Hafan>Newyddion>Dileu gwasanaeth bws MetWibiwr dros dro

Dileu gwasanaeth bws MetWibiwr dros dro

Newyddion | 18 Medi, 2021

Mae gwasanaeth MetRider Prifysgol Metropolitan Caerdydd wedi’i atal dros dro oherwydd effaith barhaus y pandemig Covid-19.

Er y bydd llwybrau trafnidiaeth gyhoeddus amgen a defnydd rhad ac am ddim o'r rhwydwaith nextbike ar gyfer myfyrwyr a staff Met Caerdydd yn opsiynau i lawer, rydym yn deall y bydd atal Metrider dros dro yn peryglu gallu rhai myfyrwyr a staff i gael mynediad i gampysau ein Prifysgol. Manylir ar ddewisiadau amgen i'r gwasanaeth MetRider isod.

Rydym wedi cynnal asesiad cychwynnol o effaith atal y gwasanaethau MetRider dros dro ond rydym yn cydnabod bod angen i ni ymgynghori â'n staff a'n myfyrwyr yn ehangach i gael darlun llawnach. 

Mae Met Caerdydd yn cymryd ei ymrwymiad i hyrwyddo cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant o ddifrif yn unol â dull gweithredu'r Brifysgol sy'n cael ei yrru gan werthoedd. Fel rhan o'n dyletswydd cydraddoldeb, mae'n rhaid i ni asesu effaith debygol polisïau ac arferion arfaethedig a rhai a adolygwyd. Mae hyn yn golygu ein bod yn asesu'r effaith ar bobl sy'n rhannu nodweddion gwarchodedig (oedran, anabledd, ailbennu rhywedd, priodas a phartneriaeth sifil, beichiogrwydd a mamolaeth, hil, crefydd a chred, rhyw neu gyfeiriadedd rhywiol).

Dylai myfyrwyr sy'n debygol o gael eu heffeithio gan atal gwasanaethau MetRider dros dro oherwydd anabledd neu ryw fater iechyd arall gysylltu â'r Gwasanaeth Llesiant Myfyrwyr yn wellbeingsupport@cardiffmet.ac.uk a bydd un o'r tîm yn gweithio gyda nhw.

Dylai staff gysylltu â'r Cynghorydd Iechyd Galwedigaethol yn occupationalhealth@cardiffmet.ac.uk. Yna trefnir cyfarfod i drafod ymhellach.

Cysylltir yn uniongyrchol â phob defnyddiwr gwasanaeth a brynodd docynnau tymor 2019-20 trwy e-bost.


Opsiynau amgen:


Cerdded

Mae cerdded i'r campws yn ddull hawdd, cyflym a rhad ac am ddim o'r Neuaddau Preswyl sydd wedi'u lleoli'n agos at ein campysau. Ymunwch ag eraill o'ch aelwyd chi i baru amserlenni a cherddwch gyda'ch gilydd. Dyma'r daith gerdded o Blas Gwyn i Gampws Llandaf


Beicio

Os oes gennych chi'ch beic eich hun yna dewch ag ef i'r Brifysgol a'i ddefnyddio. Mae Caerdydd yn ddinas anhygoel i feicio ynddi ac enillodd Met Caerdydd y wobr Busnes Mwyaf Cyfeillgar i Feicio yng Ngwobrau Beicio Caerdydd 2019.

Mae ystorfeydd beiciau sych â mynediad trwy gerdyn, standiau cynnal a chadw, offer, loceri, cawodydd a hyd yn oed llwybrau beicio ar gael ar ein campysau ac o'u hamgylch. Mae gan Landaf gyfleusterau pwrpasol sydd yng nghefn yr Ysgol Celf a Dylunio. Yng Nghyncoed mae cyfleusterau yn y Ganolfan Tenis.

Ymunwch ag eraill am 8:30am y tu allan i dderbynfa Plas Gwyn neu Unite i reidio gyda'ch gilydd i Gampws Llandaf yng nghonfoi beicio Met Caerdydd!

cycling-award.jpg

nextbike UK - Newyddion cyffrous! Eleni rydym wedi cadarnhau ein bod wedi prynu 5,000 o drwyddedau nextbike i fyfyrwyr Met Caerdydd yn unig eu defnyddio! Mae AM DDIM am y 30 munud cyntaf, bob tro y byddwch chi'n defnyddio un, cynifer o weithiau'r dydd ag y dymunwch, bob dydd am flwyddyn! Mae Campws Llandaf i Ganol y Ddinas yn ddeng munud ar nextbike. Mae Campws Cyncoed i ardaloedd myfyrwyr Y Rhath/ Cathays yn ddeng munud ar nextbike.

Mae gennym orsafoedd ar bob campws a ger pob Neuadd Breswyl. Mae angen i chi dalu blaendal o £5 ond fe gewch chi hynny yn ôl os byddwch chi'n gadael y cynllun. Fe'ch cynghorir i lanweithio gafaelion dwylo, y gloch a'r cpu ac ati wrth ddefnyddio nextbike.

I gofrestru i ddefnyddio nextbike lawrlwythwch yr app nextbike neu ewch i www.nextbike.co.uk/en/cardiff.

Cofiwch gofrestru gyda'ch cyfeiriad e-bost Prifysgol.

Bws

Mae app Bws Caerdydd yn darparu manylion y rhwydwaith bysiau ledled y ddinas ac yn caniatáu i ddefnyddwyr brynu tocynnau symudol.

https://www.cardiffbus.com/mobile-tickets

Os ydych yn 16-21 oed gallwch chi leihau cost teithio o draean trwy wneud cais am Fy Ngherdyn Teithio Llywodraeth Cymru. Sylwch y bydd angen i chi wneud cais serch hynny gyda chyfeiriad yng Nghymru gan ei fod yn berthnasol ar gyfer teithio yng Nghymru yn unig. Bydd angen i chi hefyd ddangos y cerdyn pryd bynnag y byddwch yn defnyddio'r app ar gyfer tocyn gostyngol ar fws.

https://fyngherdynteithio.llyw.cymru/cy/

Byddwch yn ymwybodol bod rhaid gwisgo gorchuddion wyneb bob amser ar wasanaethau Bws Caerdydd.

Daliwch y gwasanaeth 52 i fynd i Gampws Cyncoed. Mae'n stopio o flaen y prif adeilad ac yn rhedeg bob 20 munud. Mae amseroedd gwasanaeth a'r llwybr yma:

https://www.cardiffbus.com/services/CB/52

Daliwch y gwasanaeth 1 neu 2 sy'n stopio yn union y tu allan i Gampws Llandaf neu'r 25 sy'n stopio ychydig funudau o gerdded i ffwrdd naill ai yn Ysgol Howells neu Bentref Llandaf.

https://www.cardiffbus.com/services/CB/1

https://www.cardiffbus.com/services/CB/2

https://www.cardiffbus.com/services/CB/25

Mae Traveline Cymru yn wych i'w ddefnyddio i weld sut i gyrraedd y campws. Rhowch gynnig arno yma:

https://www.cymraeg.traveline.cymru/


Tacsi/Uber

Dewis arall yw dal tacsi neu Uber i'ch campws a rhannu'r gost ymhlith eich aelwyd. Mae Uber o'r Rhath/Cathays i Gampws Llandaf neu Gampws Cyncoed tua £8 bob ffordd. Cofiwch ei ddefnyddio gyda'ch aelwyd sefydledig yn unig a gwisgwch fwgwd.