Hafan>Newyddion>Cyfnod atal byr cenedlaethol

Cyfnod atal byr cenedlaethol

Datganiad | Hydref 19, 2020

Yn dilyn cyhoeddiad y Prif Weinidog heddiw, dydd Llun 19 Hydref, am gyfnod clo byr a llym am gyfnod o bythefnos yma yng Nghymru, mae Prifysgol Metropolitan Caerdydd yn parhau i fod ar agor ac yn gallu parhau â'n haddysgu wyneb-yn-wyneb ac ar-lein hyblyg Covid-ddiogel fel y cynlluniwyd.

Ers dechrau'r tymor, mae'r brifysgol wedi mabwysiadu dull hyblyg ar y campws ac ar-lein tuag at ei chwricwlwm gan sicrhau na fydd unrhyw fyfyriwr dan anfantais pe bai'r pandemig yn achosi unrhyw newid sydyn i'n raglenni. Mae'r dull hyblyg hwn yn rhoi mwy o reolaeth i fyfyrwyr dros pryd a ble maen nhw'n dysgu.

Yn unol â chyngor Llywodraeth Cymru, cynghorwyd yr holl fyfyrwyr aros yn eu llety prifysgol/tymor i leihau teithio diangen. Gofynnwyd i fyfyrwyr aros yn eu llety ac o fewn 'swigod' eu llety oni bai bod angen iddynt fynd allan i'r awyr agored i wneud ymarfer corff neu i gael cyflenwadau hanfodol o fwyd a meddyginiaeth. Rhaid i fyfyrwyr aros yn eu llety os gofynnwyd iddynt hunan-ynysu neu fod ganddynt symptomau Covid-19.

Mae ein campysau wedi cael eu hailgynllunio gyda systemau unffordd, maint dosbarthiadau llai ac arferion glanhau gwell i helpu i gadw myfyrwyr, staff ac ymwelwyr yn ddiogel. Gan gynnal y canllawiau pellter cymdeithasol o 2 fetr, mae'r brifysgol wedi gallu addasu ei lleoedd yn ddiogel, er mwyn helpu i sicrhau y gall dysgu barhau'n ddi-dor. Lle na ellir dilyn y rheol 2 fetr yn ddiogel, darperir Offer Diogelu Personol (PPE), ac mae gwisgo gorchuddion wyneb yn orfodol ar draws campysau. 

Mae'r brifysgol yn parhau i fod yn ymrwymedig i gefnogi diogelwch ac iechyd a lles ei myfyrwyr, ei staff a chymuned ehangach y ddinas.

Rydym yn parhau i weithio gyda Llywodraeth Cymru ac Iechyd Cyhoeddus Cymru, gan chwarae ein rhan i helpu i atal y firws rhag lledaenu.