Hafan>Newyddion>Cynllun chwaraeon yn dod â buddion enfawr i Gaerdydd

Cynllun chwaraeon yn dod â buddion enfawr i Gaerdydd

​Newyddion | 5 Hydref 2021

Mae partneriaeth arloesol rhwng Prifysgol Metropolitan Caerdydd ac Ymddiriedolaeth Ieuenctid Heddlu De Cymru’n cyflawni canlyniadau cadarnhaol mewn troseddau ieuenctid.

Ers ei lansio chwe mis yn ôl, mae Camu i Chwaraeon wedi ymwneud â 25 person rhwng 11 a 18 oed mewn 140 awr o sesiynau gweithgarwch corfforol un i un gan gynnwys crefft ymladd gymysg, bocsio a ChroesFfit.

Mae’r prosiect wedi gweld cyfradd llwyddiant o 100 y cant, ac nid oes unrhyw droseddau wedi’u hysbysu i’r heddlu ymysg yr unigolion hyn.

Mae Camu i Chwaraeon yn defnyddio gwerth chwaraeon er newid cymdeithasol ac ymgysylltiad cymunedol cadarn er mwyn darparu ymyrraeth gynnar ar gyfer troseddau a gyflawnir gan ieuenctid. Mae’r cynllun yn grymuso pobl ifanc i fagu hyder, cymhelliant a chyflawni eu potensial ar gyfer dyfodol mwy cadarnhaol.

Mae’r prosiect wedi’i leoli yn y brifddinas gyda nifer o glybiau chwaraeon yn cymryd rhan:

  • Clwb Rygbi Trelái a Chaerau a Chlwb Pêl-droed Trelái a Chaerau
  • Clwb Tennis Bwrdd Dinas Caerdydd
  • GLL Leisure
  • Hangar Human Performance Centre
  • Clwb Bocsio Phoenix Llanrhymni
  • Tiger Bay ABC

Mae Chwaraeon Caerdydd, y Gwasanaeth Cyfiawnder Ieuenctid a Gwasanaeth Ieuenctid Caerdydd i gyd yn cyfrannu adnoddau at y cynllun hwn hefyd.

Dywedodd Alun Michael, Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu: "Mae’r Prosiect Step into Sport yn cydnabod yr angen i bobl ifanc agored i niwed yng Nghaerdydd gael cyfleoedd diogel i ddatblygu a thyfu, gan gynnig llwybr hanfodol sy’n eu torri i ffwrdd o fywyd o droseddu ac yn caniatáu iddynt fyw bywydau iach, diogel a llewyrchus.

"Mae'r llwyddiant y prosiect yn ystod y chwe mis cyntaf yn dangos yn glir y grym cadarnhaol y gall chwaraeon ei gael ar fywydau ifanc a'r hyn y gallwn ei gyflawni gyda'n gilydd trwy weithio ar y cyd. Wrth i’r prosiect esblygu ac ehangu, rwy’n hyderus y bydd yn parhau i fod yn llwyddiannus a hoffwn ddiolch i bawb sydd wedi cyfrannu at y llwyddiant yma hyd yn hyn."

Ychwanegodd yr Athro Cara Aitchison,Llywydd ac Is-Ganghellor Prifysgol Metropolitan Caerdydd: "Mae Prifysgol Metropolitan Caerdydd yn cydnabod y cyfraniad trawsnewidiol y gall chwaraeon ei gael ym mywydau pobl ac rydym yn falch o chwarae ein rhan yn yr hyn sydd wedi troi’n brosiect llwyddiannus mewn amser byr.

"Ar ôl adeiladu sylfeini cryf iawn eleni, hoffem ddymuno’r gorau i bob sefydliad partner Camu i Chwaraeon wrth barhau i dyfu a datblygu’r prosiect cyffrous hwn."

Elusen yw Ymddiriedolaeth Ieuenctid Heddlu De Cymru sy’n cynnig grantiau i sefydliadau a phrosiectau sy’n cynnig llwybr arall i bobl ifanc yn hytrach na chael eu denu at drosedd, ymddygiad gwrthgymdeithasol a chamddefnyddio sylweddau. Ei nod yw bod y bobl ifanc hynny sydd wedi profi’r system cyfiawnder troseddol yn cael y cyfle i adeiladu’r sylfeini i wneud dewisiadau bywyd mwy cadarnhaol, cael perthnasoedd gwell a lles meddyliol a chorfforol gwell.

Gwnaed £20,000 o gyllid ar gael ar gyfer Camu i Chwaraeon gan Ymddiriedolaeth Ieuenctid Heddlu De Cymru gydag arian cyfatebol gan Brifysgol Metropolitan Caerdydd.