Hafan>Newyddion>Prifysgol o Gymru'n arwain y DU ac Iwerddon i daclo'r llofrudd distaw byd-eang mwyaf

Prifysgol o Gymru'n arwain y DU ac Iwerddon i daclo'r llofrudd distaw byd-eang mwyaf

​Newyddion | 17 Mai, 2021 Diwrnod Pwysedd Gwaed Uchel y Byd

Mae Met Caerdydd yn cydweithio â Sefydliad Prydeinig y Galon (Cymru) (BHF Cymru) i arwain y frwydr yn erbyn y prif achos marwolaethau y gellir eu hatal ledled y byd.

Mae hyn i gyd yn rhan o ymgyrch 'Mis Mesur Mai' (MMM) y Gymdeithas Ryngwladol Gorbwysedd - menter fyd-eang sydd wedi bodoli ers 2017. Nod yr ymgyrch ydy canfod pobl yn y gymuned sydd â gorbwysedd heb ddiagnosis, eu gwneud yn ymwybodol o'u cyflwr a'u helpu i ddelio â'r mater iechyd hwn. Y nod eleni i sgrinio miliwn o bobl ledled y byd fydd yr ymgyrch sgrinio pwysedd gwaed fyd-eang fwyaf erioed.

Mewn ymgais i godi ymwybyddiaeth o'r risg o bwysedd gwaed uchel yng Nghymru, mae pobl â monitorau pwysedd gwaed yn eu cartrefi yn cael eu hatgoffa i wirio eu pwysedd gwaed a phwysau aelodau o'u swigen gymdeithasol rhwng mis Mai a mis Tachwedd.

Yn ôl y Dr Barry McDonnell, Darllenydd ac Arweinydd Ymchwil ac Arloesi’r Grŵp Ymchwil Ffisioleg Cardiofasgwlaidd ym Met Caerdydd, sy'n arwain ymgyrch ‘Mis Mesur Mai’ y DU ac Iwerddon fel cynrychiolydd Cymdeithas Gorbwysedd Prydain ac Iwerddon:

"Hyd yn oed wrth gynnwys yr elfen o'r pandemig Covid cyfredol, gorbwysedd ydy'r ffactor risg sy'n cyfrannu fwyaf at farwolaethau a beichiau afiechyd ledled y byd. Oherwydd absenoldeb symptomau pwysedd gwaed uchel, dydy llawer o bobl ddim yn gwybod ei fod arnyn nhw - a gall arwain at glefyd y galon, strôc, clefyd yr arennau ac, yn y pen draw, at farwolaeth.

"Mae cysylltu â BHF Cymru yn arbennig o ddefnyddiol eleni, gan ei fod yn caniatáu inni gyrraedd pobl yn y gymuned na fydden nhw fel arall yn cael mesur eu pwysedd gwaed yn rheolaidd, yn enwedig yn ystod y pandemig. Yn hollbwysig, mae gweithio gyda BHF Cymru hefyd yn caniatáu inni wneud i bob cyswllt gyfrif, gan helpu Met Caerdydd i chwarae rhan weithredol yn y gymuned a hybu ymwybyddiaeth o orbwysedd. Ar lefel fyd-eang, bydd y data hwn yn cael ei ddefnyddio i ysgogi llywodraethau i wella sgrinio, triniaeth a chyfleusterau yn lleol."

Ychwanegodd Prif Ymchwilydd MMM, Yr Athro Neil Poulter:

"Rwy’n falch iawn o gyhoeddi bod ymgyrch ‘Mis Mesur Mai’ yn ôl yn 2021! Cychwynnwyd yr ymgyrch flynyddol hon yn 2017 i godi ymwybyddiaeth o bwysigrwydd mesur pwysedd gwaed ar lefel yr unigolyn a'r boblogaeth ledled y byd.

Trwy wneud hynny, bydd MMM yn parhau i gyfrannu at ostyngiad mewn miliynau o ddigwyddiadau cardiofasgwlaidd niweidiol a achosir yn fyd-eang bob blwyddyn gan bwysedd gwaed uwch."

Dywedodd Pennaeth BHF Cymru, Adam Fletcher:

"Mae rheoli eich pwysedd gwaed yn un o'r pethau pwysicaf y gallwch chi ei wneud i leihau'ch risg o gael trawiad ar y galon ar strôc. Mae miloedd o oedolion yng Nghymru wedi cael pwysedd gwaed uchel heb ei ddiagnosio, felly ni fyddant yn gwybod eu bod mewn perygl.

"Yr unig ffordd i wybod a oes gennych bwysedd gwaed uchel yw ei fesur. Felly, mae'n bwysig gwirio'ch pwysedd gwaed. Dim ond pum munud y mae'n ei gymryd a gellir ei wneud mewn sawl ffordd gan gynnwys yng nghysur eich cartref eich hun. Fe allai arbed eich bywyd yn y pen draw."

Mae papur gan Dr McDonnell am y data mwyaf diweddar o ymgyrch 2019 y DU ac Iwerddon o ymgyrch ‘Mis Mesur Mai’ newydd gael ei gyhoeddi gan "The European Heart Journal Supplements - un o gyfnodolion meddygol gorau’r byd (insert link).

Mae'r papur hwn yn dangos sut y gwnaeth ymgyrch 2019 sgrinio 10,194 o bobl ledled y DU ac Iwerddon gan dynnu sylw at y ffaith nad oedd 66 y cant o'r cyfranogwyr â phwysedd gwaed uchel yn ymwybodol o'u cyflwr.

Am ragor o wybodaeth:

Mae'r prosiect hwn, dan arweiniad Grŵp Ymchwil Ffisioleg Cardiofasgwlaidd Met Caerdydd, yn rhan o'r Academïau Byd-eang, y Ganolfan Ymchwil Iechyd, Gweithgaredd a Llesiant (CYIGLl), a'r thema ymchwil Iechyd Cardiofasgwlaidd a Heneiddio.

Am ragor o fanylion, ewch i www.maymeasure.com.