Hafan>Newyddion>Yr Athro Tony Chapman OBE

Yr Athro Tony Chapman OBE

​4 Gorffenaf 2022

Mae cymuned Met Caerdydd yn drist o glywed am farwolaeth y cyn Is-Ganghellor, yr Athro Antony J Chapman OBE.

Bu'r Athro Chapman yn Is-Ganghellor Met Caerdydd am 18 mlynedd o 1998 i'w ymddeoliad ym mis Medi 2016. Ef oedd yr Is-Ganghellor a wasanaethodd hiraf yng Nghymru.

Bu farw'r Athro Chapman ddydd Gwener, 1af Gorffennaf, wedi'i amgylchynu gan ei deulu cariadus.

Yn wreiddiol o Caergaint, cynhaliodd yr Athro Chapman nifer o rolau academaidd ac arweinyddiaeth ym Mhrifysgolion Caerdydd, Leeds a Chymru drwy gydol ei yrfa ac, ymhlith cyflawniadau eraill, mae'n gyn-Lywydd Cymdeithas Seicolegol Prydain.

Yn raddedig mewn Mathemateg a Seicoleg, mae ei waith academaidd wedi'i gyhoeddi'n eang a chydnabyddir ei fod wedi gwneud cyfraniadau eithriadol a sylweddol i'r Gwyddorau Cymdeithasol.

Yn ystod ei gyfnod ym Met Caerdydd, llwyddodd yr Athro Chapman i frwydro yn erbyn y bygythiad o uno, goruchwyliodd Athrofa Prifysgol Cymru Caerdydd (UWIC) ddod yn Met Caerdydd, dathlu ein pen-blwydd yn 150 oed a derbyn gwobr Pen-blwydd y Frenhines yn 2015.

Dyfarnwyd Doethuriaeth er Anrhydedd mewn Llythyrau i'r Athro Chapman gan Met Caerdydd yn 2016 a Doethuriaeth er Anrhydedd mewn Gwyddoniaeth o Brifysgol Caerlŷr yn 2008. Dyfarnwyd OBE iddo ym mis Ionawr 2018 am ei wasanaethau i addysg.

Dywedodd yr Athro Cara Aitchison, Is-Ganghellor a Llywydd presennol Met Caerdydd: "Arweiniodd yr Athro Tony Chapman y Brifysgol drwy gyfnod o ansicrwydd a newid sylweddol yn y tirlun addysg uwch ledled Cymru, y DU yn ehangach ac yn rhyngwladol. Roedd ganddo gyfnod hir a llwyddiannus fel Is-Ganghellor ac mae pawb ym Met Caerdydd yn ddiolchgar am y rhan a chwaraeodd wrth sefydlu'r brifysgol ac am gadw ei hannibyniaeth sefydliadol.

"Ar ran staff a myfyrwyr presennol Met Caerdydd, yn ogystal â'n cyn-fyfyrwyr, hoffwn anfon ein cydymdeimlad dwysaf at deulu a ffrindiau Tony."