Hafan>Newyddion>Mae Duke Al, sydd wedi graddio o Met Caerdydd, yn tynnu sylw at sut mae barddoniaeth wedi bod yn therapi iddo cyn iddo gyhoeddi ei waith ar y cyd â Chymdeithas Bêl-droed Cymru

Mae Duke Al, sydd wedi graddio o Met Caerdydd, yn tynnu sylw at sut mae barddoniaeth wedi bod yn therapi iddo cyn iddo gyhoeddi ei waith ar y cyd â Chymdeithas Bêl-droed Cymru

Newyddion | 25 Hydref 2024

Yr wythnos hon, cyhoeddodd Cymdeithas Bêl-droed Cymru ei bod wedi ymuno â Duke Al, sydd wedi graddio o Brifysgol Metropolitan Caerdydd, sy’n fardd a’n adrodd geiriau llafar. Mae’r cydweithrediad yn tynnu sylw at bwysigrwydd cynghreiriaeth gwrywaidd cyn gêm ail gyfle EURO Merched UEFA gyntaf Cymru yn erbyn Slofacia.



Graddiodd Duke Al, 30, sy’n wreiddiol o Ddinas Powys ym Mro Morgannwg, o Met Caerdydd yn 2018 ar ôl astudio gradd BSc (Anrh) Hyfforddi Chwaraeon, ac aeth ymlaen i astudio MA mewn Ysgrifennu Creadigol a graddio ohono yn 2022. Ers hynny mae ei yrfa wedi mynd o nerth i nerth, gan weithio gyda Thîm Cymru, Cymdeithas Chwaraeon Cymru a Chwaraeon BBC – i enwi dim ond ychydig. Mae gan Duke Al y gallu i ysgogi, ysbrydoli ac atseinio gydag ystod eang o gynulleidfaoedd drwy bŵer ei farddoniaeth lafar.

Ond y tu ôl i’r farddoniaeth sydd bellach yn ysbrydoli cynulleidfaoedd torfol, mae gan Duke Al ei stori bersonol i’w rhannu. Fe esboniodd, wrth i ni ddal fyny, sut datblygodd ei gariad at ysgrifennu yn 11 oed am y tro cyntaf i fod yn rhyw fath o hunan-therapi iddo yn 12 oed, wrth iddo geisio dianc rhag y meddyliau ymwthiol roedd yn profi. Roedd ganddo frwydr heb ddiagnosis gyda’r cyflwr iechyd meddwl, anhwylder obsesiynol-gorfodaethol (OCD).

“Dywedodd fy ymennydd wrth fy llaw, dywedodd fy llaw wrth y beiro, a dywedodd fy meiro wrth y dudalen,” meddai Duke Al wrth ddisgrifio sut y byddai’n ysgrifennu am y meddyliau brawychus profodd o oedran ifanc.

“Daeth ysgrifennu yn fecanwaith ymdopi cadarnhaol. Ond cadwais fy ngwaith ysgrifennu yn dawel i fy hun, ac i ddechrau doeddwn i ddim yn dweud wrth neb am fy meddyliau, gan boeni y byddent yn fy marnu.”

Er iddo sylweddoli fod ganddo anhwylder obsesiynol-gorfodaethol (OCD), ar ôl iddo bori drwy Google am ei symptomau yn 12 oed, ni chafodd Duke Al ddiagnosis cywir nes ei fod yn 21 oed – gan arwain at flynyddoedd o hunan-ddinistrio a defnyddio alcohol i ddianc.

Yn dilyn ei ddiagnosis gydag anhwylder obsesiynol-gorfodaethol (OCD), yn 21 oed, aeth Duke Al ymlaen i astudio ym Met Caerdydd fel myfyriwr hŷn. Ond mae’n cyfaddef nad oedd ei daith i Addysg Uwch yn un hawdd.

“Methais chweched dosbarth ddwywaith gan nad oeddwn i eisiau bod yno, roeddwn i’n teimlo ar goll yn yr hyn roeddwn i eisiau ei wneud,” esboniodd. “Roeddwn i wastad wedi bod wrth fy modd â chwaraeon, ac roedd fy ngyrfa yn naturiol yn mynd i’r cyfeiriad hwn. Cyn dod i’r brifysgol, roeddwn wedi bod yn astudio hyfforddi chwaraeon yn y coleg ac wedi cymhwyso fel hyfforddwr personol. Roeddwn hefyd yn gweithio fel garddwr tirwedd. Ond mewn gwirionedd, roeddwn yn ansicr iawn beth roeddwn i eisiau ei wneud mewn bywyd.”



Yn ystod blwyddyn olaf Duke Al ar ei radd israddedig ym Met Caerdydd, llwyddodd i sicrhau lle i wirfoddoli yn Zambia gyda Met Caerdydd. Mae Duke Al yn dweud mai diolch i gwrdd ag un o’r arweinwyr ar y daith am ei helpu i sylweddoli yr hoffai fynd ymlaen i astudio gradd meistr.

Dywedodd: “Gofynnais i un o’r arweinwyr a oedd ar daith Zambia sut y penderfynodd fod cwrs meistr yn gweithio’n dda iddo, dywedodd: Beth ydw i’n hoffi gwneud a beth sy’n gwneud i mi godi o’r gwely yn y bore? I mi, yr ateb oedd ysgrifennu.

“Cymerodd amser hir i mi ddod o hyd i’m galwad mewn bywyd. Ond ar ôl y daith honno i Zambia, des i adref, rhoi’r gorau i’m swydd fel hyfforddwr personol a sefydlu fy nhudalen Instagram sy’n blatfform i rannu fy ngherddoriaeth a’m caneuon, ac mae wedi llwyddo. Dyna oedd fy amser.”

Yn ddiweddarach aeth Duke Al, sydd bellach yn byw yn Sili, ymlaen i gofrestru ar y Meistr mewn Ysgrifennu Creadigol ym Met Caerdydd i’w helpu i ddatblygu ei sgiliau ysgrifennu ac adeiladu cysylltiadau – mae’n clodfori’r cwrs am wella ei hyder.

Mae Duke Al yn hyrwyddo ei gerddi drwy Instagram ac eglurodd sut mae ei waith bellach yn mynd ag ef ar hyd a lled y DU, gyda llawer o brosiectau cyffrous ar y gweill. Mae hefyd yn gweithio’n rheolaidd gydag elusennau sy’n agos at ei galon yn cyflwyno gweithdai barddoniaeth i bob oed. Mae’r rhain yn cynnwys Diabetes UK, wedi iddo gael diagnosis o ddiabetes math 1, hefyd, yn 23 oed a OCD Action.

“Rwy’n credu’n gryf bod harddwch ar ddiwedd dioddefaint,” ychwanegodd. “Ac oni bai mod i’n mynd drwy’r holl bethau sydd gen i, fyddwn i ddim yn gallu uniaethu â’r bobl dwi’n eu helpu nawr drwy fy marddoniaeth.”

Wrth siarad am gydweithio gyda Chymdeithas Bêl-droed Cymru, ychwanegodd Duke Al: “Mae wedi bod yn uchelgais gennyf erioed i weithio gyda Chymdeithas Bêl-droed Cymru, felly rwy’n teimlo’n freintiedig o gael y cyfle i gydweithio â nhw, a’r cynhyrchydd cerddoriaeth MAK dros y misoedd diwethaf i gynhyrchu’r gerdd hon.

“Nod y gerdd yw dathlu’r eiliadau allweddol drwy gydol yr ymgyrch gymhwyso a chyflawniad y tîm o gyrraedd gemau ail gyfle EURO Merched UEFA am y tro cyntaf, a hefyd ddathlu’r cydblethu arbennig rhwng y chwaraewyr a’r Wal Goch.

“Mae’r grŵp yma o chwaraewyr yn cynrychioli gymaint mwy na phêl-droed yn unig ac roedd yn ysbrydoledig dysgu mwy am bwrpas ehangach y tîm a’r hyn maent yn chwarae iddo. Maent yn fodelau rôl, gwneuthurwyr hanes ac yn ffynhonnell ysbrydoliaeth i bobl ifanc ledled y wlad.

“Mae’n anrhydedd i mi ddefnyddio fy ngeiriau i’w cefnogi wrth iddyn nhw fynd i mewn i’r gemau ail gyfle hollbwysig hwn a gobeithio bydd torf fawr o bobl yno i’w cefnogi ar gyfer yr ail gymal yng Nghaerdydd.”

Bydd cerdd Duke Al yn cael ei chwarae yn Stadiwm Dinas Caerdydd fel rhan o’r paratoadau cyn y gêm ar gyfer ail gymal rownd cynderfynol y gemau ail gyfle, a gynhelir ddydd Mawrth 29 Hydref (Gêm yn dechrau – 19:15).

Gwyliwch y bardd gair llafar Duke Al a phrynu tocynnau drwy wefan Cymdeithas Bêl-droed Cymru.

Dilynwch Duke Al a gweld mwy o’i waith ar ei gyfrif Instagram.