Hafan>Newyddion>Cydweithredu â chyflogwyr i ddiwallu anghenion sgiliau

Cydweithredu â chyflogwyr i ddiwallu anghenion sgiliau

​Newyddion | 15 Mehefin, 2021



Mae asiantaeth data, technoleg a chreadigrwydd Yard wedi ymuno ag academyddion ym Mhrifysgol Metropolitan Caerdydd i arloesi ac ehangu i wasanaethau newydd yn ystod pandemig y coronafeirws.

Diolch i ddwy Bartneriaeth Trosglwyddo Gwybodaeth (PTG) a gefnogir gan Lywodraeth Cymru, mae academyddion ym Met Caerdydd wedi bod yn cyfrannu at ehangu perfformiad busnesau sydd â’u lleoliad yn Ne Cymru, gan wella’r ansawdd a’r gwasanaethau a ddarperir i rai o fusnesau o’r radd flaenaf yn y DU. Wedi’u hariannu drwy Innovate UK, rhan o Ymchwil ac Arloesi yn y DU, mae PTGau yn darparu cyfle i fusnesau gydweithredu ag academyddion arweiniol i ddatrys problemau ac, yn y pen draw, i ddatblygu maes o’u busnes mewn amgylchedd a reolir a lle caiff risgiau eu rheoli. 

Asiantaeth deallusrwydd marchnata sy’n helpu brandiau cartref i aros ar y blaen trwy ddatgodio data cymhleth i ddarogan ymddygiad defnyddwyr yw Yard, sydd â’i leoliad yng Nghaerdydd. Mae’r cwmni wedi datblygu dull algorithm, sy’n arwain y diwydiant, i gefnogi busnesau arweiniol i wella eu hamlygrwydd a’u perfformiad yn y farchnad. Gwnaed hyn yn bosibl drwy’r gefnogaeth a dderbyniodd gan academyddion yn Ysgol Dechnolegau Caerdydd, a alluogodd Yard i ymgorffori datrysiadau a ysgogwyd gan ddata i’w gynhyrchion mewnol, gan wella ansawdd y cynnig gwasanaeth a chynhyrchu canlyniadau digyffelyb ymysg cystadleuwyr y farchnad. 

Mae partneriaeth gyfredol Yard â Met Caerdydd yn parhau i gyfrannu at lwyddiant brandiau mawr a chynnyrch moesegol sy’n newydd i’r farchnad.

Esboniodd Paul Newbury, Cyd-sefydlydd a Phrif Swyddog Technoleg Yard, “Mae gennym feddwl mawr o’n partneriaeth â Met Caerdydd sydd wedi caniatáu inni ehangu ein cynnig gwasanaeth ac, yn dilyn hynny, y canlyniadau rydyn ni’n eu hysgogi ar gyfer cleientiaid. Trwy’r rhaglen rhannu gwybodaeth, mae ein dull algorithmig yn galluogi brandiau i ddefnyddio’u data ymhellach – o flaen y farchnad.”  

Dywedodd Matthew Taylor, Cyfarwyddwr Arloesedd Met Caerdydd: "Mae partneriaethau fel yr un sydd gennym gydag Yard yn sail i ddull Met Caerdydd o weithio gyda diwydiant. Mae rhoi theori academaidd ar waith yn aml yn datgelu heriau annisgwyl sy'n ysgogi ac yn cyffroi ein hymchwil academaidd ac yn bwydo'n ôl i brofiad dysgu ein myfyrwyr."