Hafan>Newyddion>Prosiect ymchwil newydd yn awgrymu gallai gwaith fferm gyda buchod godro helpu gydag adsefydlu a lleihau aildroseddu

Prosiect ymchwil newydd yn awgrymu gallai gwaith fferm gyda buchod godro helpu gydag adsefydlu a lleihau aildroseddu

Newyddion | 19 Tachwedd 2024

Mae astudiaeth seicolegol gan Brifysgol Metropolitan Caerdydd wedi amlygu sut y gallai’r rhyngweithio rhwng carcharorion a buchod godro greu newidiadau ymddygiad cadarnhaol a helpu gydag adsefydlu, gan leihau’r risg y bydd carcharorion yn aildroseddu.

Buwch godro


Gan weithio gyda charcharorion yng ngharchar agored CEM Prescoed ym Mrynbuga, De Cymru, roedd ymchwilwyr o Met Caerdydd yn gallu archwilio sut roedd carcharorion a oedd yn gweithio ar fferm laeth fel rhan o’u cyflogaeth carchar yn elwa o weithio gyda’r anifeiliaid ac fel rhan o ar Fferm Cilwrgi sy’n eiddo i HMPPS.

Mae Dr Libby Payne yn Uwch Ddarlithydd mewn Seicoleg Fforensig ym Met Caerdydd ac wedi arwain ar yr ymchwil. Dywedodd: “Rydyn ni’n gwybod bod rhai pobl sy’n dod i ben yn y system garchardai wedi cael bywydau lle efallai nad ydyn nhw wedi cael gofal wedi’i fodelu ar eu cyfer.

“Ac eto, pan oeddwn yn gwneud fy ymchwil yma ar y fferm, yr hyn yr oeddwn yn ei glywed gan y staff oedd bod y carcharorion yn dangos gofal clir ac empathi tuag at yr anifeiliaid.

“Roedd yn rhaid iddynt lywio eu hymatebion emosiynol i sefyllfaoedd fel salwch neu golled o fewn y fuches; rhinweddau a all yn y pen draw eu cefnogi i gadw draw oddi wrth droseddu.

“Mae’r ymchwil hwn yn awgrymu y gallai rhaglenni sy’n ymwneud â gofal anifeiliaid gael effeithiau parhaol ar fywydau a chanlyniadau carcharorion.”

Amlygodd y prosiect ymchwil hefyd sut mae perthnasoedd staff-carcharorion yn cael eu cryfhau trwy’r cyfrifoldebau a rennir ar Fferm Cilwrgi. Yn ôl Dr Libby Payne, roedd cefnogaeth a mentoriaeth staff y fferm yn annog carcharorion i feithrin cyfeillgarwch a gwydnwch emosiynol, gan hybu eu datblygiad personol. Canfu ei hymchwil fod y cwlwm hwn yn ymestyn y tu hwnt i’r fferm, gyda charcharorion yn cefnogi ei gilydd mewn gweithgareddau fel darllen ac ysgrifennu, gan greu ymdeimlad o gymuned a oedd yn anghyfarwydd i lawer ohonynt cyn iddynt gyrraedd Carchar Prescoed.

Arwydd y tu allan i Fferm Cilwrgi


Dywedodd Rheolwr Fferm Cilwrgi, Richard Gough: “Mae’r ymchwil mae Libby wedi ei wneud yma ar y fferm yn bwysig, dwi ddim yn meddwl bod digon o ymchwil wedi bod yn y gorffennol ac mae gwir angen edrych ar yr effaith ar iechyd meddwl. Rydw i a fy staff yn gweld manteision carcharorion yn gweithio gydag anifeiliaid a sut maen nhw’n ymateb mewn ffordd gadarnhaol. Mae cyswllt ag anifeiliaid – boed yn anifeiliaid fferm neu anifeiliaid anwes neu anifeiliaid domestig – yn beth cryf iawn sy’n helpu i adsefydlu carcharorion.”

“Mae dysgu rheoli ymddygiad ac emosiynau a chyfathrebu’n well yn hanfodol i adsefydlu llwyddiannus.” Ychwanegodd Dr Payne.

Bydd Dr Libby Payne yn ehangu ei hymchwil i ffermydd carchardai eraill lle mae carcharorion yn gweithio gyda da byw i archwilio profiadau staff a charcharorion i weld a all y math hwn o weithgaredd gwaith gynnig sgiliau adsefydlu y tu allan i gyflogaeth yn y sector ffermio.

Bu Dr Libby Payne yn ymddangos ar raglen Country Focus BBC Radio Wales ddydd Sul 17 Tachwedd yn trafod y prosiect ymhellach; gwrandewch ar y rhaglen ar BBC Sounds. Mae’r adroddiad llawn a chanfyddiadau’r ymchwil ar gael i’w darllen yn The Journal of Forensic Psychiatry & Psychology.

I drefnu cyfweliad gyda Dr Libby Payne neu am ragor o wybodaeth, cysylltwch â Swyddfa’r Wasg Met Caerdydd: press@cardiffmet.ac.uk.