Hafan>Newyddion>Cymrwch ran yn Ocean Hackathon byd-eang eleni

Cymrwch ran yn Ocean Hackathon byd-eang eleni

​Newyddion | 10 Mai, 2021

Mae cystadleuaeth hacathon fyd-eang sydd â’r bwriad o ddarparu datrysiadau i broblemau sy’n ymwneud â’r môr wedi agor ei galwad am heriau.

Mae Caerdydd yn un o 18 dinas groesawu sy’n cymryd rhan yn Ocean Hackathon eleni. Digwyddiad 48 awr di-dor yw’r Ocean Hackathon lle bydd timau o fyfyrwyr, arbenigwyr morol a gweithwyr TG proffesiynol yn datblygu algorithmau, apiau, gemau neu ddatrysiadau eraill i broblemau sy’n ymwneud â’r amgylchedd morol.

Cynhelir penwythnos yr hacathon yn Ysgol Dechnolegau Caerdydd ym Mhrifysgol Metropolitan Caerdydd ar Dachwedd 5-7, 2021.

Mae ein porth nawr ar agor i unigolion neu sefydliadau gyflwyno’u syniadau ar gyfer heriau, problemau neu faterion i’w taclo yn ystod y digwyddiad.

Dywedodd Steve Aicheler, rheolwr yn y Ganolfan Entrepreneuriaeth: "Mae dod â’r digwyddiad hwn i Gaerdydd, dinas sydd â chysylltiadau cryf â’r Cefnfor, yn gyffrous iawn. Mae gennym fynediad digynsail at ddata, yn ogystal â thimau o ddatblygwyr arloesol a llawn dychymyg. Bydd hyn yn ein helpu ni i gyfrannu at yr ymdrech fyd-eang i ddysgu mwy am y môr, i amddiffyn yr amgylchedd ac i ddefnyddio’i adnoddau mewn ffordd fwy cynaliadwy."

I gyflwyno her i’r Ocean Hackathon dyna’i gyd sy’n rhaid ichi ei wneud yw cwblhau ffurflen we syml a fydd yn gofyn ynglŷn â’r her, pa sgiliau a allai fod eu hangen i’w datrys a pha ddata fyddai’n cyfrannu at yr her. Mae Ocean Hackathon wedi sicrhau mynediad at setiau data gan CMEMS, EMODnet, OFB a llawer o rai eraill.

I ddysgu rhagor am y data sydd ar gael, cysylltwch ag entrepreneurship@cardiffmet.ac.uk am wahoddiad i weminar data ar y 18fed Mai.

Mae Ocean Hackathon yn gystadleuaeth wirioneddol fyd-eang, gyda 18 dinas, o bell ac agos fel Cape Town, Santiago a San Francisco’n cymryd rhan. Bydd y syniad buddugol o Gaerdydd yn ymuno â thimau o bob rhan o’r byd mewn cyflwyniad terfynol i’w gynnal yn Brest yn hwyrach yn y flwyddyn.

Mae’r alwad am heriau ar gyfer Ocean Hackathon 2021 ar agor hyd at Fehefin 6ed.

Os ydych chi’n unigolyn neu sefydliad sydd â syniad prosiect arforol gallwch ei gyflwyno fel her ar gyfer yr Ocean Hackathon 2021.