghylch hyblygrwydd academaidd, sy'n cael eu rhoi ar waith ar gyfer y broses achredu, yn arwain at ddatblygu strwythur gyrfa ddeuol effeithiol a pharhaol ym mhob sefydliad.

"Llongyfarchiadau i'r sefydliadau llwyddiannus ac edrychwn ymlaen at weithio ochr yn ochr â llawer mwy o golegau a phrifysgolion rhagorol yn y dyfodol agos."