Hafan>Newyddion>Datganiad yr Is-Ganghellor ar Oresgyniad Wcráin

Datganiad yr Is-Ganghellor ar Oresgyniad Wcráin

​3 Mawrth 2022

Mae myfyrwyr, staff a phartneriaid Prifysgol Metropolitan Caerdydd wedi mynegi eu sioc a’u tristwch mewn ymateb i’r digwyddiadau sy'n datblygu yn Nwyrain Ewrop, yn dilyn yr ymosodiad milwrol ar Wcráin gan Ffederasiwn Rwsia. Mae ein cymuned yn sefyll gyda phobl Wcráin wrth gondemnio'r weithred hon o ryfel ac wrth gydnabod sofraniaeth, annibyniaeth a ffiniau cenedlaethol Wcráin.​​​​​​​

Mae ein prifysgol yn gymuned fyd-eang gyda myfyrwyr o 140 o wledydd, gan gynnwys Wcráin a Rwsia. Rydym wedi ymrwymo i roi cymorth i'n cymuned gyfan ar yr adeg hynod anodd hon.

Gwlad yw Wcráin sydd â threftadaeth ddiwylliannol gyfoethog, sydd bellach o dan fygythiad. Rydym yn dangos cydsafiad â'n partneriaid yn Academi Gelf Genedlaethol Lviv (LNAA) yn Wcráin, yr ydym yn ymwneud â nhw ar brosiect ymchwil cydweithredol, Creative Spark, a ariennir gan y British Council. Rydym wedi anfon negeseuon o gefnogaeth i'r Athro Vasyl Kosiv, Prifathro yn LNAA.

Mae gan ein prifysgol ddyletswydd gofal tuag at ein holl fyfyrwyr a staff; myfyrwyr a staff sydd ag agwedd ryngwladolaidd ac sy'n credu bod addysg, ymchwil ac arloesi - a'r ddiplomyddiaeth ddiwylliannol a'r cymell tawel y mae addysg yn eu creu - yn goresgyn ffiniau cenedl-wladwriaethau, wrth barchu ffiniau cenedlaethol ar yr un pryd.

Mae goblygiadau'r rhyfel hwn yn bersonol, yn wleidyddol, yn economaidd, yn gymdeithasol ac yn amgylcheddol, a byddant yn cael eu teimlo am genedlaethau i ddod. Bydd pob un ohonom yn teimlo'r noddfa a'r cymorth sydd eu hangen am flynyddoedd i ddod. Rhaid inni beidio â bychanu'r straen a'r pwysau a achosir i'n holl fyfyrwyr a’n pobl ifanc o ganlyniad i ryfel yn Ewrop, ar ben pandemig byd-eang hir a pharhaus.

Fel addysgwyr ym Met Caerdydd, rydym wedi ymrwymo i chwarae ein rhan fel Prifysgol Noddfa ddynodedig ac rydym yn gweithio'n agos â Grŵp Llywio Prifysgolion Noddfa'r DU, Llywodraeth Cymru a CCAUC, Canolfan Materion Rhyngwladol Cymru a’r Academi Heddwch i sicrhau bod ein prifysgol yn ymateb â’r cymorth priodol.

Daeth ein Hysgolhaig Noddfa ôl-raddedig cyntaf o Donetsk yn Nwyrain Wcráin, graddiodd yn ddiweddar gyda Gradd Meistr mewn Addysgu Saesneg i Siaradwyr Ieithoedd Eraill ac mae bellach yn addysgu ffoaduriaid yn Ne Cymru. Yn ddiweddar, rydym wedi croesawu ein Cymrawd cyntaf ar lefel ddoethurol, gyda chefnogaeth y Council of At-Risk Academics (CARA), sy'n gweithio gyda phrifysgolion i nodi a chynnig cymorth i academyddion a myfyrwyr sydd dan fygythiad ac/neu sydd wedi'u dadleoli gan wrthdaro. Byddwn yn parhau i weithio'n agos â CARA i gynnig noddfa a chefnogaeth briodol i academyddion a myfyrwyr o Wcráin.

Mae gwasanaethau cwnsela'r Brifysgol ar gael i fyfyrwyr a staff sydd angen cymorth ac anogir cydweithwyr i siarad â'ch rheolwr llinell os oes angen cyngor neu arweiniad arnoch.

Mae llawer o gydweithwyr wedi gofyn beth allan nhw ei wneud i gynorthwyo pobl Wcráin ar yr adeg hon, a byddwn yn annog tri cham gweithredu:

Yn gyntaf, mae'n hanfodol ein bod yn parhau i gefnogi ein holl fyfyrwyr, o ble bynnag y maen nhw’n dod, gyda chymorth academaidd, emosiynol ac ariannol priodol. Bydd hyn yn cynnwys, yn y tymor hwy, parhau i feithrin partneriaethau gyda myfyrwyr ac academyddion yn Wcráin, cryfhau ein diplomyddiaeth ddiwylliannol gyda chefnogaeth gan sefydliadau fel y British Council, ac annog myfyrwyr y DU i gymryd rhan mewn rhaglenni symudedd gydag Wcráin, gan gynnwys drwy'r fenter Taith Cymru a lansiwyd yn ddiweddar.

Yn ail, byddwn yn annog y rhai sy'n gallu i roi’n ariannol i sefydliadau sefydledig sy'n darparu cymorth lle mae ei angen fwyaf:

Yn drydydd, mae gan lawer ohonom, gan gynnwys fi, gysylltiadau teuluol ag Wcráin ac aelodau o'r teulu sy'n dal i fod yn Kyiv a dinasoedd eraill sydd o dan fygythiad. Fel addysgwyr, byddwn yn eich annog i ddylanwadu a lobïo dros atal y rhyfel hwn drwy gymryd rhan mewn protestiadau heddychlon, ac mae llawer o ddigwyddiadau wedi'u trefnu yng Nghymru lle gellir teimlo ein presenoldeb a chlywed ein lleisiau.

Mae Cymru'n genedl groesawgar ac yn genedl noddfa. Trwy addysg, byddwn yn sicrhau bod ein drysau ar agor i'r byd bob amser. Addysg fydd y cymell tawel sy'n ailadeiladu capasiti a hyder yn Wcráin ac, yn y pen draw, rhwng Wcráin a Rwsia unwaith eto. Nid oedd ein myfyrwyr o Rwsia’n galw am y rhyfel hwn ac mae angen inni eu dal nhw’n agos hefyd, wrth gefnogi pobl Wcráin.

Yn olaf, rwy’n cloi’r datganiad hwn gyda geiriau'r diweddar Desmond Tutu a ddywedodd, 'Os ydych chi’n niwtral mewn sefyllfaoedd anghyfiawn, rydych chi wedi dewis ochr y gormeswr. Os oes gan eliffant ei droed ar gynffon llygoden, a’ch bod chi’n dweud eich bod yn niwtral, ni fydd y llygoden yn gwerthfawrogi eich niwtraliaeth'.

Yr Athro Cara Aitchison

Llywydd ac Is-Ganghellor

Prifysgol Metropolitan Caerdydd