Hafan>Newyddion>Yr Athro Rachael Langford wedi’i phenodi’n Is-Ganghellor ac Arlywydd Metropolitan Caerdydd

Yr Athro Rachael Langford wedi’i phenodi’n Is-Ganghellor ac Arlywydd Prifysgol Metropolitan Caerdydd

​​​​​Newyddion | 15 Tachwedd 2023

​​Mae Prifysgol Metropolitan Caerdydd yn falch o gyhoeddi penodiad yr Athro Rachael Langford FRSA fel ei Is-Ganghellor a’i Llywydd Newydd o 1 Chwefror 2024.

Yr Athro Rachael Langford


Mae’r Athro Langford yn dod â chyfoeth o brofiad ac mae ganddi hanes cryf o arweinyddiaeth effeithiol mewn addysg uwch, yn ei rôl bresennol fel Dirprwy Is-Ganghellor ym Met Caerdydd, ac mewn rolau uwch blaenorol ym Mhrifysgol Oxford Brookes a Phrifysgol Caerdydd. Bydd perthynas yr Athro Langford â’r Deoniaid, Cyfarwyddwyr gwasanaethau proffesiynol a chydweithwyr ar draws y Brifysgol, a’i chysylltiad agos â llais y myfyrwyr yn gryfder mawr wrth fynd â ni ymlaen dros y blynyddoedd nesaf.

Dywedodd yr Athro Langford: “Rwy’n edrych ymlaen yn fawr at barhau i weithio gyda chydweithwyr i gyflawni cynlluniau strategol uchelgeisiol y Brifysgol ar gyfer y dyfodol, gan sicrhau bod staff a myfyrwyr Met Caerdydd yn parhau i fod mewn sefyllfa dda i fynd i’r afael â’r heriau cymdeithasol, diwylliannol, economaidd ac amgylcheddol sy’n wynebu Cymru a’r byd ehangach.”

Cyn dod yn Ddirprwy Is-Ganghellor ym Met Caerdydd ym mis Medi 2021, roedd yr Athro Langford yn Bennaeth yr Ysgol Ieithoedd Modern ym Mhrifysgol Caerdydd, ac ar ôl hynny’n Rhag Is-Ganghellor ac yn Ddeon Cyfadran y Dyniaethau a’r Gwyddorau Cymdeithasol ym Mhrifysgol Oxford Brookes.

Mae gan yr Athro Langford radd dosbarth cyntaf mewn Astudiaethau Ffrangeg o Brifysgol Rhydychen, PhD mewn Astudiaethau Diwylliannol Ffrangeg o Brifysgol Caergrawnt, ac yn rhugl yn y Gymraeg. Mae ganddi gefndir ymchwil mewn Ffrangeg ac astudiaethau diwylliannol Ffrangeg, yn enwedig astudiaethau trefedigaethol ac ôl-drefedigaethol, diwylliant gweledol ac astudiaethau ffilm o’r bedwaredd ganrif ar bymtheg ymlaen.

Mae’r Athro Helen Langton, a oedd i fod i ymuno â Met Caerdydd fel Is-Ganghellor ym mis Ebrill 2024, wedi tynnu’n ôl o’r swydd am resymau personol.

Bydd yr Athro Langford yn dechrau’r swydd ar y 1af o Chwefror 2024, yn dilyn ymddeoliad yr Is-Ganghellor presennol, yr Athro Cara Aitchison FAcSS, FRGS, FHEA, FWLA, FLSW​.