Hafan>Newyddion>arddangosfa yn mynd yn ddigidol

Arddangosfa ‘Golwg ar Gelf’ yn symud ar-lein yn sgil argyfwng Covid-19

​Mai 13, 2020

Cardiff Metropolitan University
Galeri digidol 'Golwg ar Gelf'

Bydd arddangosfa ‘Golwg ar Gelf’ sy’n cynnwys ystod eang o waith myfyrwyr cyfrwng Cymraeg o Brifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant, Met Caerdydd a Choleg Sir Gar,  yn symud ar-lein eleni o ganlyniad i argyfwng Covid-19.

Bydd yr arddangosfa yn cael ei lansio ar blatfform Zoom am 4yp ddydd Mercher 13 Mai ac mae croeso i bawb ymuno yn y lansiad o gysur eu cartrefi. 

Drwy ddefnyddio platfform ar-lein ARTSTEPS bydd modd i ymwelwyr fynd ar daith rhithwir o amgylch y galeri a gweld yr holl waith celf wedi ei arddangos fel petai nhw mewn galeri go iawn. 

Yn y blynyddoedd diwethaf mae’r arddangosfa wedi teithio o amgylch prifysgolion ac wedi ymweld ag Eisteddfod yr Urdd ond golyga’r cyfyngiadau presennol bod y trefnwyr wedi gorfod ymateb yn gyflym a chynnig profiad gwahanol i’r arfer i’r cyhoedd.   
Ariennir yr arddangosfa gan y Coleg Cymraeg Cenedlaethol ac fe’i threfnir gan ddarlithwyr Celf a Dylunio y tri sefydliad addysg uwch ac addysg bellach. 

Yn ôl Gwenllian Beynon sy’n darlithio ym Mhrifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant: “Pan gaeodd y brifysgol yn sydyn oherwydd yr argyfwng Covid-19 meddyliais y byddai’n  drueni mawr os nad oedd modd parhau â thaith yr arddangosfa fel y bwriadwyd. 

“Penderfynais y byddai’n wych i wneud rhywbeth ar-lein, ond doedd gen i ddim syniad ar y pryd sut na beth fyddai hyn yn golygu. Rhoddais y dasg i‘r ddau Artist Preswyl sydd yn gweithio yng Ngholeg Celf Abertawe i archwilio gwahanol blatfformau posib i greu arddangosfa ar-lein. Ffrwyth eu llafur nhw yw’r arddangosfa yma ar y safle ARTSTEPS. 

“Er y siom o beidio gallu gwireddu’r cynlluniau gwreiddiol, mae’r argyfwng wedi rhoi’r cyfle i ni arbrofi gyda thechnegau newydd ac i barhau gyda’r hyn a gynlluniwyd yn y lle cyntaf ond mewn dull gwahanol. Mae cael agoriad ar lein yn rhywbeth cyffroes iawn.”

Dywedodd Mared Jones, Swyddog Pwnc y Dyniaethau a’r Celfyddydau i’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol: “Er y siom o orfod gohirio’r arddangosfeydd sydd wedi profi’n boblogaidd iawn yn y blynyddoedd diwethaf, rydym yn hynod falch bod modd parhau gyda’r prosiect wedi’r cyfan a hynny ar-lein. Mae’n cynnig profiadau gwych i’r myfyrwyr, yn ogystal â chynnig cyfle ardderchog i’r cyhoedd fwynhau gwaith celf o’r radd flaenaf.”

Mae croeso i unrhyw un i ymuno ar gyfer lansiad yr arddangosfa ar lein ar blatfform ‘Zoom’, ddydd Mercher 13 Mai am 4yp. Mae’r manylion er mwyn ymuno fel a ganlyn:

Cyfarfod Zoom https://us02web.zoom.us/j/81697627791
Cyfeirnod y Cyfarfod (Meeting ID): 816 9762 7791

Nodiadau i Olygyddion
Sefydlwyd y Coleg Cymraeg Cenedlaethol yn 2011. Y Coleg sy’n arwain datblygiad addysg a hyfforddiant cyfrwng Cymraeg a dwyieithog yn y sector ôl-orfodol yng Nghymru. Mae’r Coleg yn cyflawni hyn drwy weithio’n effeithiol mewn partneriaeth â phrifysgolion, sefydliadau addysg bellach a darparwyr prentisiaethau er mwyn adeiladu cyfundrefn addysg a hyfforddiant cyfrwng Cymraeg cynhwysol o’r radd flaenaf. Er mwyn darganfod mwy am y Coleg ewch i: www.colegcymraeg.ac.uk