Hafan>Newyddion>Myfyrwyr yn mynd i'r afael â her ‘Sport Relief’ Alfie

Myfyrwyr yn mynd i'r afael â her ‘Sport Relief’ Alfie

Rhagfyr 20, 2019

Cardiff Metropolitan University
Myfyrwyr yn cefnogi 'Alfie' gyda'r her 

Mae tri o fyfyrwyr Darlledu Chwaraeon Met Caerdydd yn dathlu ar ôl cwblhau taith oes yn cefnogi her Sport Relief epig yr arwr rygbi Gareth Thomas.

Ymunodd Kay Davies, Greg Caine a Jack Jones â chyn capten Cymru ar daith feicio saith diwrnod o 500 milltir o Gymru i'r Alban i godi arian i elusen wrth helpu i dorri stigma HIV.
Dechreuodd Gareth, a gafodd ganmoliaeth eang am ddatgelu ei fod yn HIV positif, ar ei daith ym Mharc Bute Caerdydd, gan gyflwyno tlws Personoliaeth Chwaraeon y Flwyddyn y BBC i Arena P&J Live yn Aberdeen - lleoliad y gwobrau blynyddol.

Yng nghwmni 'Alfie' bob milltir o'r ffordd roedd y tri myfyriwr Darlledu Chwaraeon Met Caerdydd, yn creu cynnwys ar alwad cyflym i'r BBC er mwyn rhoi cyhoeddusrwydd i'r genhadaeth a chodi arian ar gyfer Sport Relief. 
Yn ystod taith feicio saith diwrnod Gareth - a alwyd yn Tour De Trophy - ymunodd enwogion ag ef gan gynnwys Judy Murray, y Fonesig Kelly Holmes a Shane Williams, a gafodd eu cyfweld gan y tri myfyriwr o Met Caerdydd. Fe brofon nhw law, eirlaw ac eira, gan ddechrau'n gynnar yn y bore a gorffen yn hwyr fin nos, ffilmio trwy'r dydd, ac roedd hyn yn aml yn cynnwys golygu trwy'r nos er mwyn cyflawni eu tasg.  

Mae'r cynnwys y gwnaethon nhw ei greu bellach wedi cael ei weld a'i rannu gan filiynau ar draws llwyfannau'r BBC, hyd yn oed yn ymddangos fel rhan o ddarllediad teledu Sports Personality of the Year ar ddydd Sul, Rhagfyr 15 ar y BBC.
Recriwtiwyd y myfyrwyr gan gwmni cynhyrchu digidol Cymru, Siml Social, ac mae ei Brif Swyddog Gweithredol Owen Williams yn rhoi darlith flynyddol i fyfyrwyr Darlledu Chwaraeon Met Caerdydd. Pan oedd yn chwilio am dîm i ffilmio, golygu a chreu cynnwys yn ystod yr her, gofynnodd i Gyfarwyddwr y Rhaglen Ddarlledu Chwaraeon, Joe Towns, a oedd ganddo unrhyw fyfyrwyr ar gael ar gyfer yr antur. 

Roedd yn gyfle euraidd i'r myfyrwyr ac yn un y mae cyfarwyddwr y cwrs Joe Towns yn hynod falch ohono. 
"Roedd yn wych eu gweld yn rhoi'r sgiliau y gwnaethon nhw eu dysgu ar y cwrs ar waith a'u defnyddio ar gyfer achos mor anhygoel," meddai. "Roeddwn i'n gwylio eu cynnwys bob dydd ar y BBC ac roedd safon y ffilmio, ansawdd yr adrodd straeon a'r emosiwn y gwnaethon nhw gynnwys yn y ffilmiau wedi gwneud cymaint o argraff arna i." 

Roedd Owen Williams, cyn Pennaeth Cymdeithasol BBC Un, wrth ei fodd gyda'r mewnbwn gan y myfyrwyr ac yn amlwg roedd eu set sgiliau wedi creu argraff arno. Dywedodd ef: "Mae'r cwrs Darlledu Chwaraeon MSc yn ddigyffelyb wrth gyflenwi gwaed newydd gyfoethog o dalent i'r diwydiant."

Dywedodd Greg Caine, myfyriwr Darlledu Chwaraeon Met Caerdydd, a sefydlodd ei gwmni fideo graffeg ei hun yn ddiweddar: "Mae'r daith wedi bod yn brofiad anghredadwy. Roedd yn wallgof gweld fideos yr oeddem wedi eu ffilmio a'u golygu yn cael cannoedd ar filoedd o olygon ar y BBC. "

Pan aeth eu fideo olaf allan yn ystod darllediad Sports Personality of the Year, fe drydarodd y myfyriwr Darlledu Chwaraeon, Jack Jones: "Mae angen i mi eistedd yn ôl a chymryd eiliad. Mae lluniau y gwnes i eu ffilmio a'u golygu yn cael eu gweld gan filoedd yn yr arena a miliynau yn ôl gartref. Mae wedi bod yn anhygoel." 

Ychwanegodd Cyfarwyddwr Rhaglen Darlledu Chwaraeon Met Caerdydd, Joe Towns: "Ein nod yw i fyfyrwyr fod yn barod am ddiwydiant felly mae'n wych pan fydd ein myfyrwyr yn ennill cyfleoedd yn y byd go iawn ac yn profi bod ein cwrs yn gyfredol ac yn gyfoes."