Newyddion | 12 Mai, 2021
Sophie Ingle
Bydd myfyriwr graddedig Ysgol Chwaraeon Caerdydd a chapten Cymru, Sophie Ingle, yn wynebu Barcelona wrth iddi gamu ar y cae chwarae dros Chelsea FC yng ngêm derfynol yn bencampwriaeth y Champions League y penwythnos hwn.
 gradd mewn Datblygu a Hyfforddi Chwaraeon, cynrychiolodd Ingle y brifysgol drwy gydol ei hastudiaethau, gan helpu tîm Pêl-droed Merched Met Caerdydd i sicrhau dwy fuddugoliaeth Chwaraeon Prifysgolion a Cholegau Prydain yn ystod ei hamser yn y clwb.
Mae tîm Merched Chelsea nawr yn gobeithio estyn eu cyfres o ganlyniadau gwych trwy ddod yn bencampwyr Ewrop am y tro cyntaf yn hanes y gynghrair pan fyddan nhw’n chwarae yn erbyn tîm aruthrol Barcelona. Eisoes wedi ychwanegu teitlau’r Darian Gymunedol, Cwpan y Gynghrair a Super League y Merched i’w cwpwrdd tlysau, fydd y Gleision ddim o dan unrhyw gamargraff o ran safon tîm Barca ar ôl eu gweld nhw’n curo’u cystadleuwyr domestig, Manchester City, yn gynharach yn y gystadleuaeth.
Wedi chwarae dros Gymru ar lefel Dan-17 a Dan-19, enillodd Ingle ei phrif gap cyntaf yn 2009 ac ers hynny bu’n gapten ar y tîm cenedlaethol. Chwaraeodd Ingle ei phêl-droed cynnar yn Uwch Gynghrair y Merched dros Ferched Dinas Caerdydd lle enillodd Gwpan Cymru, ac mae’n gobeithio defnyddio profiad y Cwpan hwnnw ddydd Sul.
Dywedodd yr Uwch Ddarlithydd a chyn hyfforddwr Sophie, Dr Kelly Harris: “Mae angerdd Sophie dros bêl-droed heb ei ail ac rydw i wrth fy modd ei gweld hi’n llwyddo mewn gêm sy’n meddwl y byd i’r ddwy ohonom. Mae hi’n crynhoi’r athletwr gyrfa ddeuol i’r dim, gan ddangos safonau uchel ym mhopeth a wna.
“Mae hi’n fodel rôl i ferched ifainc ym mhobman, wedi ymrwymo i’w thîm waeth pa grys sydd amdani - a byddaf yn ei hannog ymlaen o’r tŷ'r penwythnos hwn. Amdani Sophie! Amdani Chelsea!”
Yn y gêm, sydd i’w chwarae yn y Gamla Ullevi yn Gothenburg, Sweden ddydd Sul 16 Mai, bydd y ddau dîm yn gwneud eu cais am y tlws, gyda’r naill na’r llall heb ennill y wobr a chwenychir yn fawr o’r blaen.