Hafan>Newyddion>THE Awards 2021

Met Caerdydd yn cyrraedd y rhestr fer ar gyfer Prif Wobr

​Newyddion | 9 Medi 2021

 


Mae Prifysgol Metropolitan Caerdydd wedi cyrraedd y rhestr fer ar gyfer categori mawreddog Prifysgol y Flwyddyn gan wobrau'r Times Higer Education 2021. 

Mae Met Caerdydd yn ymuno ag enwau fel Prifysgol Aston, Prifysgol York a'r Brifysgol Agored sydd hefyd wedi'u henwebu ar gyfer y wobr hon.

Mae'r enwebiad proffil uchel hwn yn cydnabod y ffordd y mae Met Caerdydd wedi ymsefydlu fel prifysgol flaengar sy'n cael ei gyrru gan werthoedd ac sydd â phrofiad i fyfyrwyr a diwylliant staff rhagorol. Mae hanes a llwybr o dwf, arallgyfeirio a gwelliant yn tystio i hyn, gyda chefnogaeth cyllid cynaliadwy â Met Caerdydd yn cael ei hystyried fel y brifysgol fwyaf cynaliadwy yn ariannol yng Nghymru gan Ganolfan Llywodraethiant Cymru.

O dan arweinyddiaeth yr Athro Cara Aitchison, mae'r Brifysgol wedi gweithio tuag at saith blaenoriaeth fentrus a nodwyd mewn cynllun strategol wedi'i yrru gan werthoedd yn 2016/17 ac y'i hadnewyddwyd yn 2019/20 mewn ymateb i'r pandemig.

Yn ystod blwyddyn academaidd 2019/20, gwelwyd llwyddiannau wrth ddatblygu Ysgol Dechnolegau Caerdydd, gweithredu profiad myfyrwyr EDGE (Moesegol, Digidol, Byd-eang ac Entrepreneuraidd) Met Caerdydd yn llawn, a datblygu tair Academi Fyd-eang ryngddisgyblaethol.

Mae'r enwebiad hwn hefyd yn cydnabod sut y gwnaeth boddhad cyffredinol myfyrwyr wella o 3 y cant yn is na'r cyfartaledd yn Arolwg Cenedlaethol i Fyfyrwyr 2015/16 i 2 y cant yn uwch na'r cyfartaledd yn 2019/20, gyda'r Brifysgol yn ymuno â'r 40 gorau yn 2019/20. Cynyddodd 'graddau da' o 64 y cant yn 2015/16 i 80 y cant yn 2019/20.

Yn ogystal, mae Met Caerdydd wedi cyflawni newid diwylliannol trwy flaenoriaethu iechyd, lles, cydraddoldeb ac amrywiaeth gydag arweinyddiaeth dosturiol, fel y mae canlyniadau arolwg staff Capita 2020 yn tystio. Dangoswyd gan yr arolwg hwn bod 96 y cant o staff yn cytuno bod Met Caerdydd yn lle da i weithio ynddo - yn erbyn cyfartaledd sector o 87 y cant.

Wrth sôn am yr enwebiad, dywedodd yr Athro Cara Aitchison, Llywydd ac Is-Ganghellor Prifysgol Metropolitan Caerdydd: "O achos gwaith caled ac ymroddiad staff Met Caerdydd y cawsom ein henwebu ar gyfer y wobr nodedig hon - o ddarlithwyr ac arddangoswyr technegol, i staff gwasanaethau proffesiynol a chymorth. 

"Dathlwyd sawl canmoliaeth galonogol gan gymuned Met Caerdydd dros y flwyddyn ddiwethaf - ar ben canlyniadau calonogol yr Arolwg Cenedlaethol i Fyfyrwyr, cawsom ein coroni'n Brifysgol y Flwyddyn yng Nghymru gan The Times and The Sunday Times Good University Guide a gwnaethom gynnydd o 24 safle yn y Complete University Guide - yr ail gynnydd uchaf yn y DU.

"Mae'r enwebiad hwn yn arbennig o galonogol oherwydd mae'n dangos ein bod ni'n brifysgol perfformiad uchel, sy'n cael effaith ac sy'n gydweithredol, ac mae'n cydnabod y gwnaed y cynnydd hwn gennym wrth ddod yn gymuned fwy tosturiol ar yr un pryd."

Ychwanegodd John Taylor CBE, Cadeirydd Bwrdd y Llywodraethwyr: "Rwy'n hynod falch o weld Prifysgol Metropolitan Caerdydd yn cael ei hanrhydeddu ar y lefel hon ac iddi gael ei chydnabod fel sefydliad blaengar ac arloesol.

"Mae Met Caerdydd yn amlwg wedi disgleirio gyda'i dull sy'n canolbwyntio ar bobl, sydd wedi galluogi'r Brifysgol nid yn unig i oroesi ond i ffynnu fel cymuned dosturiol."

“Dywedodd John Gill, golygydd THE:  "Dyma’r 17eg flwyddyn y bydd y Gwobrau THE yn cydnabod y gorau oll o addysg uwch y DU, ar draws 20 categori’n ymdrin â phob agwedd ar weithgarwch prifysgol. Ond bydd gwobrau eleni’n adlewyrchu cyfnod o gythrwfl ac arloesi a’i gwnaed yn angenrheidiol gan y pandemig, gan eu gwneud yn go wahanol i unrhyw flwyddyn arall.

"Am y tro cyntaf eleni, rydym hefyd wedi ehangu ein gwobrau i gynnwys sefydliadau addysg uwch yn Iwerddon, ac rydym wrth ein bodd o ddweud inni dderbyn y nifer fwyaf o geisiadau erioed, sy’n adlewyrchu disgleirdeb prifysgolion ledled y DU ac Iwerddon yn eu cyfanrwydd. Gyda bron i 600 o sefydliadau, timau ac unigolion wedi’u henwebu, mae llwyddo i gyrraedd rhestr fer eleni wir yn gyflawniad gwych. 

"Edrychwn ymlaen at ddathlu ymateb anhygoel staff prifysgol mewn amgylchiadau eithriadol o anodd pan fyddwn ni’n ymgynnull ar gyfer Oscars y byd addysg uwch ym mis Tachwedd.”   

Bellach yn ei 17eg flwyddyn, gwobrau'r Times Higher Education yw un o uchafbwyntiau'r calendr academaidd ac mae'n dathlu'r sefydliadau gorau oll yn y sector Addysg Uwch.

Cyhoeddir yr enillydd yn yr hyn a obeithir a fydd yn ddigwyddiad yn y cnawd yn Llundain ar 25 Tachwedd.